Mae’r Wythnos Ymddiriedolwyr yn ddigwyddiad blynyddol i ddangos y gwaith arbennig y mae ymddiriedolwyr yn ei wneud ac amlygu’r cyfleoedd i bobl o bob lliw a llun gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth.
Cynhelir Wythnos Ymddiriedolwyr 2022 rhwng 7 – 11 Tachwedd.
Hoffai CGGC ddweud ‘diolch’ mawr i’r holl bobl sy’n gwirfoddoli fel ymddiriedolwyr ac yn gwneud cyfraniad enfawr at elusennau ar hyd a lled Cymru. Fydden ni’n methu â’i wneud heboch!
RHAGLEN GYFFROUS
Mae Wythnos yr Ymddiriedolwyr (Saesneg yn unig) yn gyfle gwych i ddathlu a diolch i’ch ymddiriedolwyr am y gwaith y maen nhw’n ei wneud. Mae bod yn ymddiriedolwr yn golygu ysgwyddo cryn dipyn o gyfrifoldebau ac ymrwymiadau amser ac mae’r rôl, bron yn ddieithriad, yn ddi-dâl.
Mae CGGC wedi trefnu rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau i ymddiriedolwyr.
Ar ddydd Llun 7 Tachwedd, byddwn yn dechrau’r wythnos gyda digwyddiad i ymddiriedolwyr ar ddatblygu gwasanaethau digidol.
Bydd ein prif ddigwyddiad yn cael ei gynnal ddydd Mercher 9 Tachwedd gyda phanel o siaradwyr yn siarad am sut gall ymddiriedolwyr wneud gwahaniaeth yn y cyfnod byth newidiol hwn.
Yn olaf, ar ddydd Iau 10 Tachwedd, mae gennym rifyn Wythnos Ymddiriedolwyr arbennig o’n gweminar boblogaidd, Diweddariad ar Lywodraethu Elusennau.
Beth ydych chi’n mynd i’w wneud yn ystod Wythnos yr Ymddiriedolwyr?
Dyma rai syniadau ar sut i gymryd rhan:
- Treuliwch ychydig o amser yn diolch i ymddiriedolwyr am eu cyfraniad
- Defnyddiwch yr hashnod #WythnosYmddiriedolwyr i ymuno â’r drafodaeth ar gyfryngau cymdeithasol
- Ewch i un o’r digwyddiadau lleol neu genedlaethol a fydd yn digwydd yn ystod yr wythnos
- Manteisiwch ar y cyfle i hysbysebu unrhyw leoedd gwag y gallai fod gennych chi ar gyfer ymddiriedolwyr
DIGWYDDIADAU ERAILL
Mae llawer o’n partneriaid gwych mewn Cynghorau Gwirfoddol Sirol (CVC) lleol hefyd yn cynnal digwyddiadau yn ystod yr wythnos, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar yr hyn sydd gan eich CVC i’w gynnig. Gallwch weld y rhestr yma: Cefnogi Trydydd Sector Cymru.
Gellir lawrlwytho pecyn ymgyrchu Wythnos yr Ymddiriedolwyr yma.
Mae digwyddiadau di-ri eraill yn cael eu cynnig gan bartneriaid ledled y DU. Am ragor o wybodaeth, ewch i brif wefan Wythnos yr Ymddiriedolwyr (Saesneg yn unig).
Gobeithio y gwelwn ni chi mewn rhai o’r digwyddiadau.
Eisiau’r newyddion diweddaraf, barna a chyhoeddiadau yn ogystal ag erthyglau defnyddiol ar bynciau sydd o bwys? Ymunwch gyda’n rhestr bostio. Bob wythnos rydym yn cynnig crynodeb o newyddion y sector wirfoddol a diweddariadau yn syth i’ch mewnflwch.