Gweithiwr gofal yn rhoi cymorth i ddyn oedrannus mewn cartref gofal

Ceisiadau ar agor am her iechyd a gofal newydd

Cyhoeddwyd : 22/09/23 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Hyfforddiant a digwyddiadau |

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi lansio ei Her Menter Ymchwil Busnesau Bach newydd.

YR HER

Mae Her Gofal Cartref Byw’n Dda Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn derbyn ceisiadau nawr.

Nod yr her hon yw adeiladu ar dreialon a phrofion blaenorol, gan gasglu’r dystiolaeth a’r dadansoddiadau sydd eu hangen i lywio cynaliadwyedd gofal cartref yng Nghymru yn y dyfodol.

Bydd disgwyl i ymgeiswyr llwyddiannus gyflwyno prosiectau ar raddfa fwy neu ehangach, gan ddangos manteision posibl a chynaladwyedd eu datrysiadau. Gallai’r rhain fod yn fodelau arloesol o ddarparu gofal neu’n dechnolegau cyflenwol sy’n cefnogi’r dyheadau a nodir yng Nghymru Iachach o ran integreiddio a chynaliadwyedd.

YR FFOCWS

Bydd y prif ffocws ar ddangos cynaliadwyedd gwasanaeth, fforddiadwyedd a’r gallu i newid maint a graddfa datrysiadau y gellid eu cyflwyno’n gyflym.

Rhaid i ymgeiswyr ddangos yn glir sut byddant yn ymhél â defnyddwyr gwasanaethau posibl ac yn eu cynnwys ar bob cam o’r prosiect er mwyn sicrhau bod unrhyw ddatrysiad a/neu wasanaeth yn cael ei ddylunio gyda, a thros y bobl y mae’n bwriadu bod o fudd iddynt.

Dylai pob prosiect gael ei gyflawni mewn modd cydgynhyrchiol, gan alluogi defnyddwyr gwasanaethau a’u teuluoedd, gofalwyr di-dâl a chydweithwyr yn y sectorau gofal cymdeithasol, iechyd a’r trydydd sector i fod yn rhan o’r broses brototeipio a phrofi. Bydd hyn yn eu galluogi i ddysgu sgiliau hanfodol ac yn sicrhau bod datrysiadau wedi’u gwreiddio yn y realiti o sut mae systemau’n gweithio. Bydd hefyd yn cefnogi’r gwaith yn y dyfodol ar bontio i ddarpariaeth a gefnogir yn ddigidol. Dylai’r prosiectau gynnwys elfen adeiladu sgiliau er mwyn sicrhau bod gan y rheini sy’n gysylltiedig â darparu’r gwasanaeth a defnyddio’r datrysiadau y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i gefnogi’r defnydd a’u bod yn mynd i’r afael â bylchau sylfaenol mewn sgiliau a gallu. Dylid cynnwys cerrig milltir penodol mewn ceisiadau i adlewyrchu hyn.

DIGWYDDIADAU AR-LEIN

Bydd dau ddigwyddiad am ddim yn cael eu cynnal ar-lein i gefnogi’r gwaith hwn:

GWYBODAETH A CHEFNOGAETH

I gefnogi’r cydweithrediad o’r cychwyn cyntaf, sefydlodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr farchnad ar-lein (tudalen Saesneg yn unig) i helpu’r sectorau/mudiadau gwahanol i gysylltu cyn cyflwyno cais her.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â sbri.coe@wales.nhs.uk.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Snorcelio dros natur

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 27/08/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Dathlu addysg oedolion yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 23/08/24 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Yr ymgyrch ‘ewyllysgaredd’ sy’n ennill tir

Darllen mwy