Menyw yn eistedd o flaen gliniadur gyda derbynebau, llyfr nodiadau a chyfrifiannell. Mae hi'n edrych ar gyllid yr elusen

Canllawiau wedi’u diweddaru ar reolaethau ariannol mewnol i ymddiriedolwyr

Cyhoeddwyd : 22/05/23 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Mae’r Comisiwn Elusennau wedi diweddaru ei ganllawiau ar reolaethau ariannol yn ddiweddar i gynnwys risgiau a gyflwynir gan dechnoleg fwy newydd, fel cryptoasedau.

Mae rheolaethau ariannol mewnol yn bwysig i bob elusen. Maen nhw’n wiriadau a gweithdrefnau hanfodol sy’n eich helpu i ddiogelu asedau eich elusen, nodi a rheoli risgiau, a gwneud penderfyniadau gwybodus ynghylch sefyllfa ariannol eich elusen.

Mae’r Comisiwn Elusennau wedi diweddaru ei ganllawiau ar reolaethau ariannol yn ddiweddar (a elwir yn CC8) i gynnwys risgiau a gyflwynir gan dechnoleg fwy newydd, fel cryptoasedau. Mae’r canllawiau wedi’u diweddaru yn egluro’r rôl gref sydd gan reolaethau ariannol mewnol mewn sicrhau y gall ymddiriedolwyr ddiogelu adnoddau eu helusennau.

BETH SY’N NEWYDD?

Yn ôl y comisiwn, mae ailstrwythuro’r canllawiau wedi’u gwneud yn fwy cryno a chlir ac maen nhw’n ymdrin â materion nad oedd yn bodoli na’n berthnasol iawn i’r sector pan gawsant eu llunio yn gyntaf. Mae’r canllawiau hefyd yn cynnwys rhestr wirio wedi’i diweddaru i helpu’r sector elusennol – sy’n cynhyrchu incwm o £80 biliwn y flwyddyn yng Nghymru a Lloegr – i’w rhoi nhw ar waith.

Mae’r Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg (Saesneg yn unig) wedi cyhoeddi gwaith ymchwil sy’n nodi bod 24% o elusennau wedi dioddef ymosodiad seiber yn y 12 mis diwethaf. Mae rhannau newydd o’r canllawiau yn ymdrin â materion megis defnyddio systemau talu symudol, fel Google Pay ac Apple Pay, ac yn ystyried cryptoasedau a roddir fel rhoddion, fel cryptogyllid a thocynnau anghyfnewidadwy (NFTs).

CYNGOR DIWEDDARAF AR RISGIAU TRADDODIADOL

Mae’r comisiwn hefyd wedi ailwampio’r cyngor cyfredol ar risgiau mwy traddodiadol, fel wrth godi arian a threfnu casgliadau cyhoeddus, gwneud taliadau i bartïon perthnasol, a gweithredu’n rhyngwladol, ac wedi ychwanegu adran ar dderbyn lletygarwch.

Gallwch chi weld y canllawiau llawn ar wefan y Comisiwn Elusennau: Rheolaethau Ariannol Mewnol ar gyfer Elusennau (tudalen we Saesneg yn unig).

MWY AR HYN

Mae Hwb Gwybodaeth Cefnogi Trydydd Sector Cymru (TSSW) yn cynnwys adnoddau i helpu elusennau i reoli arian. Mae’r rhain yn cynnwys e-gyrsiau ar Sefydlu System Ariannol a Canllawiau a Throsolwg Ariannol ar gyfer Ymddiriedolwyr. Gellir cofrestru ar y wefan am ddim i gael mynediad at y rhain a llawer o adnoddau eraill.

Gallai fod gennych chi hefyd ddiddordeb yn y blog hwn ar y pwnc Rheoli eich cyllid drwy gyfnodau heriol.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Snorcelio dros natur

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 27/08/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Dathlu addysg oedolion yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 23/08/24 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Yr ymgyrch ‘ewyllysgaredd’ sy’n ennill tir

Darllen mwy