Cynhaliodd CGGC ddigwyddiad i adeiladu cysylltiadau rhwng yr Ymddiriedolaeth Argyfyngau Cenedlaethol a phartneriaid allweddol yng Nghymru. Dyma grynhoad o’r trafodaethau a’r camau nesaf.
Cynhaliwyd y digwyddiad hwn mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Argyfyngau Cenedlaethol (yr Ymddiriedolaeth) a Sefydliad Cymunedol Cymru i ddatblygu dealltwriaeth o’r Ymddiriedolaeth ymhlith partneriaid perthnasol a helpu i sicrhau bod yr Ymddiriedolaeth yn gweithredu o fewn system Cymru, gyda’r nod o wella gwydnwch ac adferiad Cymru yng ngŵydd trychinebau mawr.
Wrth gyflwyno’r sesiwn, nododd Richard Williams, Prif Swyddog Gweithredol Sefydliad Cymunedol Cymru bwysigrwydd cael ffyrdd o weithio yn eu lle i ymdrin ag argyfyngau. Dywedodd, ‘er nad ydyn ni’n barod i ymdrin ag argyfyngau a allai daro, yn enwedig ar lefelau lleol, rwy’n gobeithio y bydd y sgyrsiau hyn yn gam cyntaf tuag at ddod yn fwy parod i ymdrin â sefyllfaoedd brys.’
SAFBWYNT LLYWODRAETH CYMRU
Gwnaeth Chris Buchan, Pennaeth Polisïau’r Trydydd Sector a Chymunedau Llywodraeth Cymru roi trosolwg o ble rydyn ni nawr ac uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol. Mae tîm Trydydd Sector Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio eu gwaith ar dri maes: cydberthnasau, cymorth a gwirfoddoli. Adlewyrchir hyn yn yr adnoddau a’r cyllid sydd ar gael drwy rwydwaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru (TSSW), sy’n cynnwys yr Hwb Gwybodaeth, Cyllido Cymru, Gwirfoddoli Cymru, Helplu Cymru a phrosiect Newid. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi mynd ati’n ddiweddar i gymeradwyo’r Egwyddorion Cenedlaethol ar Gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru a gyd-gynhyrchwyd, sy’n ceisio llywio’r ffordd yr ymgysylltir â phobl er mwyn sicrhau ei fod yn agored, yn gyson ac o ansawdd da.
Gan edrych yn ôl ar yr ymateb brys i bandemig COVID-19 a sut gallwn ni ddysgu o’r ymateb hwn mewn argyfyngau yn y dyfodol, dywedodd Chris Buchan, ‘gwnaeth y pandemig amlygu pwysigrwydd gwirfoddoli ffurfiol ac anffurfiol, a gwelsom fwy o symudiad tuag at wirfoddoli anffurfiol. Nawr, mae angen i ni ystyried sut gallwn ni harneisio ysbryd gwirfoddoli i’n helpu ni gydag argyfyngau yn y dyfodol.’
‘Yn ystod y pandemig, gwnaethom ni weithio gyda’r sector a chyllidwyr eraill ar ein hymateb, ac rydyn ni’n cryfhau’r cydberthnasau a’r cysylltiadau hynny ymhellach drwy gefnogi ffoaduriaid sy’n ffoi o’r gwrthdaro yn Wcráin a thrwy fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw. Nid ydyn ni am fynd yn ôl i ble’r oedden ni cyn y pandemig. Fel y mae’r term gwydnwch yn ei awgrymu, rydyn ni eisiau creu cymunedau cryfach a mwy cysylltiedig sy’n ffynnu.’
PWY YW’R YMDDIRIEDOLAETH ARGYFYNGAU CENEDLAETHOL?
Elusen annibynnol yw’r Ymddiriedolaeth Argyfyngau Cenedlaethol (Saesneg yn unig) sy’n cynnig un lle dibynadwy i bobl roi, a gweithio gydag elusennau a grwpiau eraill i rannu cyllid yn gyflym ac mewn modd teg. O fewn oriau i argyfwng cenedlaethol, mae’r Ymddiriedolaeth yn lansio apêl i godi arian i oroeswyr a’u hanwyliaid.
