Mae Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector Llywodraeth Cymru yn cael ei adolygu ar hyn o bryd, ond pam ei fod yn cael ei adolygu, pa newidiadau sy’n cael eu cynnig, a sut gall y sector sicrhau bod ei lais yn cael ei glywed?
MAE COD YMARFER YN BODOLI EISOES, PAM CYNNAL ADOLYGIAD?
Mae’r Cod yn rhan annatod o Gynllun y Trydydd Sector ac mae’n nodi’r egwyddorion sy’n sail i broses gyllido Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector gwirfoddol a’r hyn mae Llywodraeth Cymru yn ei ddisgwyl gan y sector yn gyfnewid. Ei ddiben yw sicrhau mynediad teg at arian cyhoeddus yn uniongyrchol gan y Llywodraeth ac yn anuniongyrchol drwy gyllid a ddarperir drwy gyrff cyhoeddus, fel awdurdodau lleol a byrddau iechyd, i alluogi’r sector i gefnogi cymunedau Cymru.
Onid yw’r cod eisoes ar waith? Pam mae angen ei adolygu? Mae nifer o broblemau wedi’u nodi a’u dogfennu gyda’r cod presennol:
- Fel dogfen 30 tudalen, mae’n rhy hir
- Cafodd ei gyhoeddi yn 2014, felly mae angen ei ddiweddaru
- Nid yw’n hawdd dod o hyd iddo ar wefan Llywodraeth Cymru
- Mae diffyg ymwybyddiaeth yn y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol
Felly, er bod cod ymarfer eisoes yn bodoli, gellir gwneud mwy i sicrhau ei fod yn gweithio’n ymarferol.
BETH YW’R NOD?
Yn ddiweddar, penderfynodd Is-bwyllgor Cyllid a Chydymffurfio Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector ei bod yn bryd adolygu’r Cod. Ond beth maen nhw’n gobeithio ei gyflawni?
Y nod yw:
- Gwneud y Cod yn fwy hygyrch a hyrwyddo ymwybyddiaeth ehangach o’r Cod
- Moderneiddio a symleiddio’r iaith
- Cynhyrchu crynodeb un dudalen o’r pum egwyddor gyda nod trosfwaol – gyda chanllawiau technegol ategol wedi’u cynnwys mewn dogfen fyrrach
Y canlyniad, gobeithio, fydd Cod sy’n cael ei ddefnyddio’n eang i wella’r ffordd y caiff rhaglenni cyllido eu cynllunio a’u darparu yng Nghymru gan ganiatáu i’r sector gael mwy o effaith ar ein cymunedau. Yn ei dro, byddai hyn yn arwain at wella cynaliadwyedd y mudiadau gwirfoddol sy’n eu darparu.
YR EGWYDDORION ARFAETHEDIG
Mae’r egwyddorion yma wedi’u cynllunio i fod yr un mor berthnasol i gyllidwyr a chyrff sy’n cael eu cyllido mewn cyd-destun o gyd-ymddiriedaeth, tryloywder a diogelwch. Bydd hyn yn sicrhau bod mudiadau gwirfoddol a chyrff cyllido yn bartneriaid cyfartal mewn unrhyw sgwrs gyllido o fewn ffiniau rheoli arian cyhoeddus.
Mae’r egwyddorion arfaethedig diwygiedig wedi’u lleihau o 17 i bump fel a amlinellir isod:
Mae fersiwn testun plaen o’r diagram ar gael yma.
Fel y dangosir yn y diagram uchod, mae pob un o’r egwyddorion yn gorgyffwrdd ac yn cyfrannu at ei gilydd. Maen nhw wedi’u cynllunio i gael eu hystyried a’u defnyddio fel cylch rhyng-gysylltiedig o ymddygiadau yn hytrach na gweithgareddau annibynnol.
PAM MAE EICH ANGEN CHI ARNON NI?
Nid yw’r adolygiad yma’n digwydd y tu ôl i ddrysau caeedig. Mae’r Is-bwyllgor Cyllid a Chydymffurfio am gyd-gynhyrchu Cod newydd gyda’r holl randdeiliaid, gan gynnwys y cyrff hynny maen nhw’n awyddus i’w gweld yn cael eu cynnwys yn y Cod.
Mae cyfranogiad y sector yn allweddol yn y broses adolygu yma. Gallwch ddarparu safbwyntiau a chyfraniadau amhrisiadwy i bennu a ydyn nhw wedi llwyddo i gael yr egwyddorion arfaethedig yma’n gywir.
SUT I GYMRYD RHAN
Mae cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu wedi cael eu cynnal dros y misoedd diwethaf ond mae amser o hyd i gymryd rhan a sicrhau bod eich barn yn cael ei chlywed.
Byddwn yn cynnal gweminar ddydd Mercher, 27 Medi 2023 rhwng 10.30 am a 12 pm a fydd yn rhoi cyfle i chi ddysgu mwy am yr adolygiad, y newidiadau arfaethedig ac i roi eich barn i helpu i lywio’r camau nesaf.
I gael rhagor o fanylion am y digwyddiad ac i archebu eich lle, cliciwch yma.