Cadeirydd newydd WCVA, Neil Wooding CBE gyda Phrif Weithredwr WCVA, Ruth Marks

CGGC yn penodi Cadeirydd newydd

Cyhoeddwyd : 05/04/22 | Categorïau: Ar gyfer aelodau |

Yn dilyn proses recriwtio agored, mae’n bleser gan CGGC gyhoeddi mai Neil Wooding CBE sydd wedi’i benodi fel Cadeirydd ym mis Tachwedd 2022.

Ar ôl wyth mlynedd o arweinyddiaeth ragorol fel Cadeirydd CGGC, bydd Peter Davies yn rhoi’r gorau i’r rôl ym mis Tachwedd 2022. Er mwyn paratoi ar gyfer hyn, rydyn ni wedi cynnal proses recriwtio agored i ddod o hyd i Gadeirydd newydd.

Gwnaeth ein chwiliad, a arweiniwyd gan gwmni recriwtio Acorn, arwain at y penderfyniad unfrydol o benodi Neil Wooding CBE.

NEIL WOODING CBE

Cafodd y penderfyniad i recriwtio Neil ei seilio ar ei brofiad helaeth sy’n cyd-fynd â’n nodau fel mudiad wrth i ni edrych tua’r dyfodol.

Mae gan Neil, a enillodd CBE am ei wasanaethau i gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb, gyfoeth o wybodaeth a phrofiad yn y meysydd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, arloesedd digidol a gwella gwydnwch. Mae’r holl bethau hyn yn allweddol i’n strategaeth newydd ni a fydd yn cael ei lansio ym mis Ebrill.

Mae Neil wedi gweithio mewn swyddi uchel yn Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ac mae ganddo brofiad helaeth fel ymddiriedolwr nifer o fudiadau gwirfoddol, gan gynnwys Stonewall UK, Sefydliad Bevan a’r ‘Lloyd’s Bank Foundation Trust’.

Bydd gwybodaeth a phrofiad Neil, ochr yn ochr â’n bwrdd ymddiriedolwyr amrywiol a brwdfrydig, yn gaffaeliad go iawn i CGGC. Bydd hefyd yn gaffaeliad i’n haelodau wrth i ni i gyd wynebu rhai o’r heriau sydd o’n blaenau ni, fel y cyllid Ewropeaidd yn dod i ben, addasu i ffyrdd newydd o weithio a gwella cydraddoldeb i bawb.

CAMAU NESAF

Mae Peter Davies wedi cyfrannu’n helaeth at y gwaith o arwain CGGC a’r sector, felly roeddem ni eisiau sicrhau cyfnod trosglwyddo hir. Bydd Peter a Neil yn treulio amser gyda’i gilydd yn ystod y misoedd i ddod er mwyn sicrhau cyfnod pontio llyfn.

Bydd Neil hefyd yn ymuno â CGGC mewn digwyddiadau allweddol rhwng nawr a mis Tachwedd, a bydd cyfle i aelodau ymuno â sesiwn banel holi ac ateb unigryw i aelodau yn unig gyda Peter, Neil a’n Prif Weithredwr, Ruth Marks, yn gofod3.

Bydd rhaglen gofod3 yn cael ei chyhoeddi ym mis Mai er mwyn i gynrychiolwyr gadw lle ar y sesiynau. Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol a chofrestrwch i gael ein cylchlythyr er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu Neil i deulu CGGC a rhoi cyfle i’n haelodau ddod i adnabod ein Cadeirydd newydd.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 28/04/23
Categorïau: Ar gyfer aelodau

Yn dod yn fuan – Gwobrau Elusennau Cymru 2023

Darllen mwy