Staff at talbot community centre prepare meals for delivery

Canolfan Gymunedol Talbot yn dangos bod ein cymunedau’n dod at ei gilydd, hyd yn oed wrth i ni ymbellhau

Cyhoeddwyd : 14/04/20 | Categorïau: Gwirfoddoli |

Pan benderfynodd cannoedd o wirfoddolwyr yn ac o gwmpas Mynydd Cynffig a Phorthcawl ym Mhen-y-bont ar Ogwr gynnig eu gwasanaethau i bobl agored i niwed a oedd yn gorfod hunanynysu, nid ateb galwad i weithredu yn unig yr oedden nhw. Roedden nhw’n arddangos dyfeisgarwch cymuned a oedd yn benderfynol o gynnig cymorth i’r rheiny mewn angen.

Mae dros 300 o bobl wedi cofrestru fel gwirfoddolwyr, gan gynorthwyo mentrau megis y rhai a ddarperir gan Ganolfan Gymunedol Talbot sydd, yn dilyn cefnogaeth gymunedol, yn darparu prydau poeth dri diwrnod yr wythnos i bobl dros 70 oed, pobl dros 50 oed â chyflyrau iechyd isorweddol neu broblemau symudedd a phobl agored i niwed o bob oed sy’n profi trafferthion wrth gael gafael ar gyflenwadau bwyd.

Bu chwaraewyr o dîm rygbi’r Gweilch hefyd yn helpu i ddosbarthu prydau bwyd. Ond nid cynnig bwyd i bobl yn unig a wna’r Ganolfan – maen nhw hefyd wedi bod yn darparu ffynhonnell hanfodol o gefnogaeth a chyswllt â phobl i drigolion a allai fod wedi’u gorfodi i hunanynysu am wythnosau.

Dywedodd Amy Jones, Rheolwraig Canolfan Gymunedol Talbot:  ‘Mae ein cwsmeriaid mor hapus â safon y bwyd ac â’r ffaith ein bod ni’n eu helpu nhw yn ystod y cyfnod brawychus hwn. Mae clywed llais hwyliog ar y ffôn pan maen nhw’n ffonio a chyfarchiad cyfeillgar wrth i ni adael eu cinio yn hwb iddynt.’

Fel y mae canran enfawr o’r boblogaeth eisoes wedi dangos, boed nhw’n weithwyr y GIG sy’n gweithio’n ddiflino ddydd a nos i achub bywydau, gweithwyr allweddol sy’n cyflenwi siopau â bwyd a hanfodion, neu’n unrhyw un o’r bobl ddirifedi sy’n dod o hyd i ffyrdd newydd o holi hanes a chadw mewn cysylltiad â’i gilydd – gall pobl yng Nghymru barhau i ddod o hyd i ffyrdd o fod yno i’w gilydd heb fod yno.

Mae’n sicr y bydd angen cynyddol am wirfoddolwyr po hiraf y parith y sefyllfa hon, ond mae’r gwaith a wnaed gan Ganolfan Gymunedol Talbot a mudiadau eraill yn dangos y gallwn godi i’r amgylchiad. Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli gofrestru ar volunteering-wales.net er mwyn cael eu cyfeirio at rywun mewn angen – a byddem yn argymell pobl i wneud hynny.

 

Staff yng Nghanolfan Gymunedol Talbot wrth iddynt baratoi prydau bwyd i’w danfon

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 04/10/24
Categorïau: Gwirfoddoli, Hyfforddiant a digwyddiadau

Wythnos yr Ymddiriedolwyr 2024

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 23/09/24
Categorïau: Gwirfoddoli, Gwybodaeth a chymorth

Adroddiad newydd yn canfod bod gwirfoddolwyr yn lleihau’r pwysau ar staff rheng flaen y GIG

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/08/24
Categorïau: Gwirfoddoli, Gwybodaeth a chymorth

Adroddiad yn dangos bod gwirfoddoli yn cynyddu sgiliau a hyder

Darllen mwy