Rhagair

Mae’r canllawiau hyn ar gyfer canolfannau cymunedol yng Nghymru i roi trosolwg byr i chi o sut i ailgychwyn a chyflwyno gwasanaethau’n ddiogel.

  • Ysgrifennwyd gan Emma Waldron, Rheolwr Risg, Caffael a Llywodraethu, CGGC – 10 Gorffennaf 2020. Diweddarwyd: 26 Awst 2021.

Wrth ysgrifennu’r canllaw diwygiedig hwn, mae Cymru wedi symud nawr i Lefel Rhybudd 0. Gweler y Cynlluniau Rheoli’r Coronafeirws a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru i gael gwybodaeth am y lefelau rhybudd amrywiol.

Y newidiadau allweddol sydd wedi’u gwneud o ran canolfannau cymunedol yn y fersiwn ddiweddaraf hon yw:

  • Nid oes cyfyngiadau ar nifer y bobl sy’n gallu cwrdd dan do, gan gynnwys mewn mannau cyhoeddus neu ddigwyddiadau
  • Mae’r adran MESURAU RHESYMOL wedi’i diweddaru yn unol â’r rheoliadau diwygiedig
  • Ni fydd angen i oedolion sydd wedi’u brechu’n llawn, pobl o dan 18 oed na phobl sy’n cymryd rhan mewn treialon o’r brechlyn hunanynysu os byddant yn dod i gysylltiad agos â rhywun â’r coronafeirws. Gweler yr adran newydd ar HUNANYNYSU am ragor o wybodaeth
  • Nid oes gofyniad mwyach i gadw pellter cymdeithasol o ddwy fedr, ond bydd cadw pellter yn lleihau’r siawns o ledaenu’r feirws. Efallai y bydd rhai mudiadau’n parhau i gadw pellter cymdeithasol fel mesur rhesymol er mwyn lleihau’r risg o roi pobl mewn cysylltiad â’r coronafeirws. Gweler CADW PELLTER CORFFOROL/CYMDEITHASOL am ragor o wybodaeth
  • Mae gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol mewn mannau cyhoeddus, a chaiff canolfan gymunedol ei hystyried yn fan cyhoeddus. Gweler yr adran GORCHUDDION WYNEB am ragor o wybodaeth
  • Mae’n bwysig atgoffa pobl nad yw’r coronafeirws wedi diflannu, a dylai pobl barhau i fod yn ofalus

Noder y gofyniad am asesiad risg coronafeirws priodol a chyfredol a phwysigrwydd awyru digonol. Gweler ASESU RISG AC AWYRU am ragor o wybodaeth.

Mae canolfannau cymunedol yn cael agor, a diben y canllawiau diweddaraf hyn yw amlinellu’r newidiadau i’r rheoliadau a chynnig ffyrdd ymarferol i chi o agor eich canolfan cymunedol.

Mae nifer o newidiadau wedi’u gwneud i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 ers yr ysgrifennwyd y ddogfen hon yn gyntaf ym mis Gorffennaf 2020. Bydd newidiadau’n parhau, felly mae’n bwysig iawn sicrhau eich bod yn darllen y fersiwn ddiweddaraf. Pan fydd newidiadau i’r rheoliadau, byddwn yn ceisio diweddaru’r ddogfen hon cyn gynted ag y bo modd.

Mae’r rheoliadau yn gosod nifer o gyfyngiadau ar fusnesau a gwasanaethau eraill, ac mae’n rhaid i chi weithredu mewn modd sy’n cydymffurfio â’r rheoliadau, fel y cânt eu diweddaru neu eu diwygio.

Mae’r canllawiau hyn yn gywir ar adeg eu cyhoeddi, ac argymhellwn eu bod yn cael eu darllen ochr yn ochr â chanllawiau’r llywodraeth, y bydd angen i chi gadw llygad arnynt yn rheolaidd am ddiweddariadau. Yng Nghymru, gallwch gyfeirio at y safleoedd hyn am gyfarwyddyd: Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Dylech hefyd gyfeirio at ganllawiau a ddarperir gan Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (Saesneg yn unig). I weld y rheoliad ei hun ac unrhyw ddiweddariadau neu ddiwygiadau, gweler yma.

Nid yw’r canllawiau hyn yn gyngor cyfreithiol ac nid yw CGGC yn derbyn unrhyw atebolrwydd sy’n deillio ohonynt ac nid yw’n gyngor proffesiynol.  Mae CGGC yn argymell eich bod yn gwneud eich gwaith ymchwil eich hun ochr yn ochr â’r canllawiau hyn i sicrhau eich bod wedi cymryd pob cam rhesymol i sicrhau diogelwch eich safle, eich staff, gwirfoddolwyr, cwsmeriaid a’r gymuned.

Os byddwch chi’n penderfynu agor eich canolfan gymunedol, dylech dim ond gwneud hynny pan fydd yn ddiogel i wneud hynny a phan fyddwch chi’n teimlo’n ddigon hyderus i allu amddiffyn defnyddwyr y safle a chydymffurfio’n llawn â’r rheoliadau perthnasol. Tan hynny dylai eich lleoliad aros ar gau.

Os bydd rhywun yn mynd yn sâl gyda pheswch parhaus newydd; tymheredd uchel; colli neu newid yn ei synnwyr arogli neu flasu arferol, dylid ei anfon adref a’i gynghori i gael prawf a dilyn y cyngor i aros gartref.

Cynnwys

Gellir gweld Canllawiau Lefel Rhybudd 0 Llywodraeth Cymru yma.

Byddwch yn ymwybodol fod y rheoliadau’n parhau i newid a dylech wirio eich bod yn edrych ar llyw.cymru/coronafeirws-ar-gyfraith i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Er bod rhai o’r cyfeiriadau allanol wedi’u creu ar gyfer gwahanol sectorau ac amgylcheddau gwaith, maen nhw wedi’u cynnwys oherwydd gallent hefyd fod yn berthnasol i’ch senario chi.

