Yn dilyn ymgynghoriad ffurfiol, mae’r Comisiwn Elusennau wedi cyhoeddi canllawiau newydd i ymddiriedolwyr ar ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol.
Yn ôl y canllawiau, dylai elusennau gael polisi cyfryngau cymdeithasol ar waith a sicrhau bod y polisi yn cael ei ddilyn: ‘Mae hwn yn ymarfer safonol mewn llawer o elusennau ac ar draws sectorau a diwydiannau eraill, a gall helpu mudiad i osgoi problemau a mynd i’r afael â materion yn gyflym os bydd unrhyw beth yn codi.’
Dywed y Comisiwn fod ei waith achos wedi datgelu nad yw ymddiriedolwyr bob amser yn ymwybodol o’r risgiau a all godi wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, sy’n golygu nad oes gan rai ddigon o drosolwg o weithgarwch eu helusen, a gall hyn eu gadael nhw a’u helusen yn agored i niwed. Nod y canllawiau yw helpu ymddiriedolwyr i ddeall y risgiau hyn, sut mae eu dyletswyddau cyfreithiol yn berthnasol, a beth i’w ystyried os bydd problemau’n codi.
MAE’R CANLLAWIAU
- Yn egluro nad yw’r rheoleiddiwr yn disgwyl y bydd pob elusen yn cynnwys ymddiriedolwyr wrth redeg cyfryngau cymdeithasol bob dydd yr elusen, ond mae’n rhaid i ymddiriedolwyr ddeall eu cyfrifoldebau cyfreithiol hyd yn oed pan fyddant yn dirprwyo tasgau
- Yn nodi’r disgwyliad y dylai elusennau sy’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol gael polisi ar waith sy’n egluro sut y bydd defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn helpu i gyflawni diben yr elusen, a dylai gynnwys canllawiau’r elusen ei hun, fel y rheini ar ymddygiad ymddiriedolwyr, cyflogeion a gwirfoddolwyr sy’n defnyddio cyfryngau cymdeithasol ar ran yr elusen
- Yn cynnwys rhestr wirio hawdd ei defnyddio i helpu ymddiriedolwyr ac uwch gyflogwyr i gael sgyrsiau gwybodus ynghylch y polisi sy’n iawn iddyn nhw
- Yn dweud y dylai elusennau gael canllawiau i reoli’r risg y gallai cynnwys a gaiff ei bostio gan unigolion sy’n gysylltiedig â’r elusen yn eu hamser eu hun, yn enwedig y rheini mewn rolau uchel fel Prif Swyddogion Gweithredol, gael effaith negyddol ar yr elusen drwy eu cysylltiad â hi. Mae hefyd yn egluro bod gan ymddiriedolwyr, cyflogeion a phobl eraill yr hawl i arfer eu rhyddid mynegiant o fewn y gyfraith
- Yn cyfeirio mudiadau at adnoddau sy’n gallu helpu ymddiriedolwyr os ydynt eisiau gwella’u sgiliau cyfryngau cymdeithasol
YMGYNGHORI AR Y CYFARWYDDYD
Derbyniodd y Comisiwn 396 o ymatebion i’w ymgynghoriad ar y canllawiau ac mae wedi gwneud nifer o newidiadau i egluro ei ddisgwyliadau rheoleiddio yn sgil yr adborth hwn. Mae’r canllawiau terfynol hefyd yn pwysleisio’r buddion o ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, fel y gall elusennau fod yn hyderus o’u gallu i’w defnyddio.
Mae CGGC wedi cyflwyno ymateb i’r ymgynghoriad ar ran elusennau yng Nghymru. Rydyn ni’n croesawu’r canllawiau hyn ac yn falch o weld bod y Comisiwn wedi rhoi eglurhad pellach mewn ymateb i’r adborth gan y sector. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y canllawiau hyn yn ddefnyddiol i ymddiriedolwyr yng Nghymru.
AM FWY O WYBODAETH
Gallwch chi gael gafael ar y canllawiau a’r rhestr wirio yn Gymraeg a Saesneg ar wefan y Comisiwn Elusennau.