Mae Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont (BCC) yn bodoli i gefnogi gofalwyr di-dâl ym Mhen-y-bont. Ers y pandemig coronafeirws, maen nhw wedi gorfod addasu a chreu gwasanaethau newydd i helpu eu cymuned.
Amcangyfrifir bod tua 18,000 o ofalwyr di-dâl ym Mhen-y-bont. Yn amlach na pheidio golyga hyn bobl sy’n gofalu am aelodau o’r teulu, a gall amrywio o bobl ifanc sy’n gofalu am frawd neu chwaer ag anableddau corfforol, rhieni sy’n gofalu am blant ag anableddau meddyliol i bobl hŷn sy’n gofalu am bartneriaid.
Cafodd BCC ei sefydlu nôl yn 1999 a daeth yn elusen gofrestredig yn 2008. Mewn ymateb i’r cynnydd mewn galw i wneud newid cadarnhaol i fywydau’r gofalwyr hyn, sefydlwyd y ganolfan i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth er mwyn gwella llesiant y gofalwyr hynny o fewn y sir.
Yn ogystal â chyngor ymarferol, cynigia amrywiaeth o weithgareddau i ofalwyr er mwyn eu helpu i gael hwyl ac ymlacio, megis cyfle i gwrdd yn wythnosol yng nghaffi’r gymuned a thripiau a gweithgareddau rheolaidd.
Dywedodd Rhian Watts, Rheolwr Prosiect Addysg Gofalwyr Ifanc: ‘Gall bod yn ofalwr fod yn dasg anodd iawn. Mae’r bobl yma’n ysgwyddo’r cyfrifoldeb o ofalu am rai o’r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas.
‘O ddim ond 7 mlwydd oed hyd at 94, rydym ni’n delio gyda gofalwyr di-dâl o bob oed sydd wedi canfod eu hunain yn gyfrifol am ofalu am eu hanwyliaid. Ein gwaith ni yw cynnig cefnogaeth un i un iddyn nhw i’w galluogi i gyflawni’u dyletswyddau yn effeithiol a gwella’u llesiant.’
Ers y pandemig
Yn dilyn pandemig COVID-19, gorfodwyd y ganolfan i gau ar 17 o Fawrth. Er nad oedd modd parhau â’r gefnogaeth un i un wyneb yn wyneb, fuodd gwasanaeth holistig i ofalwyr erioed cyn bwysiced.
Wedi’r cyfan, darganfu’r ganolfan gynnydd mawr mewn achosion o ofalwyr oedd bellach yn teimlo’n ynysig a phryderus ynglŷn â sut i gwblhau tasgau megis siopa bwyd er mwyn rhwystro sefyllfa beryglus lle gallent ddal y feirws a’i drosglwyddo i’r person bregus yn eu cartref.
Gan sicrhau’r gofalwyr yn syth ei fod yn gefn iddynt o hyd, mae’r ganolfan wedi parhau i gynnig cefnogaeth o bell gyda llinellau cymorth dros y ffôn mewn meysydd megis cwnsela, cyngor cyfreithiol a gwybodaeth ar fudd-daliadau lles. Trwy’r llinell ffôn yma, gall gofalwyr barhau i gael mynediad i ystod o arbenigwyr, gan gynnwys gweithwyr cefnogi a chynghorwyr budd-daliadau, i staff cefnogi pan fydd angen cyngor arnynt neu ddim ond sgwrs ynglŷn â phryderon neu ofnau.
Mae gofalwyr wedi dweud wrth staff cymaint maen nhw’n gwerthfawrogi cael rhywun i siarad â nhw yn ystod y cyfnod anodd hwn ac wedi bod yn hynod werthfawrogol o’r gwasanaeth.
‘Er nad oedd modd i ni gynnal sesiynau cynghori wyneb yn wyneb yn ôl yr arfer, rydyn ni wedi gweithio’n galed i gynnal ein system gefnogi trwy ganfod ffyrdd newydd o ymgysylltu â’n gofalwyr. Yn ogystal â’n llinell gymorth dros y ffôn arbennig, rydym wedi llwyddo i ddod â gofalwyr at ei gilydd trwy sesiynau pobi wythnosol, cwisiau ar-lein, nosweithiau ffilm rhithwir a grwpiau lles ar Whatsapp.’
Gronfa Argyfwng y Gwasanaethau Gwirfoddol
Trwy Gronfa Argyfwng y Gwasanaethau Gwirfoddol, cafodd Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont gymorth yn ei hymdrechion i barhau i gynnig cefnogaeth i’r holl ofalwyr di-dâl ym Mhen-y-bont.
Trwy weithio o gartref, bydd y grant yn helpu i sicrhau bod y tîm ymroddedig hwn yn parhau i ddarparu cefnogaeth hanfodol trwy ffôn, e-bost, galwadau fideo a’r cyfryngau cymdeithasol i’r holl ofalwyr sy’n teimlo’n ynysig neu’n profi pryder cynyddol, unigrwydd a thrafferthion ymarferol yn ystod y cyfnod digynsail hwn o angen.
‘Wrth i’r pandemig fynd o ddrwg i waeth, roedd mwy o angen cefnogaeth ar y gofalwyr hyn nag erioed o’r blaen. Fel y gwyddom ni i gyd, mae rôl gofalwr wedi mynd yn anoddach fyth dros y cwpwl o fisoedd diwethaf.
‘Diolch byth, mae ein gwasanaethau newydd yn galluogi n ii gael mynediad at fwy fyth o ofalwyr, ac mae wedi creu ymdeimlad cryf o gymuned trwy gynorthwyo gofalwyr i gael ffyrdd newydd o reoli pryderon a’u hatgoffa fod yna bobl eraill sy’n deall eu profiadau nhw.’
Darganfod sut y gall eich mudiad wneud cais am gyllid er mwyn sicrhau fod modd i chi barhau i ddarparu cefnogaeth hanfodol i bobl mewn angen yn ystod y cyfnod hwn.