NIFEROEDD A GANIATEIR O DAN DO A THU ALLAN

  1. Nid oes unrhyw gyfyngiadau mwyach ar nifer y bobl sy’n gallu cwrdd dan do nac y tu allan. Fodd bynnag, mae’n rhaid i drefnydd y gweithgaredd gydymffurfio ag adran 3 isod.
  2. Mae’n bwysig bod yn ymwybodol fod y rheoliadau’n berthnasol i berchennog y ganolfan (y sawl sy’n llogi)
  3. Mae’n rhaid i’r sawl sy’n gyfrifol am y ganolfan a’r sawl sy’n trefnu’r gweithgaredd gynnal asesiad risg a fyddai’n bodloni gofynion Rheoliad 3 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999(1). Hefyd, gweler ASESU RISG am ragor o wybodaeth.
    a
  4. Rhaid cymryd camau rhesymol. Yn ôl y rheoliadau, caiff canolfan gymunedol ei ystyried yn ‘safle a reoleiddir’. Felly mae’n ofyniad cyfreithiol i gymryd camau rhesymol i leihau’r posibilrwydd o ddod i gysylltiad â choronafeirws o fewn safle a reoleiddir. Dylech gyfarwyddo’ch hun â’r adran MESURAU RHESYMOL.

ASESU RISG

Cyn ailagor eich canolfan gymunedol, rhaid i chi gynnal asesiad risg Coronafeirws penodol yn ychwanegol at unrhyw asesiad risg a allai fod gennych ar waith eisoes. Mae’n rhaid i’ch asesiad risg fodloni’r gofynion a nodir yn Rheoliad 3 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999(1), waeth a ydych yn destun i’r rheoliadau neu beidio.

Pan fydd cynulliad a reoleiddir yn cael ei gynnal yn y ganolfan gymunedol, rhaid i’r sawl sy’n gyfrifol am drefnu’r cynulliad gwblhau a llunio asesiad risg ar gyfer y cynulliad hwnnw. Dylai’r sawl sy’n gyfrifol am y ganolfan dderbyn copi o’r asesiad hwnnw a bod yn fodlon fod y trefnydd wedi cydymffurfio â gofynion y rheoliadau er mwyn lleihau’r perygl y bydd mynychwyr yn dal yr haint.

Rhaid i’r sawl sy’n gyfrifol am y safle a reoleiddir roi gwybodaeth i’r unigolion hynny sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli ar y safle am yr asesiad o’r risg o ddal coronafeirws. Rhaid iddo hefyd ddweud wrthynt am y mesurau sydd wedi’u cymryd i leihau’r risg.

Ewch yma i weld templed penodol o asesiad risg Coronafeirws a’r canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Os yw cynnal asesiadau risg yn broses anghyfarwydd i chi, ewch yma (Saesneg yn unig) i weld rhai enghreifftiau.

Mae’n bwysig bod yn ymwybodol fod y rheoliadau’n berthnasol i berchennog y ganolfan (y sawl sy’n llogi) a’r rheini sy’n cynnal y gweithgaredd (y llogwr).

Gallai cyhoeddi eich cynlluniau a’ch asesiad risg helpu i dawelu meddwl staff, gwirfoddolwyr, y cyhoedd a rhanddeiliaid a bydd yn nodi’r newidiadau a’ch disgwyliadau yn glir. Er enghraifft, newid o archebu’n bersonol i archebu ar-lein a pheidio â derbyn taliadau arian parod.

Cofiwch hefyd eich bod yn talu sylw arbennig i Reoliad 3 Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999(1).

MESURAU RHESYMOL

At ddibenion lleihau’r risg o ddal neu ledaenu’r coronafeirws, rhaid i’r sawl/rheini sy’n gyfrifol a threfnydd y gweithgaredd gydymffurfio â’r gofynion sydd wedi’u nodi yn y rheoliadau. Rhaid i’r unigolyn cyfrifol:

  • Gynnal asesiad penodol o’r risg o ddal coronafeirws ar y safle a rhaid iddo hefyd ymgynghori â’r rheini sy’n gweithio ar y safle neu eu cynrychiolwyr. Rhaid rhoi gwybodaeth i’r unigolion hynny am yr asesiad o’r risg o ddal coronafeirws a’r mesurau sy’n cael eu cymryd i leihau’r risgiau.
  • Rhoi gwybodaeth i’r rheini sy’n mynd i mewn i’r canolfannau cymunedol a’r rheini sy’n gweithio yno am sut i leihau’r risgiau o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws a nodwyd yn yr asesiad risg, ac am y mesurau a fydd yn cael eu cymryd i leihau’r risgiau.
    Gweler y canllawiau defnyddiol hyn gan yr HSE (Saesneg yn unig) ar siarad â’ch gweithwyr am y coronafeirws.
  • Sicrhau ei fod yn cymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws sy’n codi pan fydd unigolion yn ymgynnull ar y safle, fel:
    • atal unrhyw un sydd wedi cael prawf positif am goronafeirws yn y 10 diwrnod blaenorol rhag bod yn bresennol ar y safle
    • atal unrhyw un sydd wedi bod mewn cysylltiad agos â rhywun sydd wedi cael prawf positif am goronafeirws yn y deg diwrnod blaenorol rhag bod yn bresennol ar y safle
    • atal unrhyw un â symptomau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws rhag bod yn bresennol ar y safle
  • Sicrhau bod unigolion sy’n ymgynnull ar y safle yn ymgynnull y tu allan pan fo’n ymarferol
  • Cyfyngu rhyngweithio agos wyneb yn wyneb rhwng unigolion ar y safle trwy, er enghraifft
    • newid gosodiad y ganolfan gan gynnwys lleoliad dodrefn a gweithfannau (os yw’n berthnasol)
    • rheoli’r defnydd o fynedfeydd, cynteddau, grisiau a lifftiau
    • rheoli’r defnydd o gyfleusterau a rennir fel toiledau a cheginau
    • rheoli’r defnydd o unrhyw ran arall o’r safle neu fynediad atynt
    • gosod barrau neu sgriniau
  • Cyfyngu am faint o amser y caiff unigolion fod yn bresennol ar y safle
  • Ceisio sicrhau bod y safle wedi’i awyru’n dda, gweler y canllawiau ar AWYRU
  • Cadw at safonau hylendid da ar y safle
  • Darparu neu ofyn i bobl ddefnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE)

Yn ogystal, rhaid rhoi gwybodaeth i’r rheini sy’n dod i mewn i ganolfannau cymunedol am sut i leihau’r risg o gysylltiad, er enghraifft, trwy ddefnyddio arwyddion diogelwch a chadw pellter corfforol.

