Beth yw’r rheolau i elusennau sydd eisiau cefnogi, neu wrthwynebu, newid mewn polisi llywodraethol neu newid yn y gyfraith?
Mae’r Comisiwn Elusennau wedi cyhoeddi canllaw newydd pum munud o hyd ar Weithgareddau gwleidyddol ac ymgyrchu gan elusennau.
Mae llawer o elusennau eisiau ymgyrchu dros newid i gefnogi eu diben. Yr ymddiriedolwyr sy’n gyfrifol am sicrhau bod eu helusen yn dilyn y rheolau ar weithgareddau gwleidyddol ac ymgyrchu.
Mae’r Comisiwn Elusennau yn defnyddio’r term ‘gweithgareddau gwleidyddol’ i ddisgrifio gweithgareddau neu ymgyrchoedd i newid neu ddylanwadu ar bolisïau neu benderfyniadau a wneir gan:
- y llywodraeth genedlaethol, ddatganoledig, leol neu dramor
- cyrff cyhoeddus gan gynnwys mudiadau rhyngwladol fel Banc y Cenhedloedd Unedig a’r Byd, a mudiadau cenedlaethol neu leol fel rheoleiddwyr neu Ymddiriedolwyr y GIG
Mae’r Comisiwn yn dweud y gall Elusennau gymryd rhan mewn gweithgareddau gwleidyddol sy’n cefnogi eu pwrpas ac sydd er budd pennaf:
‘Gall fod sefyllfaoedd lle mai cyflawni gweithgaredd gwleidyddol yw’r ffordd orau i ymddiriedolwyr gefnogi diben eu helusen. Fodd bynnag, ni ddylai gweithgaredd gwleidyddol ddod yn rheswm dros fodolaeth yr elusen.
Mae’n rhaid i elusennau aros yn annibynnol ac mae’n rhaid iddynt beidio â rhoi eu cefnogaeth i blaid wleidyddol.
Mae pŵer gan rai elusennau yn eu dogfen lywodraethol i esbonio sut y gallant gymryd rhan mewn gweithgaredd gwleidyddol. Nid oes angen pŵer penodol arnoch ond gall helpu os yw gweithgaredd gwleidyddol yn rhan allweddol o’ch gwaith, er enghraifft ar gyfer rhai elusennau hawliau dynol.
Mae gan rai elusennau gyfyngiadau yn eu dogfen lywodraethol sy’n atal gweithgaredd gwleidyddol. Gwiriwch eich dogfen lywodraethol am unrhyw gyfyngiadau o’r fath.’
Mae hefyd yn bwysig sicrhau bod unrhyw staff a gwirfoddolwyr sy’n gweithio ar ymgyrchoedd dros eich elusen yn deall y rheolau. Cofiwch, cyfrifoldeb yr ymddiriedolwyr yw’r gweithgareddau hyn, hyd yn oed os byddant yn dirprwyo’r gweithgareddau.
MAE’R CANLLAWIAU YN YMDRIN Â’R CANLYNOL:
- Yr hyn y mae’r Comisiwn yn ei olygu wrth ‘gweithgaredd gwleidyddol’
- Y rheolau ar weithgareddau gwleidyddol
- Ymhél â gweithgareddau gwleidyddol
- Gweithio gyda gwleidyddion
- Mathau eraill o ymgyrchu
Argymhellwn y dylai ymddiriedolwyr ddarllen y canllawiau hyn cyn ymgymryd â gweithgaredd ymgyrchu neu wleidyddol.
Gallwch chi ddarllen y canllawiau llawn (CC9) yma: Cyfarwyddyd ymgyrchu a gweithgareddau gwleidyddol i elusennau (CC9)
Eisiau’r newyddion diweddaraf, barna a chyhoeddiadau yn ogystal ag erthyglau defnyddiol ar bynciau sydd o bwys? Ymunwch gyda’n rhestr bostio. Bob wythnos rydym yn cynnig crynodeb o newyddion y sector wirfoddol a diweddariadau yn syth i’ch mewnflwch.