Dwy ddynes yn chwerthin a gwenu tu allan i’r fenter gymdeithasol, Câr-y-Môr, maen nhw’n gwisgo dillad brand Câr-y-Môr

CGGC yn cyllido gwymon a ffrogiau dawns er mwyn achub y blaned

Cyhoeddwyd : 09/01/23 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Mae’r Grant Dechrau Busnes Carbon Sero Net – cynllun peilot a reolir gan dîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru – yn rhoi hwb mawr ei angen i egin fusnesau cymdeithasol ledled Cymru.

Mae’r gronfa gyllido £150,000 gan Grant Dechrau Busnes Carbon Sero Net wedi rhoi sylw i rai mentrau cymdeithasol rhyfeddol yng Nghymru sydd wedi troi gwymon, cerdded cŵn, plastig wedi’i ailgylchu a hyd yn oed ffrogiau dawns yn fentrau proffidiol a chynaliadwy.

Ers cael y grant ym mis Mawrth 2022, mae’r mentrau cymdeithasol hyn eisoes yn ennill tir, gan gyflwyno buddion i’w cymunedau lleol, yn ogystal â’r blaned.

PAM SEFYDLU’R GRANT HWN?

Wedi’i gyllido gan Lywodraeth Cymru, gellir olrhain tarddiad y grant yn ôl i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ac mae’n cynnig llygedyn o obaith i fusnesau cymdeithasol corfforedig sy’n fyr o arian ond yn anelu’n uchel o ran effaith gymdeithasol a chreu swyddi.

Yn anffodus, mae busnesau o’r fath yn aml yn syrthio ar y rhwystr ariannol cyntaf. Eglura Alun Jones o dîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru: ‘Mae’n anodd i fusnesau cymdeithasol fynd y tu hwnt i gamau cynnar syniad – hyd yn oed pan mae’n syniad da iawn – oherwydd ni allant ddangos y “ffrydiau refeniw” yn ddigonol i wneud cais am gyllid ad-daladwy prif ffrwd. Oni bai bod ganddyn nhw fuddsoddiad preifat, mae syniadau da yn aml yn syrthio wrth ymyl y ffordd.’

Erbyn diwedd mis Mawrth 2023, bydd CGGC wedi dosbarthu hyd at £12,500 i 12 o fusnesau cymdeithasol ‘cam cynnar’ sy’n ymrwymedig i gyflawni statws carbon sero net a chael effaith gymdeithasol ar y gymuned leol, drwy ail-fuddsoddi eu helw yn ôl i’r busnes neu gymuned leol. Defnyddir y chwistrelliad ariannol hwn yn benodol i’w:

  • cael nhw’n barod i fasnachu neu fuddsoddi
  • ymwreiddio arferion amgylcheddol cynaliadwy o’r diwrnod cyntaf

I flaenoriaethu’r un olaf, daw pob grant â mentor hinsawdd. Yn hytrach nag ôl-osod ymddygiad sy’n ystyriol o’r hinsawdd, sy’n fater costus, mae’r mentor yn mesur allyriadau carbon tebygol cynllun busnes presennol ac yna’n ailgynllunio arferion gweithredu allweddol fel eu bod yn ystyriol o’r boced a’r planhigion.

Mae’r grant yn cael ei redeg mewn partneriaeth â Cwmpas a DTA Cymru sy’n cefnogi mudiadau gyda gweithredu newid hinsawdd.

DARLLENWCH AM SUT MAE’R GRANT YN CAEL EI DDEFNYDDIO AR HYN O BRYD

Trees for Tomorrow

Planhigfa goed newydd yn Nanhyfer yw Trees For Tomorrow (TFT). Wedi’i lleoli o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mae’n arbenigo mewn meithrin a thyfu eginblanhigion o goed brodorol canolig i fawr eu maint, fel coed Derw, Criafol a Ffawydd.

Gan mai Cymru yw un o’r gwledydd lleiaf coediog yn Ewrop, gyda dim ond 14% o’r dirwedd yn goetiroedd a llai na hanner y rhain yn goed brodorol neu lydanddail, bydd TFT yn allweddol i gyrraedd targedau plannu coed Llywodraeth Cymru ac i ddatblygu’r Goedwig Genedlaethol i Gymru.