Dyma fesurau eraill y dylech chi eu hystyried:

  • Peidio â chynnal gweithgareddau penodol
  • Cau rhan o’r safle

Rhaid i chi ganiatáu i’ch staff/gwirfoddolwyr ynysu os byddant yn cael prawf positif am goronafeirws neu os ydynt wedi cael cysylltiad agos â rhywun sydd wedi cael prawf positif am goronafeirws, am gyfnod o amser a nodir gan Weinidogion Cymru neu swyddog olrhain cysylltiadau.

Dylech gasglu gwybodaeth gyswllt gan bob unigolyn ar y safle a chadw’r wybodaeth hon am 21 o ddiwrnodau. Dylech hefyd geisio sicrhau bod yr wybodaeth a roddir i chi’n gywir. I gael rhagor o wybodaeth, gweler PROFI OLRHAIN DIOGELU.

Gweler yma am ganllawiau perthnasol Llywodraeth Cymru.

HUNANYNYSU

O 7 Awst 2021, ni fydd oedolion sydd wedi’u brechu’n llawn ac wedi derbyn y brechlyn yn y DU na’r rheini o dan 18 oed yn gorfod hunanynysu mwyach os ydynt mewn cysylltiad agos â rhywun sydd wedi derbyn prawf positif am COVID-19. Bydd gofyn iddynt gymryd profion PCR ar ddiwrnod 2 ar ôl bod mewn cysylltiad ag achos positif (neu cyn gynted â phosibl) ac ar ddiwrnod 8. Dylai’r unigolyn gymryd y profion hyd yn oed os yw’n teimlo’n iach.

Dylai’r unigolyn hefyd:

  • Ceisio lleihau cysylltiad ag eraill ac osgoi torfeydd, yn enwedig lleoliadau dan do
  • Dylai ystyried defnyddio profion llif unffordd bob dydd neu’n fwy rheolaidd o’r cyfnod y byddai wedi bod yn hunanynysu fel arall
  • Ni ddylai ymweld â phobl sy’n agored i niwed, fel y rheini mewn cartrefi gofal neu ysbytai
  • Gweithio gartref os nad yw’n gwneud hynny eisoes
  • Rhoi gwybod i’w gyflogwr ei fod yn gyswllt mewn achos o COVID-19
  • Ymarfer arferion hylendid ac anadlu da drwy olchi ei ddwylo’n rheolaidd a gwisgo gorchudd wyneb

Yn ôl y gyfraith, rhaid i rywun dros 18 oed hunanynysu os gofynnodd swyddog olrhain cysylltiadau iddo wneud hynny.

Dyma rai mesurau rhesymol awgrymedig y gallech ystyried eu rhoi ar waith:

  • Atal pobl o dan ofyniad cyfreithiol i hunanynysu rhag bod yn bresennol ar y safle
  • Os yw’r unigolyn a nodwyd fel cyswllt agos yn weithiwr neu’n wirfoddolwr ar eich safle, gallech ystyried a ddylai’r unigolyn hwnnw fod yn bresennol ar y safle. Mae hyn yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys a ellir cyflawni’r gwaith yn rhywle arall (fel o gartref); yr effaith y byddai absenoldeb y gweithiwr o’r safle yn ei chael ar y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu; a’r risg y gallai’r unigolyn ei chyflwyno i bobl sy’n agored i niwed pe bai’n parhau i weithio ar y safle
  • Gallech chi annog cyflogeion a gwirfoddolwyr i roi gwybod i chi os ydynt wedi’u nodi fel cyswllt agos ag achos positif, fel y gallwch chi ystyried addasiadau rhesymol fel cadw pellter corfforol a defnyddio PPE neu orchuddion wyneb
  • Ystyried a allai dyletswyddau eraill fod yn briodol er mwyn lleihau’r risg ledaenu
  • Atgyfnerthu pwysigrwydd profion PCR ar ddiwrnod 2 ac 8 yn ogystal â’r defnydd o brofion llif unffordd
  • Nodi cydweithwyr a ystyrir yn bobl eithriadol o agored i niwed yn glinigol a cheisio osgoi cysylltiad â’r cyswllt agos a cheisio eu hatal rhag gweithio’n agos â’i gilydd
  • Ystyried a ddylid hysbysu eraill am gyswllt agos ag achos positif. Mewn sefyllfa o’r fath, dylech geisio osgoi nodi’r unigolion, lle y bo’n bosibl. Hefyd, dim ond yr wybodaeth angenrheidiol y dylech chi ei rhannu, a dim mwy. I gael rhagor o wybodaeth, gweler yma am ganllawiau gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Saesneg yn unig).

Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr ac mae’n bosibl y bydd mesurau rhesymol eraill na chyfeirir atynt uchod yn briodol.

CADW PELLTER CORFFOROL/CYMDEITHASOL

Mae mesurau cadw pellter corfforol/cymdeithasol yn gamau a gymerir i leihau rhyngweithio rhwng unigolion/cartrefi er mwyn lleihau trosglwyddiad y Coronafeirws.  Mae’r gofyniad penodol i gadw pellter o 2 fedr wedi’i ddileu. Er nad yw’n ofyniad cyfreithiol mwyach, mae’n fesur effeithiol ac efallai yr un mwyaf haws ac amlwg i’w gymryd.

Gallai rhai enghreifftiau eraill o fesurau rhesymol gynnwys trefnu shifftiau/gweithgareddau am yn ail a lleihau nifer y bobl sydd ar y safle ar unrhyw un adeg. Mae CGGC yn argymell eich bod yn cadw manylion y camau rydych chi wedi’u cymryd i sicrhau bod ‘mesurau rhesymol’ wedi cael eu gweithredu a manylion yr addasiadau rydych chi wedi’u gwneud i gydymffurfio â’r gofyniad hwn.

Mae newid gosodiad adeiladau, rheoli’r defnydd o fynedfeydd, tramwyfeydd, grisiau a lifftiau, toiledau a cheginau, marciau llawr, llwybrau unffordd, clirio neu rwystro mynediad at ddodrefn, gosod ardaloedd dynodedig a systemau rheoli ciwiau diogel yn rhai o’r mesurau y gallech eu hystyried. Sylwch mai dim ond awgrymiadau o ddulliau posibl yw’r rhain ac nid ydynt yn rhestr wirio: mae pob lleoliad a senario yn wahanol.

