teulu yn eistedd yn yr haul yn edrych allan dros bae Rhossili

Catalydd Cymru: Treftadaeth Wydn ar agor am geisiadau

Cyhoeddwyd : 22/06/20 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Hyfforddiant a digwyddiadau |

Mae CGGC yn gwahodd mudiadau treftadaeth gwirfoddol yng Nghymru i wneud cais am gefnogaeth ddatblygu ymroddedig gan ein prosiect Catalydd Cymru: Treftadaeth Wydn. Mae rhai lleoedd ar ôl o hyd ar y prosiect poblogaidd hwn

Mae gennym gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i weithio gyda mudiadau treftadaeth o bob cwr o Gymru, a darparu hyfforddiant trylwyr a phwrpasol am ddim ar eu cyfer er mwyn datblygu un neu ragor o’r meysydd rheoli sefydliadol canlynol: llywodraethu, cynllunio busnes, codi arian a chynhyrchu incwm, marchnata a chyfryngau cymdeithasol, mesurau effaith ac adrodd a rheoli prosiect.

Oherwydd COVID-19, disgwylir i’r cymorth a fydd yn cael ei ddarparu am gryn amser i ddod fod yn gymysgedd o gyfarfodydd ar-lein a chymorth dros y ffôn a thrwy e-bost – pa un bynnag sy’n fwyaf priodol ar gyfer anghenion y mudiad.

Mae’r prosiect wedi’i gyllido tan fis Mehefin 2021

I fod yn gymwys am gefnogaeth gan Catalydd Cymru, mae’n rhaid i fudiadau:

  • Gael diben elusennol. Mae mudiadau cymwys yn cynnwys cymdeithasau anghorfforedig, grwpiau cymunedol, elusennau cofrestredig, Sefydliadau Corfforedig Elusennol (CIOs), Cwmnïau Buddiannau Cymunedol (CICs) a Chymdeithasau Buddiannau Cymunedol). Gall mudiadau nad ydynt yn elusennau ymgeisio ar y cyd â mudiad elusennol. Er enghraifft, byddai partneriaeth rhwng Cymdeithas Anghorfforedig ac awdurdod lleol sy’n cefnogi’r Gymdeithas Anghorfforedig i sefydlu elusen i reoli safle dreftadaeth yn gymwys. Ni fydd awdurdodau lleol yn cael eu derbyn ar eu pen eu hunain. Noder: mae’n rhaid i CICs fod yn gyfyngedig drwy warant er mwyn bod yn gymwys.
  • Bod ag o leiaf tri ymddiriedolwr neu gyfarwyddwr yn unol ag arferion gorau a gofynion y Comisiwn Elusennau.
  • Mae’n rhaid i dreftadaeth gael lle amlwg yn eich dibenion elusennol, naill ai’n benodol neu’n amhenodol. Nid yw’r ffaith eich bod yn gweithio mewn adeilad rhestredig yn ddigon i fodloni’r meini prawf hyn – byddai’n rhaid i’r mudiad fod yn gwau treftadaeth yr adeilad i mewn i’w weithgareddau bob dydd
  • Gweithio mewn un neu ragor o’r meysydd Treftadaeth canlynol:
  1. Adeiladau a Henebion
  2.  Treftadaeth Gymunedol
  3.  Diwylliannau ac Atgofion
  4.  Tir a Threftadaeth Naturiol
  5.  Diwydiannol, Morwrol a Thrafnidiaeth
  6.  Amgueddfeydd, Llyfrgelloedd, Archifau a Chasgliadau
  • Mae’n rhaid i unrhyw amgueddfa sy’n ymgeisio am y prosiect fod yn achrededig, neu’n adnabyddus i Cymal (Amgueddfeydd, Archifdai, Celfyddydau a Llyfrgelloedd Cymru) fel mudiad sy’n gweithio tuag at achrediad.

Yn ogystal â chymorth hyfforddwyr, bydd y prosiect hefyd yn cyflawni rhaglen ddysgu agored ac yn datblygu rhwydwaith o gymorth cymheiriaid ar gyfer eich mudiad treftadaeth gwirfoddol yng Nghymru.

Argymhellir eich bod yn ymgeisio’n gynnar, oherwydd bydd y ceisiadau’n cael eu hasesu wrth iddynt ddod i law ac yn cael eu dyrannu ar sail dreigl.

I gofrestru eich diddordeb mewn cymryd rhan a chael pecyn a ffurflen gais wedi’u hanfon atoch, cysylltwch â Siobhan Hayward, Swyddog Catalydd, ar 02920 435 761 neu shayward@wcva.cymru.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 10/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Gwobrau Elusennau Cymru 2024 – Cyhoeddi’r teilyngwyr

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 04/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Sut i gymryd rhan yn Wythnos Elusennau Cymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 03/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Swyddi Wag – Ymunwch â thîm cyllid CGGC

Darllen mwy