Dyn a menyw yn eistedd wrth gyfrifiadur

Canllawiau drafft i elusennau ar eu defnydd o gyfryngau cymdeithasol

Cyhoeddwyd : 06/02/23 | Categorïau: Newyddion |

Mae’r Comisiwn Elusennau eisiau clywed eich barn ar y canllawiau drafft i elusennau ar gyfryngau cymdeithasol.

Mae’r Comisiwn yn cydnabod bod cyfryngau cymdeithasol wedi dod yn ffordd bwerus i lawer o elusennau hyrwyddo eu gwaith, cysylltu â’u cefnogwyr ac ymgyrchu dros newid. Mae’r cyhoedd hefyd yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i ymhél â gwaith elusennau neu drafod eu gwaith.

Fodd bynnag, awgryma gwaith achos y Comisiwn mai ychydig iawn o drosolwg sydd gan rai ymddiriedolwyr o ddefnydd eu helusennau o gyfryngau cymdeithasol o’i gymharu ag agweddau eraill o’u strategaeth gyfathrebu ac ymgysylltu. ‘Gallai hyn fod oherwydd diffyg hyder neu ddealltwriaeth, neu am fod eu defnydd o gyfryngau cymdeithasol wedi’i ddatblygu drwy staff neu wirfoddolwyr.’

GWEITHREDIADAU BOB DYDD

Noda’r Comisiwn, ‘Er ei fod yn rhesymol i ymddiriedolwyr ddirprwyo’r gweithrediadau bob dydd ar gyfryngau cymdeithasol, mae’n bwysig bod cyd-ddealltwriaeth briodol o ddefnydd yr elusen o gyfryngau cymdeithasol a’r risgiau penodol y gall ei gyflwyno’.

Nod y canllawiau newydd hyn fydd helpu ymddiriedolwyr i wella eu dealltwriaeth, ac annog elusennau i fabwysiadu polisi ar gyfryngau cymdeithasol fel modd o osod dull gweithredu eu helusen. Bwriedir i’r canllawiau hyn alluogi pobl a chefnogi ymddiriedolwyr, nad ydynt yn disgwyl y byddant yn arbenigwyr yn y maes hwn. Nid yw’r canllawiau hyn yn cyflwyno dyletswyddau newydd i ymddiriedolwyr; yn hytrach, mae’n ceisio egluro sut mae’r dyletswyddau sydd eisoes yn bodoli yn berthnasol i ddefnydd elusen o gyfryngau cymdeithasol.

Mae’r canllawiau yn nodi y gall defnyddio cyfryngau cymdeithasol gyflwyno problemau a risgiau i elusennau, o ran cynnwys problemus:

  • sy’n cael ei bostio neu ei rannu gan yr elusen ar ei sianeli cyfryngau cymdeithasol ei hun
  • sy’n cael ei bostio gan y cyhoedd neu drydydd partïon ar sianel cyfryngau cymdeithasol elusen
  • sy’n cael ei bostio ar gyfrif cyfryngau cymdeithasol personol y gellir ei gysylltu’n rhesymol â’r elusen

Mae’r canllawiau drafft hefyd yn ymdrin â’r broblem gymhleth o bobl sy’n defnyddio cyfrifon personol i siarad am eu cyflogaeth ag elusen. Pwysleisia’r Comisiwn fod ‘gan y rheini a gyflogir gan, neu sy’n gweithio gydag, elusennau’r rhyddid i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol drwy eu hawl eu hunain. Ond weithiau, mae perygl y gellir dehongli postiadau unigolyn fel pethau sy’n adlewyrchu barn yr elusen, felly mae’r canllawiau drafft yn dweud y dylai ymddiriedolwyr ystyried gosod eu rheolau eu hunain a phennu sut byddent yn ymateb pe bai gweithgareddau o’r fath yn dwyn sylw negyddol at yr elusen. Nid diben hyn yw atal pobl rhag defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn bersonol; yn hytrach, y nod yw helpu i amlygu’r meysydd hynny lle gall yr elusen fod â phryder dilys, er enghraifft, fel y cyflogwr.’

Mae hwn yn ymgynghoriad pwysig ar gyfer y sector, ac argymhellwn fod ymddiriedolwyr elusennau yng Nghymru yn cymryd yr amser i ddarllen y canllawiau drafft ac ymateb i’r Comisiwn os oes ganddynt unrhyw sylwadau ar y canllawiau.

Gallwch chi ymateb i’r ymgynghoriad yma: Canllawiau drafft: defnydd elusennau o’r cyfryngau cymdeithasol

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 14 Mawrth

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 08/11/24 | Categorïau: Cyllid | Dylanwadu | Newyddion |

CGGC yn rhannu pryderon y sector ar gynnydd Yswiriant Gwladol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 31/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Allwch chi helpu i stopio’r effaith gynyddol?

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 30/10/24 | Categorïau: Newyddion |

Pan ddaw’r pencampwyr ynghyd

Darllen mwy