AWYRU

Mae sicrhau awyru effeithiol ar safle bob amser wedi bod yn ofyniad cyfreithiol, ond mae nawr yn fwy hanfodol nag erioed gan ei fod yn chwarae rhan bwysig mewn lleihau trosglwyddiad y feirws. Dylai eich ystyriaethau o ran sicrhau awyru digonol fod yn rhan o’ch asesiad risg.

Dylech gael cymaint â phosibl o awyr iach i mewn i’r safle drwy:

  • awyru naturiol, trwy agor ffenestri, drysau a fentiau led y pen neu’n lledagored
  • awyru mecanyddol, trwy ddefnyddio gwyntyllau neu bibelli
  • cyfuniad o awyru naturiol a mecanyddol
  • agor ffenestri/drysau cyn i’r mynychwyr gyrraedd, pan fyddant yn gadael a rhwng gweithgareddau

Gellir cael canllawiau pellach yma gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (Saesneg yn unig).

Os yw eich safle wedi bod ar gau am gryn amser, gwiriwch eich bod yn gallu agor y ffenestri o hyd.

Hefyd, gweler y cyngor sydd ar gael isod:

Cofiwch ystyried goblygiadau iechyd a diogelwch ar bob adeg, er enghraifft, mae’n rhaid cadw drysau tân ar gau.

ARWYDDION DIOGELWCH A CHADW PELLTER CORFFOROL

Mae Llywodraeth Cymru wedi creu nifer o arwyddion dwyieithog a allai fod yn ddefnyddiol i chi; mae modd eu gweld yma. Gellir argraffu’r arwyddion hyn a’u harddangos ar eich safle. Mae opsiynau eraill ar gael o ran arwyddion, gan gynnwys amrywiaeth eang o bosteri, labeli ac arwyddion llawr: anfonwch e-bost at rpgenquiries@wcva.cymru os oes angen gwybodaeth arnoch am gyflenwyr.

GLANWEITHDRA

Dylech wneud trefniadau ar gyfer hylendid dwylo gwell er mwyn atal y risg o’r haint. Mae golchi eich dwylo â dŵr a sebon am o leiaf 20 eiliad yn helpu i ladd firysau a allai fod ar eich dwylo. Os nad oes dŵr a sebon ar gael, dylech ddarparu gel/hylif dwylo sy’n cynnwys alcohol. Mae golchi dwylo’n arbennig o bwysig wrth fynd i mewn neu allan o’r safle, ar ôl bod i’r toiled ac wrth symud o fewn gwahanol ystafelloedd/ leoliadau o fewn y safle. Dylid defnyddio posteri ac arwyddion i annog unigolion i olchi eu dwylo. Gellid gosod cyfarwyddiadau ar sut i olchi dwylo ger sinciau. Mae amrywiaeth o ddarluniau a phosteri ar gael, fel y rhai yma. Dylech hefyd sicrhau bod digon o gyflenwadau a mynediad at sebon a dŵr, ac ystyried defnyddio biniau â chaead.

Bydd arferion anadlu ystyriol hefyd yn lleihau trosglwyddiad Coronafeirws. Dylai posteri ‘Ei ddal, ei daflu, ei ddifa’ fod yn weladwy i atgoffa unigolion i barhau â lefelau hylendid da. Gellir dod o hyd i bosteri dwyieithog y gellir eu hargraffu ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yma.

GORCHUDDION WYNEB

Mae gwisgo gorchuddion wyneb ym mhob man cyhoeddus yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol, heblaw pan mae’r unigolyn yn 10 oed neu’n iau neu os oes gan yr unigolyn esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb, neu os oes angen iddo ei dynnu dros dro am y rhesymau a amlinellir isod.

Efallai yr hoffech chi arddangos y poster hwn ar eich safle.

Diffinnir canolfan gymunedol fel safle lle y mae’n rhaid i unigolyn wisgo gorchudd wyneb o’i fewn. Efallai y bydd gan ymwelwyr i’ch safle rai cwestiynau ynghylch defnyddio gorchuddion wyneb. Gallai’r wybodaeth ganlynol fod o gymorth.

Diffinnir esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb fel a ganlyn, pan fydd yr unigolyn:

  • yn methu rhoi gorchudd ar ei wyneb neu’n methu gwisgo gorchudd wyneb oherwydd salwch corfforol neu feddyliol, neu oherwydd anabledd neu amhariad;
  • gyda rhywun sy’n dibynnu ar wefusddarllen lle y mae angen iddo gyfathrebu; neu
  • yn dianc rhag bygythiad neu berygl ac nid oes ganddo orchudd wyneb

Ni ddylech ofyn am dystiolaeth o pam mae’r unigolyn wedi’i eithrio rhag gwisgo gorchudd wyneb gan nad yw pob anabledd yn weladwy i eraill. Fodd bynnag, dylai’r unigolyn sicrhau bod ganddo esgus rhesymol neu fe allai gael dirwy am beidio â chydymffurfio â’r gofynion. Gallai rhai pobl deimlo’n gysurus yn dangos rhywbeth syn dweud nad oes angen iddynt wisgo gorchudd wyneb, fel cerdyn, bathodyn, laniard neu arwydd wedi’i wneud â llaw sy’n nodi eu bod wedi’u heithrio. Dewis personol yw hwn, nid gofyniad cyfreithiol. Mae rhai enghreifftiau defnyddiol o gardiau a nodiadau eithrio ar gael drwy wefannau Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru.

Dylid gwisgo gorchuddion wyneb ar bob adeg a rhaid eu gwisgo’n gywir.  Fodd bynnag, gallai fod gan yr unigolyn esgus rhesymol dros dynnu’r gorchudd o’i wyneb dros dro. Dyma rai enghreifftiau:

  • i gymryd meddyginiaeth
  • i fwyta neu yfed
  • i osgoi niwed neu anaf, naill ai i’r unigolyn ei hun neu i bobl eraill, fel i rybuddio rhywun arall o berygl

Os ydych chi’n defnyddio gorchudd wyneb neu fasg, rhaid i chi beidio â’i dynnu i ffwrdd a’i adael ar arwynebau a rhaid i chi beidio â gadael gorchudd wyneb/masg o dan eich trwyn nac yn hongian o’ch gên. Mae’n bwysig eich bod yn ymwybodol o sut i wisgo a gofalu am eich gorchudd wyneb yn ddiogel, gweler yma am ganllawiau gan Lywodraeth Cymru.

