Person â mop yn glanhau gosodiad paneli solar ar dir gardd

Cefnogaeth am ddim i brosiectau ynni

Cyhoeddwyd : 22/08/22 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r sector cyhoeddus a grwpiau cymunedol i leihau’r defnydd o ynni, cynhyrchu ynni adnewyddadwy dan berchnogaeth leol, a lleihau allyriadau carbon, gan helpu i sicrhau Cymru gryfach, decach a gwyrddach.

Mae’r Gwasanaeth Ynni yn helpu i gyflymu prosiectau lleihau carbon drwy ddarparu cyngor technegol, masnachol a chaffael i fudiadau’r sector cyhoeddus a grwpiau cymunedol ledled Cymru.

Yn 2021/22, cefnogodd y Gwasanaeth Ynni dros £59 miliwn o brosiectau effeithlonrwydd ynni, ynni adnewyddadwy a cherbydau di-allyriadau, gan gynnwys 17MW o drydan adnewyddadwy. Buon nhw hefyd yn gweithio gyda 22 o fentrau cymunedol i helpu i ddatblygu a gweithredu prosiectau ynni.

Gall y Gwasanaeth Ynni ddarparu cymorth ar wahanol fathau o brosiectau yn dibynnu ar eich mudiad:

Y sector cyhoeddus

  • Prosiectau effeithlonrwydd ynni, i leihau’r ynni mae mudiad yn ei ddefnyddio
  • Ynni adnewyddadwy, i gynhyrchu rhagor o ynni ar yr ystâd gyhoeddus
  • Prosiectau fflyd i gefnogi ymdrechion i fabwysiadu cerbydau di-allyriadau a phwyntiau gwefru i hwyluso eu defnydd

Grwpiau cymunedol

  • Ynni adnewyddadwy sy’n eiddo i’r gymuned: prosiectau sy’n harneisio adnoddau naturiol Cymru i gynhyrchu ynni glân

Mae hefyd yn gweithio gyda grwpiau rhanbarthol i greu strategaethau cynllunio ynni wedi’u teilwra i bob rhan o Gymru.

Mae prosiectau ynni cymunedol sy’n cael eu cefnogi gan y Gwasanaeth Ynni yn cynnwys tyrbin gwynt sy’n eiddo i’r gymuned, paneli haul i ategu ffynhonnell ynni adnewyddadwy sy’n bodoli eisoes, pwmp ynni dŵr ar raddfa fach sy’n eiddo i’r gymuned, a mwy.

Os oes angen cymorth ar eich grŵp cymunedol i ddatblygu, gweithredu, neu ariannu prosiect ynni, gall y Gwasanaeth Ynni eich helpu. Gall helpu prosiectau ar bob un o’r camau yma:

  • nodi cyfleoedd
  • achos busnes
  • ymrwymiad ariannol
  • gweithredu
  • sicrhau cyllid

Bydd gan bob menter gymunedol reolwr datblygu Gwasanaeth Ynni penodedig i’ch helpu ar hyd pob cam o’r ffordd.

I gael rhagor o wybodaeth am y ffordd y gall Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru helpu eich grŵp cymunedol, ewch i dudalen we’r Gwasanaeth Ynni neu e-bostiwch enquiries@energyservice.wales.

Gallwch hefyd ddilyn y Gwasanaeth Ynni ar Twitter a LinkedIn i gael y newyddion diweddaraf am y prosiect, cyfleoedd ariannu a chymorth.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 23/08/24 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Yr ymgyrch ‘ewyllysgaredd’ sy’n ennill tir

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 11/07/24 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Mae’r Bwrsari i arweinwyr yng Nghymru yn ôl

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 25/05/24 | Categorïau: Cyllid |

Cryfhau’r bartneriaeth rhwng Cymru ac Affrica

Darllen mwy