Eisteddodd Lindsay Cordery-Bruce o CGGC a Dr Tracey Cooper, OBE o Iechyd Cyhoeddus Cymru, mewn sgwrs

CGGC ac Iechyd Cyhoeddus Cymru: yn cydweithio ar gyfer iechyd

Cyhoeddwyd : 16/07/26 | Categorïau: Newyddion |

Mae CGGC ac Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) wedi cyhoeddi cytundeb partneriaeth newydd, sy’n cyfuno cryfderau sector gwirfoddol Cymru a’i fudiad iechyd cyhoeddus cenedlaethol.

Nod y bartneriaeth hon yw cryfhau iechyd y cyhoedd a lles cymunedol yng Nghymru, gan atal niwed a chefnogi cenhedlaeth heddiw a chenedlaethau i ddod.

Daw’r cytundeb hwn o ganlyniad i aliniad cryf mewn cenhadaeth, gwerthoedd a blaenoriaethau hirdymor rhwng y ddau fudiad.

DIBEN CYFFREDIN

Gyrrir y ddau fudiad gan ymrwymiad i wella lles pobl a chymunedau ledled Cymru. Mae gwerthoedd arweinyddiaeth, dewrder, brwdfrydedd, uniondeb a thegwch CGGC yn eistedd yn naturiol ochr yn ochr â ffocws Iechyd Cyhoeddus Cymru ar weithio gyda’n gilydd gydag ymddiriedaeth a pharch i wneud gwahaniaeth.

Y gwerthoedd a rennir hyn sy’n sail i bartneriaeth gydweithredol sy’n cael ei llywio gan dystiolaeth ac sy’n credu’n gryf bod gan gymunedau eu hunain lawer o’r datrysiadau i heriau iechyd mwyaf Cymru.

Mae Prosiect Iechyd a Gofal CGGC wrth wraidd gwaith y mudiad yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol. Ei nod yw sicrhau bod y sector gwirfoddol a gwirfoddolwyr yn cael eu dibynnu arnynt ac yn cael eu gwerthfawrogi fel partneriaid cyfartal wrth gyflawni Cymru iachach a mwy gwydn.

PAM MAE ATAL YN BWYSIG

Daw’r bartneriaeth ar adeg dyngedfennol. Mae mudiadau statudol a gwirfoddol Cymru yn wynebu galw cynyddol am wasanaethau cyhoeddus, anghydraddoldebau ehangach, a mwy o bwysau (o ran adnoddau a chapasiti).

Mae’r wlad hefyd yn symud tuag at ddod yn ‘genedl Marmot’ i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd, tra bod yr ymagwedd ‘cymuned trwy ddylunio’ at gynllunio yn ceisio darparu gwasanaethau yn ddiogel ac yn effeithiol yn y gymuned.

Mae atal (gweithredu’n gynnar i gadw pobl yn iach a lleihau niwed y gellir ei osgoi) yn hanfodol i leddfu’r pwysau ar wasanaethau, lleihau anghydraddoldebau, a helpu pobl i gadw’n iach.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyflwyno arweinyddiaeth genedlaethol, gwybodaeth ar lefel boblogaeth ac arbenigedd dwfn mewn gwyddor atal. Mae CGGC yn cyflwyno cyrhaeddiad digyffelyb i gymunedau, cydberthnasau cryf â mudiadau gwirfoddol a dealltwriaeth ymarferol o’r hyn sy’n helpu pobl i gadw’n iach yn eu bywydau bob dydd.

Gyda’i gilydd, nod y mudiadau yw symud atal o egwyddor i ymarfer, gan sicrhau bod dulliau gweithredu a arweinir gan y gymuned wedi’u hymgorffori ar draws system iechyd a gofal Cymru.

Mae gwirfoddoli yn rhan allweddol o’r darlun hwn. Mae gwirfoddolwyr eisoes yn cefnogi iechyd meddwl, lleihau unigrwydd, cryfhau gwydnwch mewn argyfyngau ac yn helpu pobl i gadw’u hannibyniaeth. Bydd y bartneriaeth yn amlygu’r cyfraniad hwn ac yn pledio’r achos dros fuddsoddiad parhaus mewn gweithgareddau ataliol yn y gymuned.

Mae pwysigrwydd atal wedi’ gydnabod gan y Llywodraeth Cymru newydd yn ei chynllun ar gyfer y 100 diwrnod cyntaf. Gwelwyd hyn gyda phenodiad Gweinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol, sy’n gyfrifol am gydlynu gwaith atal ar draws y llywodraeth.

CANLYNIADAU HIRDYMOR

Cynlluniwyd y bartneriaeth i gyflawni pedwar canlyniad hirdymor:

  • Gwerth, ymddiriedaeth a pharch o bob ochr ar draws y ddau fudiad
  • Cydweithredu rhagweithiol rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r sector gwirfoddol
  • Mwy o fuddsoddiad mewn gwaith atal yn y gymuned
  • Sylfaen dystiolaeth gryfach ar gyfer ymyriadau ataliol mewn cymunedau

Mae’r canlyniadau hyn yn adlewyrchu uchelgais a rennir i greu Cymru lle gall pobl fyw bywydau iachach a mwy cysylltiedig, a lle mae cymunedau yn cael eu cefnogi i ffynnu.

Dywedodd Lindsay Cordery-Bruce, Prif Weithredwr CGGC: ‘Rydyn ni’n falch iawn o fod mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae cymaint o les y gallwn ni ei gyflwyno i’r byd gyda’n gilydd.’

Dywedodd Dr Tracey Cooper, OBE, Prif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru: ‘Rwy’n falch iawn o’r cytundeb partneriaeth hwn gyda CGGC, sy’n cydnabod rôl hanfodol y sector gwirfoddol wrth ddiogelu a gwella iechyd ledled Cymru.

‘Mae’r cytundeb hwn yn tynnu sylw at ein hymrwymiad cyffredin i wella iechyd a lleihau anghydraddoldebau iechyd, ac mae’n gyfle cyffrous i gydweithio’n agosach i wneud y mwyaf o’n heffaith gyfunol ar gyfer cymunedau ledled Cymru.’

 

 

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 14/08/26
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Cronfa Ynni Glân – grant cyntaf yn cael ei ddyfarnu yng ngogledd Cymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 04/08/26
Categorïau: Gwirfoddoli, Newyddion

Helpwch ni i gyllido prosiectau anhygoel yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 31/07/26
Categorïau: Cyllid, Hyfforddiant a digwyddiadau, Newyddion

Mae Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie yn ôl am 2026!

Darllen mwy