Mae nifer cyfyngedig o achosion lle na fydd angen gorchuddion wyneb. Er enghraifft, pan fyddwch chi’n eistedd i fwyta neu yfed. Mae’n rhaid gwisgo gorchuddion wyneb wrth fynd i mewn i’r safle ac wrth aros i gael sylw wrth gownter (os yw’n berthnasol, er enghraifft) neu’n aros i gael sedd; rhaid hefyd eu gwisgo wrth symud o gwmpas, megis i fynd i’r toiledau neu wrth adael. Enghraifft arall yw os ydych chi’n gwneud ymarfer corff. Fodd bynnag, os ydych chi’n paratoi i wneud ymarfer corff, yn newid neu’n gwneud unrhyw weithgaredd nad yw’n rhy egnïol, yn enwedig pan fyddwch chi mewn cysylltiad agos â phobl eraill, bydd angen i chi wisgo gorchudd wyneb.

PROFION LLIF UNFFORDD

Yng Nghymru, caiff pobl nad ydynt yn gallu gweithio gartref, gan gynnwys gwirfoddolwyr, eu hannog i brofi eu hunain ddwywaith yr wythnos, gyda rhyw dri neu bedwar diwrnod rhwng y profion, gan ddefnyddio Profion Llif Unffordd. Cyfeiriwch at y ddogfen hon am ragor o wybodaeth: Fframwaith profi COVID-19 yn y gweithle.

Gellir cael Profion Llif Unffordd ar-lein neu wyneb yn wyneb, gweler isod am fanylion:

I gael trosolwg o brofion llif unffordd a chyfarwyddiadau ar sut i wneud prawf llif unffordd, gweler yma: https://llyw.cymru/profion-llif-unffordd-covid-19-ar-gyfer-pobl-heb-symptomau.

Os byddwch chi’n cael prawf positif, mae’n rhaid i chi hunanynysu ar unwaith am 10 diwrnod a chymryd prawf adwaith cadwynol polymerasau (PCR) mewn canolfan brofi o fewn 24 awr. Gallwch chi archebu prawf ar-lein ar GOV.UK (Saesneg yn unig), neu drwy ffonio 119 rhwng 7am ac 11pm (galwadau am ddim) neu drwy ap COVID-19 Y GIG.

PROFI, OLRHAIN, DIOGELU

Er mwyn rheoli lledaeniad y feirws, mae CGGC yn argymell eich bod yn cadw cofnod o bawb sy’n dod i mewn i’ch safle, yn unol â strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu Llywodraeth Cymru. Dylech hefyd sicrhau bod y rhai sy’n llogi’r lleoliad yn cadw cofnodion at yr un dibenion.

Dyma’r math o wybodaeth gyswllt y dylech chi ei chael:

  • enw’r unigolyn
  • rhif ffôn
  • y dyddiad a’r amser yr oedd yr unigolyn ar y safle

Dylid storio’r wybodaeth hon yn ddiogel a’i chadw am 21 o ddiwrnodau, a gellid ei rhoi i Weinidogion Cymru neu swyddogion olrhain cysylltiadau yn ôl y gofyn.

Sylwch nad yw deddfwriaeth ar Ddiogelu Data yn atal rhannu data lle mae budd cyhoeddus o’r pwys mwyaf. Fodd bynnag, rhaid i chi hysbysu unigolion o sut bydd eu data’n cael ei ddefnyddio. Er enghraifft, cynlluniwch ar gyfer y tebygolrwydd y bydd rhaid i chi basio gwybodaeth unigolion ymlaen i’r cynllun Profi, Olrhain, Diogelu os bydd angen i swyddogion olrhain cysylltiadau gysylltu â nhw. Rydyn ni wedi cael ein hysbysu o achosion lle y mae unigolion sy’n gadael eu manylion ar gyfer Profi, Olrhain, Diogelu wedi cael rhywun yn cysylltu â nhw am resymau eraill. Ni chaniateir hyn. Mae’n bwysig eich bod yn gadael yr agwedd olrhain i’r tîm Profi, Olrhain, Diogelu. Sicrhewch hefyd nad yw manylion personol unigolion yn cael eu harddangos i bawb eu gweld.

Dylech adolygu’ch hysbysiadau preifatrwydd i sicrhau eu bod yn parhau i gydymffurfio gan ystyried y newidiadau mewn amgylchiadau. Anogir chi hefyd i gyflwyno’r hysbysiad preifatrwydd i’r unigolyn yn uniongyrchol (naill ai ar lafar neu drwy hysbysiad preifatrwydd wedi’i argraffu) ar yr adeg y byddwch chi’n casglu ei fanylion. Os oes angen help arnoch i lunio’r hysbysiad preifatrwydd, mae’r ICO wedi creu templed y gellir dod o hyd iddo yma (Saesneg yn unig). Noder nad gofyniad cyfreithiol fydd y sail gyfreithiol dros gasglu’r data, oherwydd nid yw’n ofyniad cyfreithiol i ganolfannau cymunedol gasglu’r wybodaeth hon. Fodd bynnag, mae’n gam rhesymol y byddai disgwyl i chi ei gymryd.

Mae’r ICO hefyd wedi cynhyrchu rhai canllawiau defnyddiol ynglŷn â chasglu manylion cwsmeriaid ac ymwelwyr, sydd ar gael yma (Saesneg yn unig). Ewch yma hefyd i weld canllawiau Llywodraeth Cymru ar gadw cofnod o staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr.

Noder ei fod, o dan y rheoliadau newydd, yn drosedd i roi gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol i swyddog olrhain cysylltiadau.

AP COVID-19 Y GIG

Ar ddydd Iau 24 Medi 2020, lansiwyd ap COVID-19 y GIG yng Nghymru a Lloegr. Mae Llywodraeth Cymru yn annog mudiadau i arddangos posteri QR y GIG wrth fynedfeydd er mwyn i’r rheini sydd wedi lawrlwytho’r ap ddefnyddio’u ffonau i nodi ble maen nhw. Gellir cael rhagor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru yma a chanllawiau yma.

I greu cod QR i arddangos ar eich safle, gweler yma.

Argymhella CGGC eich bod yn cadw cofrestr o’r mynychwyr hefyd.

