Mae gweithwyr ifanc aml-ethnig hapus yn ymuno dwylo

Cau’r Rhaglen Ennyn Effaith a’r Camau Nesaf

Cyhoeddwyd : 20/05/22 | Categorïau: Newyddion |

Ar ôl deng mlynedd, mae’r rhaglen Ennyn Effaith, menter ledled y DU i gefnogi ymarfer effaith da ar draws y sector, wedi dod i ben yn swyddogol.

Bu CGGC yn bartner yn y rhaglen o 2017 ymlaen, fel rhan o’n hymrwymiad i gynorthwyo mudiadau gwirfoddol ledled Cymru i ddangos eu heffaith.

Gwnaeth cryn dipyn o fudiadau yng Nghymru gymryd rhan yn y rhaglen Ennyn Effaith, a hoffem ddiolch i bawb a wnaeth cefnogi a chymryd rhan yn y rhaglen a chyfrannu at ei llwyddiant.

CARTREF NEWYDD I ADNODDAU

Ers i’r rhaglen ddod i ben, mae’r adnoddau a oedd yn byw ar wefan Ennyn Effaith wedi’u symud i gartrefi newydd. Mae’r rhan fwyaf o’r adnoddau wedi cael eu hailgartrefu gan y ‘New Philanthropy Capital’ a gellir cael gafael arnynt o’r dudalen hon (Saesneg yn unig).

Mae’r adnoddau’n cynnwys –

  • proses gam wrth gam y gallwch chi ei mabwysiadu i fesur effaith eich mudiad (a elwir yn Gylchred Ymarfer Effaith Da)
  • canllaw i ddeall y jargon
  • offeryn diagnostig ar ba ddata i’w gasglu a sut
  • gwybodaeth am yr egwyddorion a ddylai lywio ymarfer effaith (y Cod Ymarfer Effaith Da)

Mae’r adnoddau yn cyflwyno canllawiau ymarferol, cam wrth gam, i wella eich ymarfer effaith.

DYSGU EHANGACH O’R RHAGLEN

Roedd Ennyn Effaith, a fu’n rhedeg am dros ddegawd, yn rhaglen uchelgeisiol a wnaeth ddwyn ynghyd amrywiaeth o bartneriaid cyflenwi a phrofi dulliau newydd a chydweithredol o gefnogi ymarfer effaith da. Mae gwerthusiad allanol wedi’i wneud o’r prosiect er mwyn cofnodi’r hyn sydd wedi’i gyflawni yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf a rhannu’r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu, yn y gobaith y bydd yn cael ei ystyried a’i ddefnyddio wrth ddatblygu mentrau yn y dyfodol. Gallwch chi ddod o hyd i’r adroddiad cryno a’r fersiwn lawn o’r gwerthusiad yma (Saesneg yn unig).

EDRYCH YMLAEN

Mae CGGC eisoes yn gweithio ar y cam nesaf yn ein dull o ymdrin ag ymarfer effaith, er mwyn adeiladu ar etifeddiaeth y rhaglen Ennyn Effaith.

Cadwch eich llygaid ar agor am ragor o wybodaeth a fydd yn dod yn fuan.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 03/03/25
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Hyrwyddo cyfiawnder rhywedd a’r hinsawdd yn Uganda

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 21/02/25
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Gwirfoddolwyr: pontio’r bwlch mewn gofal dementia

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 17/02/25
Categorïau: Newyddion

Prosiect Arloesi Cymunedol Macmillan yn mynd i’r afael â rhwystrau i ofal canser yng Nghymru

Darllen mwy