Mae CGGC ac arweinwyr cymdeithas sifil eraill wedi llofnodi’r datganiad ar y cyd hwn yn rhoi pwysau ar y llywodraeth i roi cymorth di-oed i’r rheini mewn angen a’r mudiadau gwirfoddol sy’n gweithio ar y rheng flaen.
Argyfwng costau byw: datganiad ar y cyd
Mae’r bobl yn y wlad hon yn wynebu argyfwng economaidd nas gwelwyd ei debyg ers degawdau. Bydd llawer sydd wedi llwyddo i ddal dau ben llinyn ynghyd tan nawr yn cael eu gwthio i mewn i dlodi, a bydd y rheini sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd yn cael eu gwthio i’r pen. Fel y pandemig, bydd yr argyfwng hwn yn effeithio ar bob un ohonom i ryw raddau, ond bydd yn taro’r rheini sydd eisoes o dan anfantais fawr galetaf.
Bydd dod o hyd i’r datrysiadau i wir achosion yr argyfwng yn cymryd amser, ewyllys gwleidyddol ac egni.
Yn y cyfamser, mae yna angen brys a chynyddol i gymorth ariannol di-oed gael ei sianelu i’r rheini sydd ei angen mwyaf. Rydym yn galw ar y llywodraeth i roi cymorth ariannol ystyrlon yn ddi-oed i’r rheini mewn angen mwyaf, yn uniongyrchol i aelwydydd a thrwy’r system fudd-daliadau sydd eisoes yn bodoli i ddarparu’r cymorth hwnnw.
Rydym hefyd yn galw ar y llywodraeth i roi cymorth ariannol wedi’i dargedu i’r elusennau a’r mudiadau gwirfoddol hynny sydd ar y rheng flaen o ran cynorthwyo pobl drwy’r argyfwng hwn, ac i sicrhau bod elusennau, mudiadau gwirfoddol a mudiadau cymunedol yn cael eu cynnwys mewn unrhyw gynlluniau i roi cymorth i fusnesau.
Rhyngom, mae ein mudiadau yn cefnogi degau o filoedd o elusennau a mudiadau gwirfoddol ledled y DU. Mae arweinwyr elusennau a’r sector gwirfoddol drwodd draw yn poeni’n arw am lefel yr angen y maen nhw’n ei gweld mewn cymunedau a’u gallu i barhau i gynnig cymorth hanfodol i ymateb i’r argyfwng hwn.
Mae banciau bwyd yn gweithio’n ddiflin a chanolfannau cymunedol wrthi’n cynllunio sut i ddarparu hybiau cynnes dros y gaeaf. Mae elusennau iechyd meddwl yn rhagweld cynnydd mewn argyfyngau iechyd meddwl a chyfraddau hunanladdiad a gwasanaethau cymorth i deuluoedd yn rhagweld nifer cynyddol o blant yn dod yn blant mewn gofal. Mae llochesau anifeiliaid eisoes yn cael anhawster gofalu am y niferoedd cynyddol o anifeiliaid sy’n cael eu gadael ac mae rhai elusennau i bobl anabl yn dosbarthu grantiau ariannol am na all y bobl hynny aros mwyach am help. Pan na all pobl fforddio talu eu biliau, mae’r canlyniadau yn mynd ymhell y tu hwnt i a allant gadw eu goleuadau ynghyn yn y nos, ac mae elusennau a mudiadau gwirfoddol o bob lliw a llun yn chwarae rôl hanfodol mewn cadw pennau pobl uwchlaw’r dŵr mewn adeg mor heriol.
Ond mae elusennau a mudiadau gwirfoddol yn wynebu’r un cynnydd mewn costau tanwydd, ynni a chyflogau ag unrhyw fusnes arall, tra bod eu hincwm yn disgyn wrth i roddwyr orfod canslo debydau uniongyrchol a hwythau’n gorfod lleihau’r nwyddau a gynigir ganddynt. Mae llawer o fudiadau yn gwerthu cyfleusterau cymunedol hanfodol am na allant fforddio cadw adeiladau ar agor, neu’n disgwyl rhoi’r gorau i wasanaethau mawr eu hangen yn gyfan gwbl.