YR UNIGOLYN/UNIGOLION CYFRIFOL

Mae’r rheoliadau yn cyfeirio at amrediad o gyfrifoldebau sydd gan yr unigolion cyfrifol. Er eglurder, mae’r rheoliadau’n cynnwys y diffiniad canlynol:

‘mae “person sy’n gyfrifol am gynnal busnes” yn cynnwys perchennog a rheolwr y busnes hwnnw’.

GORFODI

Yn ôl y rheoliadau, diffinnir Swyddog Gorfodi fel cwnstabl neu swyddog cymorth cymunedol yr heddlu neu unigolyn a ddynodir gan Weinidogion Cymru, awdurdod lleol. Gall y swyddog gorfodi:

  • Cyflwyno hysbysiad gwella safle pan mae sail resymol dros amau bod rhywun wedi torri gofyniad yn y rheoliadau
  • Mynd i mewn i’r safle pan mae sail resymol dros amau bod rhywun wedi torri gofyniad yn y rheoliadau
  • Cyflwyno hysbysiad cau safle pan na fydd y gofynion a amlinellir yn yr hysbysiad cydymffurfio wedi’u bodloni.

I gael rhagor o wybodaeth am orfodi, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer swyddogion gorfodi y gellir dod o hyd iddynt yma.

POBL AGORED I NIWED

Mae dyletswydd statudol ar gyflogwyr i warchod iechyd, diogelwch a lles eu cyflogeion a’u gwirfoddolwyr yn y gweithle cyn belled ag y bo hynny’n rhesymol ymarferol, yn ogystal â dyletswydd i ofalu amdanynt. Mae’n bwysig nodi y gallai cyfran sylweddol o’ch gweithwyr/gwirfoddolwyr fod wedi dioddef neu yn dioddef straen a phryder a dylech sicrhau bod cefnogaeth ar gael. Mae’r ymgyrch Sut wyt ti? gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu adnoddau defnyddiol yma.

Efallai fod rhai unigolion yn poeni eu bod mewn mwy o risg o ddatblygu symptomau mwy difrifol os byddant yn dod i gysylltiad â’r Coronafeirws.  Yn yr achosion hyn, mae CGGC yn eich cynghori chi i gynnal asesiad risg penodol gan ddefnyddio’r adnodd hwn: Asesiad Risg Covid-19 ar gyfer y Gweithlu. Mae’n rhoi canllawiau defnyddiol iawn i’r unigolyn a’r cyflogwr. Mae rhagor o wybodaeth am yr adnodd ar gael yma.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’r unigolion y nodir eu bod mewn mwy o berygl o’r coronafeirws, oherwydd fe gynghorir y grŵp hwn i dalu sylw penodol i’r canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol a hylendid dwylo.

Mae gwefan Cymru Iach ar Waith yn cynnwys gwybodaeth a chyngor defnyddiol i gefnogi cyflogwyr a chyflogeion. Gellir dod o hyd i hyn yma.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn annog unigolion i weithio o gartref lle bynnag y bo’n bosibl, gan nodi, ‘Ni ddylid gofyn na rhoi pwysau ar staff i ddychwelyd i weithle os nad oes achos busnes clir dros wneud hynny’. Gweler yma am ragor o wybodaeth.

GWIRFODDOLWYR

Mae’n ddyletswydd ar fudiadau i ofalu am wirfoddolwyr, ac fe ddylent dderbyn yr un lefel o warchodaeth ag unrhyw gyflogai. Gweler yma i gael rhagor o wybodaeth gan CGGC ac i weld y canllawiau hyn ar wirfoddoli ar ôl y cyfyngiadau symud (Saesneg yn unig).

Os ydych chi’n meddwl am wirfoddoli, gallai’r adnodd hwn fod yn ddefnyddiol i chi.

YSWIRIANT

Mae’n bwysig iawn rhoi gwybod i’ch cwmni yswiriant am eich gweithgareddau. Bydd eich cwmni yswiriant yn gofyn i chi ddilyn a chydymffurfio â’r holl argymhellion a chanllawiau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru. Bydd angen i chi hysbysu’ch cwmni yswiriant y byddwch chi’n ailddechrau gwasanaethau, a thrafod unrhyw ofynion newydd y mae’n rhaid i chi eu hystyried er mwyn sicrhau eich bod yn cydymffurfio â’ch polisi yswiriant.

Mae broceriaid Thomas Carroll wedi cynhyrchu canllawiau ar gyfer mudiadau sy’n ailddechrau eu gwasanaethau, ac maen nhw i’w gweld yma and yma (Saesneg yn unig).

YMDDIRIEDOLWYR A LLYWODRAETHU DA

Mae gan ymddiriedolwyr rôl bwysig i’w chwarae a rhaid i chi weithredu i leihau’r potensial o ledaenu’r Coronafeirws ymhlith unigolion yn eich safle ac ar eich tir. Rhaid i chi gadw’r holl ddogfennau ar asesiadau a wnaed a chofnodi’r holl benderfyniadau a wnaed.

O ran trefniadau llywodraethu yn ystod y pandemig hwn, cynghorir ymddiriedolwyr i gyfarwyddo’u hunain â’r canllawiau (Saesneg yn unig) sydd ar gael gan y Comisiwn Elusennau, a chadw i’r funud â newidiadau a newyddion diweddaraf. Er enghraifft, ym mis Mehefin 2020, cynhyrchodd y Comisiwn Elusennau ganllawiau ar adrodd digwyddiadau difrifol yn ystod pandemig y coronafeirws. Gellir cael rhagor o wybodaeth yma (Saesneg yn unig).

Efallai y bydd yn rhaid i chi addasu natur eich gwasanaethau oherwydd achosion o’r Coronafeirws. Os felly, cyfeiriwch at eich amcanion elusennol yn eich dogfennau llywodraethu i sicrhau bod unrhyw wasanaethau newydd yn unol â’ch amcanion.

Os byddwch chi’n penderfynu cynnal eich cyfarfodydd bwrdd neu bwyllgor ar ffurf rithwir, gallai’r canllawiau arferion da hyn (Saesneg yn unig) gan y Sefydliad Llywodraethu Siartredig fod yn adnodd defnyddiol i chi.