Ar hyn o bryd, mae TFT yn cyflogi pobl yn rhan-amser, ond mae’n bwriadu cyflogi mwy o bobl leol unwaith y bydd wedi’i sefydlu. Mae’r grant yn cynorthwyo TFT i ddefnyddio blychau tyfu hir oes, yn ogystal â meithrin cydberthnasau cryf â’r gymuned leol er mwyn creu cyfleoedd gwirfoddoli.

Meddai’r sylfaenydd, Jonathan Tiller: ‘Mae’r grant wedi bod yn wych o ran ein helpu ni i sefydlu seilwaith busnes hanfodol a chynaliadwy, fel buddsoddi mewn cynhyrchion carbon isel na fydden ni wedi gallu eu fforddio fel arall. Yn y bôn, mae’r grant eisoes yn gwneud gwahaniaeth drwy ein helpu ni i leihau ein hôl troed carbon a’n cynorthwyo i wneud cynnydd at fod yn fusnes carbon niwtral.’

Agos o ddau ddyn yn plannu coed ifanc mewn natur

Câr-Y-Môr

Cymdeithas Budd Cymunedol yw Câr-Y-Môr a’r fferm fôr adfywiol gyntaf o’i bath yng Nghymru sy’n eiddo i’r gymuned. Gyda thair fferm beilot oddi ar Benrhyn Dewi, mae eu busnes o dyfu gwymon a ffermio pysgod cregyn wedi arwain at greu 11 o swyddi newydd a gwelliannau radical i amgylchedd yr arfordir.

Chwe mis ar ôl derbyn y Grant, mae ganddyn nhw nifer o gynhyrchion newydd ar werth mewn marchnad wythnosol, a llawer mwy ar fin cael eu dosbarthu ledled y wlad.

Eglura Rheolwr Cyllid Câr-Y-Môr, Tracey Gilbert-Falconer: ‘Mae’r Grant wedi ein helpu i gyflogi Tara, datblygwr cynhyrchion bwyd rhan-amser, sydd wedi bod yn creu cynhyrchion y gellir eu bwyta, fel sbageti, o’r gwymon rydyn ni’n ei dyfu. Heb grant CGGC, ni fyddwn wedi gallu defnyddio’r gwymon ar gyfer bwyd hanner mor gloi.’

Erbyn diwedd 2022, mae’r mudiad yn gobeithio symud i safle newydd amlddefnydd, a fydd yn cynnwys tŷ bwyd môr bychan, lle diogel wedi’i adeiladu’n bwrpasol i brosesu bwyd môr, a swît addysg i hyfforddi ffermwyr môr uchelgeisiol eraill.

Dwy ddynes o'r fenter gymdeithasol Câr-Y-Môr yn gwenu ar y camera, maen nhw'n gwisgo dillad brand Câr-Y-Môr

  • Egluryn: Rydych chi’n sicr o gael croeso cynnes ar fferm Câr-Y-Môr

Soaring Supersaurus

Cwmni celf a chynaliadwyedd ym Mhenrhys, Rhondda Cynon Taf yw ‘Soaring Supersaurus’, sy’n ailgylchu plastig er mwyn cyflwyno gweithgareddau celf a chynaliadwyedd i’r gymuned leol. Hyd yn hyn, mae wedi cadw 1,500 o boteli llaeth plastig rhag mynd i safle dirlenwi neu eu llosgi.

Wrth egluro cymaint y mae wedi helpu, meddai’r Cyfarwyddwr Artistig Paul Evans: ‘Fel menter gymdeithasol newydd, mae’n foethusbeth na fyddai’n bosibl fel arfer. Mae hyblygrwydd y grant wedi ein galluogi i ddefnyddio’r cyllid ble y mae ei angen mewn amgylchedd a chyfnod ansicr sy’n newid yn barhaus. Mae wedi caniatáu i mi anadlu. Mae wedi rhoi ychydig o amser i mi ddatblygu cynhyrchion yn briodol a rhoi cynnig ar rai pethau aflwyddiannus i weld beth sy’n gweithio.’

Mae’r grant wedi galluogi Paul i roi cyflog cymharol fach iddo’i hun, sy’n golygu bod y busnes mewn sefyllfa i lansio cynhyrchion a gweithgareddau newydd ar ddiwedd 2022.

