Mae ceisiadau ar gyfer Dyfarniadau Elusennol Weston 2022 ar agor yn swyddogol, diolch i bartneriaeth rhwng Sefydliad Garfield Weston a’i bartner elusennol, Pilotlight.
Nawr yn ei wythfed flwyddyn, mae’r dyfarniadau yn cynnig pecyn o gymorth sy’n werth dros £22,000 i elusennau bach yng Nghymru, Gogledd Lloegr a Chanolbarth Lloegr.
EICH CYFLE AM GYLLID A CHYMORTH
Mae grantiau anghyfyngedig o £6,500 ar gael i hyd at 20 o elusennau uchelgeisiol a fydd yn defnyddio’r cyfraniadau ariannol i sbarduno newid strategol a chyflymu twf arloesol. Mae’r ymgeiswyr llwyddiannus hefyd yn cael mynediad am ddim at raglen 360 Pilotlight – pecyn deng mis o hyfforddiant arweinyddiaeth sy’n werth oddeutu £16,000.
Bydd enillwyr y dyfarniad yn derbyn mentora arweinyddiaeth gan bedwar gweithiwr proffesiynol uwch ar draws mudiadau amrywiol yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus. Mae’r bobl Pilotlight, neu ‘Pilotlighters’ llawn empathi hyn yn cynnig arweiniad arbenigol trylwyr ar bopeth o welliannau gweithredol creadigol ac arbedion effeithlonrwydd i strategaethau busnes cynaliadwy hirdymor.
Bydd yr elusennau llwyddiannus hefyd yn cael
- cyfleoedd a digwyddiadau cydweithio drwy rwydwaith Pilotlight o elusennau’r DU.
- dwy sesiwn gysylltu â derbynyddion eraill y dyfarniad i rannu arferion gorau.
- digwyddiad dathlu i holl enillwyr y dyfarniad ar ôl cwblhau’r rhaglen.
- y proffil uwch sy’n gysylltiedig â derbyn y dyfarniad grant hwn am ragoriaeth.
ATEBWCH YR ALWAD
Mae’r alwad am geisiadau ar agor i elusennau cofrestredig sy’n gweithio gyda buddiolwyr yng Nghymru, Gogledd Lloegr a Chanolbarth Lloegr ac sy’n arbenigo yn y meysydd Cymuned, Llesiant neu Ieuenctid. Gall elusennau ag o leiaf un aelod staff cyflogedig amser llawn mewn swydd arwain ac incwm o lai na £5 miliwn y flwyddyn wneud cais.
Mae ceisiadau ar agor nawr a byddant yn cael eu hadolygu ar ôl y dyddiad cau o 5 pm ar 7 Ionawr 2022. Mae’n bosibl y bydd gofyn i chi ddarparu gwybodaeth ategol erbyn diwedd Ionawr er mwyn i banel beirniadu lunio rhestr fer rhwng Chwefror ac Ebrill. Mae angen proses ddethol drylwyr er mwyn dewis y mudiadau gorau bosibl o’r trydydd sector sy’n haeddu cydnabyddiaeth am eu cyflawniadau. Bydd enwau’r rheini sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu cyhoeddi ym mis Mehefin 2022.
I gael rhagor o wybodaeth am y dyfarniadau grant a’r meini prawf mynediad llawn, ewch i: www.pilotlight.org.uk/weston-charity-awards (Saesneg yn unig).