CONTRACTAU A LLOGI CANOLFANNAU

Mae’n bwysig ymgynghori â’r rhai sy’n llogi’ch canolfan, yn enwedig y rhai sy’n llogi slotiau rheolaidd.  Efallai, er enghraifft, bod angen ystafell fwy nag arfer arnynt fel rhan o’r mesurau rhesymol y maen nhw’n eu cymryd.

Dylech hefyd ystyried a yw’n ofynnol i’r sawl sy’n llogi’r lleoliad lanhau arwynebau ac offer, neu a yw hyn yn rhywbeth y byddwch chi’n ei reoli.  Rhaid i chi fod yn hyderus bod y glanhau yn cael ei wneud i’r lefel uwch sydd bellach yn ofynnol a bod yr unigolion yn cyflawni’r gofynion trylwyr ac yn dilyn canllawiau ar lanhau. Gweler yr adran GLANHAU am ragor o wybodaeth.

Argymhellir eich bod yn darparu hylif/gel/hylif diheintio ag alcohol wrth fynedfeydd/allanfeydd ac mewn ystafelloedd cyfarfod. Dylech hefyd gofnodi’r amser a’r dyddiad diwethaf y cafodd y lleoliad ei lanhau a gallech ystyried ei arddangos i dawelu meddwl ymwelwyr eich canolfan.

Dylech roi blaenoriaeth i wasanaethau hanfodol yn ystod y cam ailagor. Lle mae gan y ganolfan nifer o archebion, efallai y bydd angen i chi adael cyfnod hirach o amser rhwng yr archebion er mwyn gallu glanhau ac atal tagfeydd rhag ffurfio wrth i bobl fynd i mewn ac allan o ystafelloedd/y safle. Dylech hefyd sicrhau bod cyflenwadau’n cael eu hail-lenwi, fel hylif diheintio a deunyddiau glanhau.

Gallech ystyried rhoi amodau newydd i bobl sy’n llogi’r adeilad yn sgil y Coronafeirws, yn ysgrifenedig ac ynghlwm wrth y cytundeb llogi arferol. Rhaid i logwyr dderbyn yr amodau newydd yn ysgrifenedig (trwy lofnod). Mae Cyfreithwyr Dolmans (Saesneg yn unig) wedi bod yn ddigon caredig i gytuno i baratoi rhai telerau ac amodau drafft y gall mudiadau eu defnyddio, a gellir gweld y rhain yma. Gallech ddewis defnyddio rhai o’r telerau hyn neu’r holl delerau, nid oes yn rhaid i chi eu defnyddio, ond gallent helpu os nad ydych eisoes wedi diwygio eich telerau ac amodau. Mae’n hollbwysig eich bod yn darllen drwy’r telerau er mwyn pennu pa rai yw’r rhai mwyaf priodol ar gyfer eich mudiad. Rhaid i chi hefyd sicrhau eich bod chi a’r sawl sy’n llogi yn deall ac yn cadw at y telerau hyn, maen nhw’n berthnasol i’r ddwy ochr. Noder hefyd y gallai fod angen diweddaru’r telerau o bryd i’w gilydd, yn unol ag unrhyw newidiadau yn y ddeddfwriaeth.

Dylech ddarparu copi o’ch asesiad risg i’ch llogwyr. Yn ogystal, rhaid i chi gael copi o asesiad risg y sawl sy’n llogi’r lle.

Dylid annog y rhai sy’n llogi’ch canolfan i ddod â’u bwyd a’u diod eu hunain yn hytrach na gwneud bwyd a diod ar y safle, gan leihau’r glanhau sy’n ofynnol yn y gegin. Dylid annog llogwyr sy’n dod â’u hoffer eu hunain i mewn i ddefnyddio eu hylif diheintio a’u thywelion gwlyb eu hunain.

GLANHAU

Mae’n debygol iawn bod eich safle wedi bod ar gau ers cryn amser ac felly dylech gynnal gwiriad iechyd a diogelwch cyffredinol cyn ailagor. Mae risg uwch o dwf bacteria, er enghraifft clefyd y lleng filwyr, oherwydd bod dŵr wedi bod yn llonydd. Dylech wneud gwaith glanhau dwfn a diheintio’r safle’n drylwyr cyn ailagor. Gweler cyngor yr HSE ar risg clefyd y lleng filwyr yma (Saesneg yn unig).

Mae Scouts Cymru wedi llunio rhestr wirio ddefnyddiol iawn, y gellir ei gweld yma (Saesneg yn unig) a’i defnyddio ochr yn ochr â chanllawiau’r llywodraeth, nid yn eu lle.

Dylid rhoi protocolau glanhau ar waith: bydd angen i chi benderfynu pa mor aml y dylid glanhau/dihalogi’n rheolaidd a bydd hyn yn seiliedig ar eich asesiad risg. Dylech hefyd gofnodi pryd gafodd y lle ei lanhau ac arddangos y manylion. Os nad ydych chi’n trosglwyddo’r dyletswyddau glanhau i’r llogwyr, bydd angen i chi sicrhau bod gan yr unigolyn sy’n gyfrifol, e.e. y gofalwr, amserlen glir o’r sesiynau sydd wedi’u llogi a bod digon o amser yn cael ei ddyrannu ar gyfer dyletswyddau glanhau.

Wrth ystyried eich trefniadau glanhau, dylech gyfeirio at y canllawiau sydd ar gael gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, a amlinellir yma (Saesneg yn unig). Dylech nodi arwynebau sy’n cael eu cyffwrdd yn aml fel dolenni drysau, switsys golau, ac ati, oherwydd bydd angen glanhau’r rhain yn fwy rheolaidd nag arfer, yn ogystal ag atgoffa pobl i olchi eu dwylo. Mae’r canllaw yn awgrymu dau ddull glanhau: glanhau dwfn a glanhau cyfnodol. Mae hefyd yn awgrymu eich bod yn cyfyngu symudiadau ac yn lleihau’r angen i bobl gyffwrdd â gwrthrychau ac mae’n cynnwys rhai awgrymiadau defnyddiol.

Lle bo unigolyn yn dangos symptomau’r coronafeirws neu wedi cael canlyniad positif i’r prawf, rhaid rhoi gwastraff mewn bag sbwriel plastig a’i glymu pan fo’n llawn, wedyn ei roi mewn bag bin arall a chlymu hwnnw, wedyn ei rhoi mewn cynhwysydd gwastraff priodol a diogel am o leiaf 72 awr cyn iddo gael ei gasglu gyda’r gwastraff arferol.

