Dr Lindsay Cordery-Bruce yw Prif Weithredwr newydd CGGC.

CGGC yn cyhoeddi Prif Weithredwr newydd

Cyhoeddwyd : 01/03/24 | Categorïau: Newyddion |

Rydyn ni’n gyffrous i gyhoeddi y bydd Dr Lindsay Cordery-Bruce yn cymryd yr awenau fel Prif Weithredwr newydd CGGC.

Mae Cadeirydd CGGC, Dr Neil Wooding CBE, wedi cyhoeddi heddiw bod Dr Lindsay Cordery-Bruce wedi’i phenodi fel Prif Weithredwr newydd CGGC.

Lindsay yw Prif Weithredwr elusen ddigartrefedd Cymru, Y Wallich, ar hyn o bryd, rôl y mae wedi bod yn ei gwneud am y chwe blynedd ddiwethaf. Bydd Lindsay yn cymryd drosodd o’r Prif Swyddog Gweithredol presennol, Ruth Marks, ym mis Mai, sy’n ymddeol ar ôl 40 mlynedd yn y sectorau gwirfoddol a chyhoeddus.

‘CYFOETH O BROFIAD’

Gan wneud y cyhoeddiad ar Ddydd Gŵyl Dewi, dywedodd Dr Neil Wooding CBE:

‘Mae Lindsay yn dod â chyfoeth o brofiad fel Prif Swyddog Gweithredwr ac arweinydd elusen. Mae ei brwdfrydedd am y sector gwirfoddol yn amlwg a’i dull arwain yn cyd-fynd â’n gwerthoedd i ymddiried yn ein staff a’u grymuso i gefnogi’r sector.

‘Mae’n olynydd teilwng i Ruth Marks sydd wedi arwain CGGC am dros naw mlynedd a bod yn ymroddedig i’r sector ehangach drwy gydol ei gyrfa.

‘Ymuna Lindsay â’r mudiad ar ddechrau ein 90 blwyddyn o weithredu ac ar adeg pan mae’r sector gwirfoddol angen i CGGC hyrwyddo ein hachos gyda phartneriaid ledled Cymru a’r DU yn fwy nag erioed.’

HERIAU A CHYFLEOEDD O FLAEN Y SECTOR

Dywedodd Lindsay Cordery-Bruce:

‘Rwyf wrth fy modd ac yn llawn cyffro i ymuno â’r tîm rhagorol yn CGGC. Rwyf wedi bod yn cefnogi CGGC ers blynyddoedd maith, a hoffwn fynegi fy niolch personol i Ruth Marks am ei chefnogaeth ac am bopeth y mae wedi ei dysgu i mi dros y blynyddoedd.

‘Mae gan y sector gwirfoddol lawer o heriau a chyfleoedd o’i flaen, a byddwn ni’n wynebu’r rhain gydag arloesedd a brwdfrydedd. Rwy’n hollol argyhoeddedig fod yr atebion i’r problemau rydyn ni’n eu hwynebu yng Nghymru eisoes o fewn ein cymunedau, a bod modd eu harneisio drwy gyd-gynhyrchu a chynnwys y gymuned.

‘Bydd hwn yn newid mawr i mi ac mae gennyf lawer i’w ddysgu, ond rwy’n ffyddiog y gallwn barhau i fynd ag CGGC o nerth i nerth drwy gydweithio a phartneriaeth.’

YNGLŶN Â LINDSAY

Yn dilyn gyrfa hirfaith yn arbenigo’n benodol ar y maes camddefnyddio sylweddau, mae Lindsay wedi treulio’r chwe blynedd ddiwethaf yn ceisio trechu digartrefedd fel Prif Weithredwr Y Wallich.

Dechreuodd Lindsay ei gyrfa fel gwirfoddolwr ar ôl profi digartrefedd, ac mae wedi gweithio yn y Gwasanaeth Prawf, sefydlu’r gwasanaeth atgyfeirio ar ôl arestiad cysylltiedig ag alcohol cyntaf yn y DU, ac mewn Partneriaeth Diogelwch Cymunedol. Mae gan Lindsay ddoethuriaeth broffesiynol mewn Seicoleg gymhwysol.

Bu Lindsay yn aelod o fwrdd CGGC am wyth mlynedd, gan gamu i lawr ym mis Tachwedd 2023. Mae’n parhau i wasanaethu ar fwrdd Tai Pawb, yn hyrwyddo cydraddoldeb mewn lleoliadau tai. Mae Lindsay yn gwirfoddoli gyda’r Llinell Gymorth Draenogod, yn ateb galwadau ffôn ac yn adsefydlu draenogod.

Mae Lindsay yn wraig briod hapus i Lisa, a chyda dau lysblentyn, dau gi, pedair iâr a thua 200,000 o wenyn. Yn ei hamser rhydd, mae’n codi pwysau, yn mwynhau paffio ac yn hoff iawn o weithio gyda’i dwylo.

RHAGOR O WYBODAETH

Cyhoeddodd Ruth Marks ei bwriad i ymddeol fel Prif Weithredwr CGGC ym mis Tachwedd 2023.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 06/12/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Cyhoeddi enillydd bwrsariaeth arweinyddiaeth 2024

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 04/12/24
Categorïau: Newyddion

Prosiect gwrth-hiliol o fudd i ysgolion yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/12/24
Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau, Newyddion

Cadwch y dyddiad – gofod3 2025

Darllen mwy