Cadair wedi'i gwneud o blastig wedi'i ailgylchu, dyluniad newydd gan Soaring Supersaurus

  • Egluryn: Dyluniad newydd y gellir ei raddio ar gyfer mainc mewn parc

Cwmni Buddiannau Cymunedol (CIC) Ci Da Pet Care

Menter gymdeithasol gynhwysol ym Mhrestatyn yw CIC Ci Da Pet Care a sefydlwyd ym mis Hydref 2021. Mae’n darparu amrediad o wasanaethau gofal o ansawdd ar gyfer anifeiliaid anwes ac yn cynnwys pobl sy’n agored i niwed na allai eu fforddio fel arall.

Gan gyflogi pobl a fyddai’n cael anhawster mewn amgylcheddau gwaith prif ffrwd, mae’r busnes yn falch o’i rôl o allu cynnig lleoedd am ddim i rai anifeiliaid anwes, sy’n golygu y gall cŵn aros yn eu cartrefi llawn cariad ac allan o gyfleusterau achub anifeiliaid.

Mae eu ‘Cynllun Gofal yn y Gymuned’ yn achubiaeth, yn rhoi cymorth penodol i berchnogion anifeiliaid anwes sy’n rhieni newydd, cleifion mewn ysbyty, rhieni sengl, a’r rheini sy’n byw ag anabledd neu’n gwella ar ôl anaf. Mae’r cynllun hyd yn oed yn cynnig ‘help llaw’ cyffredinol: cymorth penodol i unrhyw un sy’n cael anhawster parhau i ofalu am ei anifail anwes.

Dywedodd y sylfaenydd, Annie Lloyd, fod y grant wedi llunio’r fenter gymdeithasol yn anferthol: ‘Rydyn ni wedi gallu cynnig gofal anifeiliaid anwes i gymaint o bobl mewn angen ac wedi gallu rhoi cyfleoedd cyflogaeth i bobl â phroblemau iechyd meddwl.’

Mae Annie o Ci Da Pet Care CBC yn cerdded, neu'n cael ei cherdded gan, bum ci ar hyd llwybr gwledig

  • Egluryn: Un o dasgau bob dydd y sylfaenydd a cherddwr cŵn, Annie

Eco Wardrobe gan Prom Ally

Mae Prom Ally yn rhedeg ar sail atgyfeiriadau gan y gwasanaethau cymdeithasol, adrannau lles ysgolion, elusennau a banciau bwyd, ac yn benthyg dros 3,000 o ffrogiau dawns a siwtiau am ddim i blant ysgol, myfyrwyr chweched dosbarth a myfyrwyr coleg.

Ym mis Ebrill 2020, yn ystod cyfnod clo COVID-19, daeth Prom Ally yn Gwmni Buddiannau Cymunedol swyddogol a mynd ati i ddatblygu’r ‘Eco Wardrobe’. Mae’r grant wedi rhoi hwb mawr i’r prosiect drwy roi cyflog cymharol fach i’r sylfaenydd, Ally Elouise, a’i helpu i gynyddu ei stoc o ffrogiau dawns, morwyn briodas, coctel, ffurfiol neu hyd yn oed ffrogiau priodas y gellir eu prynu neu eu hurio.

Eglura Ally Elouise bod y grant o £12,500 wedi eu caniatáu i: ‘gadw rheolwr prosiect amser llawn mewn cyflogaeth am chwe mis arall a lansio ymgyrch farchnata aml-lefel! Heb y grant, ni fydden ni wedi gallu aros ar agor yn ystod y chwe mis diwethaf na chynnig dau le Gwobr Dug Caeredin gwirfoddol.’

Sylfaenydd, Ally y tu allan i siop Prom Ally, mae balwnau a ffrog yn y ffenestr

  • Egluryn: Ally Elouise y tu allan i Prom Ally

RHAGOR O WYBODAETH

Ewch i’n tudalen Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru i ddysgu mwy am y cymorth sydd ar gael i fusnesau cymdeithas.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 18/11/24
Categorïau: Cyllid, Newyddion

‘Grymuso pobl i weithredu er mwyn gwella eu hamgylchedd lleol’

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 18/11/24
Categorïau: Cyllid

Cyllid ar agor i brosiectau sy’n fuddiol i gymunedau a’r amgylchedd

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 13/11/24
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Y diwrnod rhoi byd-eang

Darllen mwy