Canllawiau i ymddiriedolwyr ar reoli anawsterau ariannol

Canllawiau i ymddiriedolwyr ar reoli anawsterau ariannol

Cyhoeddwyd : 06/02/23 | Categorïau: Newyddion |

Mae’r Comisiwn Elusennau wedi cyhoeddi canllawiau i ymddiriedolwyr ar reoli anawsterau ariannol mewn elusennau sy’n ymwneud â chostau byw.

Noda’r canllawiau fod y Comisiwn Elusennau yn cydnabod bod llawer o elusennau yn wynebu amgylchiadau anodd o ganlyniad i gostau sy’n cynyddu’n gyflym.

‘Gall hyn gynnwys eu llif arian eu hunain ond hefyd pryder am y rheini y maen nhw’n eu gwasanaethu ac am eu staff eu hunain sy’n wynebu pwysau costau byw. Mae rhai elusennau hefyd yn gweld mwy o alw, yn enwedig elusennau sy’n cynnig gwasanaethau i bobl mewn angen. Gall rhoddwyr hefyd fod o dan gyfyngiadau ariannol, sy’n arwain at lai o incwm i rai elusennau.

Gall yr heriau ariannol hyn gael effaith fawr ar elusennau a’r rheini sy’n dibynnu arnyn nhw. Mae’r canllawiau hyn i ymddiriedolwyr, yn enwedig ymddiriedolwyr elusennau llai, a all fod angen help wrth wynebu penderfyniadau anodd ynghylch sefyllfa ariannol eu helusen. Nid yw’n ymdrin yn uniongyrchol â phroblemau ehangach y gallai’r elusen fod yn eu hwynebu, fel caledi staff, ond mae gan fudiadau eraill ganllawiau i ymddiriedolwyr a all fod o gymorth â hyn.’

Mae’r canllawiau yn ymdrin â’r meysydd canlynol:

  • Dyletswyddau a phenderfyniadau ymddiriedolwyr
  • Beth i’w wneud os ydych chi’n wynebu anawsterau ariannol
  • Beth i’w wneud os na all eich elusen barhau i weithredu
  • Adrodd digwyddiad difrifol i’r Comisiwn Elusennau

O dan yr amgylchiadau heriol hyn, mae’r Comisiwn yn atgoffa ymddiriedolwyr ei bod hi’n bwysig eu bod yn parhau i ddeall a chydymffurfio â’u dyletswyddau i ddarparu stiwardiaeth ariannol effeithiol, ac i sicrhau bod unrhyw benderfyniadau er pennaf fudd yr elusen ac yn gwbl gyfreithlon.

Dylai ymddiriedolwyr bob amser ymddwyn er pennaf fudd eu helusen, ystyried risgiau eu penderfyniadau a gwerthuso sefyllfa ariannol eu helusen.

Aiff y canllawiau ymlaen i ystyried pa gamau y dylai ymddiriedolwyr eu cymryd pan fydd eu helusen yn profi anawsterau ariannol a sut i ddatblygu opsiynau i gefnogi gweithredu a chyflawni parhaus.

Yn olaf, mae’r canllawiau yn ymdrin â beth i’w wneud os na all yr elusen weithredu mwyach a sut i adrodd digwyddiad difrifol i’r Comisiwn.

Darllenwch y canllawiau llawn (Saesneg yn unig): Rheoli anawsterau ariannol yn eich elusen sy’n codi yn sgil pwysau’r costau byw

DARLLEN PELLACH

Efallai y bydd gennych chi hefyd ddiddordeb mewn darllen y blog hwn ar Rheoli eich cyllid drwy gyfnodau heriol

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 22/01/25
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Prosiect Newid y Gêm

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 13/01/25
Categorïau: Newyddion

Datganiad ar yr ymosodiadau diweddar ar Gyngor Ffoaduriaid Cymru dros gyfryngau cymdeithasol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 13/12/24
Categorïau: Newyddion

Swydd Wag – Rheolwr Rhaglen Forol

Darllen mwy