Cafodd yr Ymddiriedolaeth ei sefydlu yn 2017 ar ôl nifer o argyfyngau cenedlaethol, gan gynnwys y bomio yn arena Manceinion a’r tân yn Nhŵr Grenfell. Mae’r Ymddiriedolaeth yn ymdrin ag argyfyngau cenedlaethol lle na ellir diwallu anghenion yn lleol. Maen nhw’n gweithio gyda phartneriaid elusennol er capasiti a mewnwelediad lleol, gan sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl drwy sicrhau y gall partneriaid gefnogi pobl â phob nodwedd warchodedig. Maen nhw hefyd yn gweithio gyda chyrff o’r sector cyhoeddus a thrwy gydweithio, maen nhw’n cynorthwyo pobl sydd wedi’u heffeithio gan argyfwng gydag iechyd meddwl, anafiadau corfforol, profedigaeth a chaledi ariannol.
Pan darodd pandemig COVID-19 yn 2020, aeth yr Ymddiriedaeth o fod yn gymharol anhysbys i godi bron £100 miliwn drwy apêl i helpu’r rheini a effeithiwyd fwyaf.
Wrth siarad am yr apêl am roddion, dywedodd Mhairi Sharp, Prif Swyddog Gweithredol yr Ymddiriedolaeth, ‘Roedd yr apêl yn llwyddiant ysgubol, ac roedden ni’n arbennig o falch o’r ffaith bod y costau o redeg yr apêl dim ond wedi cyfrif am 2.8% o’r arian a godwyd. Gwnaethon ni benderfynu peidio â thalu am unrhyw hysbysebu, a oedd yn golygu bod y rhan fwyaf o’r rhoddion wedi’u defnyddio i gynorthwyo’r rheini mewn angen yn uniongyrchol. Drwy weithio gyda 47 o rwydweithiau sefydliad cymunedol lleol, gwnaethom lwyddo i gefnogi 13 miliwn o bobl ledled y DU.’
Er bod yr Ymddiriedolaeth dim ond yn rhoi apêl codi arian ar waith mewn ymateb i argyfyngau mawr, maen nhw hefyd yn rhoi cymorth i argyfyngau lleol, llai. Dywedodd Vijay Jassal, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Polisi a Phartneriaethau Strategol yr Ymddiriedolaeth, ‘rydyn ni’n cynnig cyngor ac arbenigedd i fudiadau ac awdurdodau lleol i helpu i gydlynu ymdrechion ar lawr gwlad.’
CYSYLLTU Â’R YMDDIRIEDOLAETH ARGYFYNGAU CENEDLAETHOL
I ddilyn ymlaen o’r digwyddiad, mae’r Ymddiriedolaeth Argyfyngau Cenedlaethol yn gobeithio meithrin cydberthnasau yma yng Nghymru ac adeiladu rhwydwaith o fudiadau sy’n gallu ymateb i argyfwng ac yn barod i wneud hynny. Maen nhw’n galw ar fudiadau i gysylltu â nhw i ddysgu mwy am yr Ymddiriedolaeth ac maen nhw’n agored i weithio gyda phartneriaid yng Nghymru i ddatblygu protocol ysgrifenedig ar gyfer ymateb i argyfyngau cenedlaethol a lleol.
I gysylltu â’r Ymddiriedolaeth Argyfyngau Cenedlaethol, anfonwch e-bost at Vijay Jassal yn Vijay.jassal@nationalemergenciestrust.org.uk.
GALWAD I WEITHREDU
Mae CGGC a’r Groes Goch Brydeinig yng Nghymru yn cyd-gadeirio’r Fforwm Gwydnwch Cymunedol ac yn mynychu Fforwm Gwydnwch Cymru a arweinir gan y Prif Weinidog. Mae’r ddau yn cysylltu â strwythurau gwydnwch lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Y ffordd orau o ddatblygu fframwaith ymateb i argyfyngau mwy effeithiol fyth yw dod yn gyfeillgar â phobl cyn rydyn ni eu hangen. Mae Cymru yn wlad fechan, glyfar a chysylltiadau – gadewch i ni weld sut gallwn ni adeiladu ar y rhwydweithiau sydd eisoes yn bodoli, cynllunio ymarferiad ar gyfer 2023 a sicrhau bod pawb sydd angen gwybod y pwy, ble, beth a sut i ymateb yn ystod argyfwng yn gysylltiedig. I gymryd rhan yn yr ymarferiad hwn a chyda’r Fforwm Gwydnwch Cymunedol, cysylltwch drwy anfon e-bost at help@wcva.cymru.