Os nad yw’r unigolyn yn dangos symptomau’r coronafeirws nac wedi cael canlyniad positif i’r prawf, does dim angen i chi ddidoli gwastraff a gallwch gael gwared â gwastraff fel arfer.

Nodwch fod yn rhaid glanhau dyfeisiau symudol hefyd, gweler yma am ragor o wybodaeth (Saesneg yn unig).

Mae’r canllaw hwn ar ddihalogi mewn lleoliadau nad ydynt yn rhai gofal iechyd (Saesneg yn unig) hefyd yn darparu rhagor o wybodaeth ddefnyddiol.

CYNNYRCH GLANHAU

Yn anochel bydd mwy o alw am gynhyrchion glanhau.  Os na all eich cyflenwr arferol eich cynorthwyo, anfonwch e-bost at rpgenquiries@wcva.cymru os oes angen gwybodaeth am gyflenwyr arnoch chi.

I gael gwybodaeth am ddewis diheintyddion arwyneb, darllenwch hwn (Saesneg yn unig) gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

CYFLENWADAU CYFARPAR DIOGELU PERSONOL (PPE)

Mae cyfarpar diogelu personol (PPE) yn cynnwys eitemau fel masgiau wyneb, ffedogau, menig, feisorau, gorchuddion esgidiau, ac ati. Mae cynnydd yn y galw am gyfarpar diogelu personol ers y Coronafeirws wedi gweld llawer iawn o gynhyrchion ffug a chynhyrchion nad ydynt yn cydymffurfio yn dod i mewn i’r farchnad, mae’n hanfodol eich bod yn prynu cynhyrchion sydd wedi’u hardystio’n gywir yn unig.

Efallai na fydd angen cyfarpar diogelu personol ar eich mudiad, a dylid dod i benderfyniad am hyn drwy eich asesiad risg a’r canllawiau diweddaraf sydd ar gael. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynghori nad oes unrhyw ofyniad i ddefnyddio cyfarpar diogelu personol, ac eithrio wrth ddarparu gofal personol/clinigol uniongyrchol o fewn dau fetr neu ble na ellir osgoi bod o fewn dau fetr i unigolyn. Mae gwybodaeth bellach a mwy manwl ar gael yma (Saesneg yn unig).

Os byddwch yn penderfynu bod angen cael cyfarpar diogelu personol, mae’n bwysig nodi bod yn rhaid i chi sicrhau eich bod yn gwybod sut i ddefnyddio’r cyfarpar er mwyn iddo fod yn effeithiol. Ni fydd yn atal yr haint rhag lledaenu oni bai ei fod:

  • yn cael ei ddefnyddio a’i newid ar yr amser iawn
  • yn mynd law yn llaw â hylendid dwylo da,

a

  • bod arferion anadlu ystyriol ar waith

Os ydych chi’n defnyddio menig a ffedogau er enghraifft, cofiwch mai eitemau untro yn unig yw’r rhain. Dylid golchi dwylo neu ddefnyddio gel rhwng defnyddwyr gwasanaeth ac ar ôl tynnu menig.

Mae hunan-halogi yn gyffredin iawn wrth dynnu cyfarpar diogelu personol. Mae canllawiau ar wisgo a thynnu cyfarpar diogelu personol ar gael yma (Saesneg yn unig).

Os byddwch chi’n cael unrhyw anawsterau dod o hyd i PPE, anfonwch e-bost at rpgenquiries@wcva.cymru. I fudiadau’r sector cyhoeddus, cysylltwch ag NPSCorporateServices@gov.wales.

CYDRADDOLDEB

Rhaid i’ch strategaeth i ailddechrau gwasanaethau gydnabod anghenion a hawliau unigolion. Er enghraifft, ni ddylai unrhyw rwystrau corfforol, rhwystrau cyfathrebu newydd ac ati greu rhwystr i bobl sy’n defnyddio ffyn cerdded neu gadeiriau olwyn, dylent fod yn weladwy ac yn glir ac ni ddylent fod yn berygl i bobl â nam ar eu synhwyrau. Gallech hefyd ystyried, er enghraifft, darparu bag gerllaw i gael gwared ar hancesi papur ar unwaith lle gallai fod angen cymorth ar unigolion sy’n peswch neu disian.

DEFNYDDIO’R LLEOLIAD AT DDEFNYDD GOFAL PLANT

Dylai canolfannau sy’n darparu gofal plant neu wasanaeth meithrinfa ddilyn y canllawiau perthnasol sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru yma.

SYMPTOMAU

Cofiwch os byddwch yn datblygu un o’r symptomau canlynol:

  • tymheredd uchel: mae hyn yn golygu eich bod yn teimlo’n boeth ar eich brest neu’ch cefn (nid oes angen i chi fesur eich tymheredd)
  • peswch newydd, parhaus: mae hyn yn golygu peswch llawer am fwy nag awr, neu dri phwl o beswch neu ragor mewn 24 awr (os oes gennych chi beswch fel arfer, gallai fod yn waeth nag arfer)
  • colli’ch synnwyr arogli neu flasu neu newid yn y synhwyrau hyn: mae hyn yn golygu eich bod wedi sylwi nad ydych chi’n gallu arogli neu flasu unrhyw beth, neu fod pethau’n arogli’n wahanol i’r arfer

Dylech ddilyn y canllawiau hunanynysu a gwneud cais am brawf coronafeirws.

CYSYLLTIADAU PELLACH

Mae gan bob sir wahanol drefniadau cymorth. Os oes gennych chi eisoes gyswllt yn eich awdurdod lleol a/neu gyngor gwirfoddol sirol, argymhellir eich bod yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd ag ef i gael cymorth ymarferol a chlywed am newidiadau i’r rheoliadau a chanllawiau.

Mae manylion cyswllt ar gael yma ar gyfer awdurdodau lleol ac yma ar gyfer y cynghorau gwirfoddol sirol lleol.

Mae’r canllawiau hyn wedi’u llunio gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) mewn ymateb i ymholiadau gan y sector gwirfoddol yng Nghymru. Gyda diolch i Lywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), Un Llais Cymru, Scouts Cymru a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion am eu cymorth, eu cefnogaeth a’u cyfraniadau.