Maen nhw’n gweld mwy fyth o alwadau arnynt i lenwi’r bwlch wrth i wasanaethau cyhoeddus, y GIG ac awdurdodau lleol yn benodol, gael trafferth cyflwyno gwasanaethau digonol i gymunedau. A thrwy gydol hyn, mae gwerth gwirioneddol eu hincwm yn disgyn yn erbyn y pwysau chwyddiannol o redeg eu mudiadau.
Camu ymlaen mewn argyfwng i gynorthwyo cymunedau yw’r hyn y mae elusennau a mudiadau gwirfoddol yn ei wneud orau – gwelsom hyn yn ystod y pandemig. Eto, mae elusennau eisoes wedi defnyddio popeth oedd ganddynt wrth gefn, maen nhw eisoes wedi dod mor fain a hyblyg ag y gallant fod, ac nid ydynt wedi cael cyfle i adfer. Ychydig iawn, os unrhyw beth, sydd gan lawer o elusennau a mudiadau gwirfoddol ar ôl i’w cynnal drwy’r ail tswnami hwn o angen.
Mae hwn yn mynd i fod yn aeaf caled i bawb, ond i’r rheini mewn angen mwyaf, fe fydd yn drychinebus. Mae’n rhaid gweithredu’n ddi-oed i gynorthwyo’r unigolion hynny, ac i sicrhau eu bod yn gallu cael yr help y bydd ei angen arnynt i ddod drwy hyn.
Ruth Marks
Prif Swyddog Gweithredol, CGGC
Sarah Vibert
Prif Swyddog Gweithredol, NCVO (Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol)
Jane Ide OBE
Prif Swyddog Gweithredol, ACEVO (Cymdeithas Prif Weithredwyr Sefydliadau Gwirfoddol)
Ros Oakley,
Prif Swyddog Gweithredol, Cymdeithas y Cadeiryddion
Caron Bradshaw
Prif Swyddog Gweithredol, Grŵp Cyllid Elusennau
Katie Docherty,
Prif Swyddog Gweithredol, Sefydliad Siartredig Codi Arian
Kathy Evans,
Prif Swyddog Gweithredol, Children England
Tony Armstrong,
Prif Swyddog Gweithredol, Locality
Fadi Itani,
Prif Swyddog Gweithredol, Muslim Charities Forum
Maddy Desforges,
Prif Swyddog Gweithredol, NAVCA
Richard Quallington,
Cyfarwyddwr Gweithredol, Action with Communities in Rural England
Carol Mack.
Prif Swyddog Gweithredol, Cymdeithas Sefydliadau Elusennol
James Watson-O’Neill,
Prif Swyddog Gweithredol, SignHealth
Debra Allcock-Tyler,
Prif Swyddog Gweithredol, Cyfeiriadur Newid Cymdeithasol
Ed Mayo,
Prif Swyddog Gweithredol, Pilotlight
Adeela Warley,
Prif Swyddog Gweithredol, Charity Comms
Rick Henderson,
Prif Swyddog Gweithredol, Homeless Link
James Alcock,
Prif Swyddog Gweithredol, Plunkett Foundation
Clare Moody and Ali Harris
Cyd-Brif Swyddogion Gweithredol, Equally Ours
Valerie McConville,
Prif Swyddog Gweithredol, Prif Swyddogion y 3ydd Sector (CO3)
Os yw eich mudiad yn gweithio i drechu’r argyfwng costau byw, rydym eisiau clywed gennych. Cwblhewch yr arolwg hwn i roi gwybod i CGGC sut mae’r argyfwng costau byw yn effeithio arnoch chi a’r rheini rydych yn eu gwasanaethu.