Yma fe welwch wybodaeth a chyngor sy’n gysylltiedig â Coronafeirws ar bethau fel gwirfoddoli, cyllid, ymddiriedolwyr a llywodraethu, ac iechyd a lles.
Rydym wedi coladu ein holl ganllawiau ac adnoddau ar gyfer mudiadau gwirfoddol yng Nghymru ar y dudalen ganllaw COVID-19 hon
Cyllid
- CYHOEDDI TRYDYDD CAM Y CYLLID – Bydd cam newydd Cronfa Gwydnwch y Trydydd Sector yn cynnig cyllid grant ‘goroesi’ a ‘ffynnu’ i fudiadau gwirfoddol sy’n wynebu heriau cyfredol a newydd wrth iddynt fynd i’r afael ag effeithiau parhaus COVID-19
- A oedd rhaid i chi ohirio’ch cynlluniau oherwydd y pandemig? Mae Alun Jones yn esbonio pam nawr yw’r amser i edrych ar dwf a chynhyrchu incwm
- Wrth i’r cyfyngiadau godi mae sefydliadau am gynyddu eu hincwm. Mae cyllid ar gael o hyd drwy’r Gronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol i gefnogi’r twf hwnnw. Ond mae amser yn brin
- Defnyddiodd derbynwyr Gronfa Adfer Gwasanaethau Gwirfoddol Brighter Futures eu cyllid i addasu eu gwasanaethau i aros ar agor trwy gydol y pandemig, a’r wythnos diwethaf cawsant ymweliad gan y Tywysog William. Os ydych chi wedi derbyn unrhyw sylw yn y cyfryngau o’r gwaith rydych chi wedi’i wneud ers eich cyllid grant brys COVID, rhowch wybod i ni
- Ar hyn o bryd, mae elusennau yn gwneud popeth o fewn eu gallu i wneud gwahaniaeth – ond mae angen mwy o gefnogaeth arnynt. Yr ymgyrch #RightNow yw eich cyfle i anfon neges gyhoeddus at Lywodraeth y DU bod angen Cronfa Cymorth Brys ar elusennau ar frys fel y gallant ddarparu cefnogaeth hanfodol i’n cymunedau. Darganfyddwch sut y gallwch chi gefnogi’r ymgyrch (Saes yn unig)
- Mae ceisiadau Rapid Recovery Challenge Community Outreach Grants Nesta yn cau ddydd Llun 1 Chwefror. Bydd tri i bedwar grantî Allgymorth Cymunedol yn derbyn £50- £90k yr un mewn cyllid grant. Darganfyddwch fwy am y cynllun ar eu gwefan (Saesneg yn unig)
- Mae Sefydliad Moondance wedi cyhoeddi £10 miliwn ychwanegol i’w ddosbarthu i fudiadau gwirfoddol Cymru sy’n ei chael yn anodd o ganlyniad i’r pandemig
- Mae tîm ymgyrch #NawrFwyNagErioed yn pwyso am fwy o arian ar gyfer sector gwirfoddol y DU, ac yn ymgynghori ar dri syniad gwahanol i gael sylw’r llywodraeth. Gadewch iddyn nhw wybod beth yw eich barn chi yma [Saesneg yn unig]
- Gall mudiadau dal wneud cais am gyllid brys COVID-19 o’r Gronfa Adfer Gwasanaethau Gwirfoddol – darganfod os ydych chi’n gymwys
- Mae manylion llawn sut gall mudiadau llai gwneud cais i gynllun Kickstart yr Adran Gwaith a Phensiynau bellach ar gael ar ein gwefan. Bydd y cynllun yn darparu swyddi â chymhorthdal llawn i bobl ifanc, ac mae CGGC yn cynorthwyo mudiadau gwirfoddol llai gyda cheisiadau
- Mae Benthyciadau Arbed Tenantiaeth ar gael nawr gan Undebau Credyd. Mae CGGC yn falch o fod yn rhedeg y cynllun newydd hwn gyda Llywodraeth Cymru ac Undebau Credyd Cymru. Mwy o wybodaeth ar ein wefan
- Dewch o hyd i’r cronfeydd diweddaraf i gefnogi’r sector trwy’r pandemig ar Cyllido Cymru
- Ydy COVID-19 wedi effeithio eich gweithgaredd chwaraeon lleol chi? Mae modd i chi wneud cais am grant trwy’r Cronfa Cymru Actif er mwyn sicrhau bod eich clwb yn goroesi’r pandemig, neu eich helpu i baratoi eich gweithgaredd i ailddechrau’n ddiogel
- Rhestr o ymatebion amrywiaeth o arianwyr i’r firws
Gwirfoddoli
- Yn ystod y pandemig mae mwy o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol wedi ymgysylltu â gwirfoddolwyr nag erioed o’r blaen. Mae Fiona Liddell yn siarad am y Fframwaith ar gyfer Gwirfoddoli yn y maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a ddyluniwyd i gefnogi unrhyw fudiad i gynnwys gwirfoddolwyr
- Mae’n Wythnos Gwirfoddolwyr! Dysgwch sut y gallwch gymryd rhan a dweud diolch yn fawr i’r holl wirfoddolwyr anhygoel yng Nghymru sydd wedi gwneud cymaint yn ystod y cyfnod anodd hwn
- Un o’n herthyglau a ddarllenwyd fwyaf eleni fu’r erthygl hon ar sut y gall gwirfoddolwyr gefnogi brechiadau ledled Cymru, gan gynnwys gwybodaeth am bwy i gysylltu â nhw ynghylch gwirfoddoli GIG lleol
- Mae gwirfoddolwyr wedi gwneud gwahaniaeth enfawr yn ystod y pandemig. Dyma sut i gadw eich gwirfoddolwyr yn ddiogel, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, wrth iddyn nhw gefnogi eu cymunedau
- Yng Nghymru, mae pobl sy’n gwneud gwaith gwirfoddol na ellir eu gwneud gartref yn cael eu hannog i brofi eu hunain yn rheolaidd gyda hunan-brofion cyflym. Casglwch brofion o’ch Safle Prawf Lleol agosaf (LTS)
- Os hoffech chi wirfoddoli neu gynnig cefnogaeth yn ystod lefel rhybudd 4, mae’n bwysig eich bod chi’n cadw’ch hun ac eraill yn ddiogel. Rydym wedi diweddaru ein canllawiau ar wirfoddoli yn ystod y pandemig
- Gallwch barhau i wneud gwaith gwirfoddol o dan ganllawiau Llywodraeth Cymru – ond rhaid i chi wneud hynny gartref os yw’n ymarferol. Darganfyddwch fwy am gyfyngiadau rhybudd lefel 4 yng Nghwestiynau Cyffredin Llywodraeth Cymru
- Gall pobl sydd â chefndir clinigol ddarganfod mwy am wirfoddoli i gefnogi rhaglen frechu COVID-19 yng Nghymru a chofrestru eu diddordeb
- Bydd gan wirfoddolwyr ran hanfodol i’w chwarae wrth gyflwyno’r brechlyn. Darganfyddwch sut y gallwch chi gymryd rhan yma
- Mae’r Loteri Genedlaethol, ITV a STV wedi ymuno ag ymgyrch newydd i annog gwylwyr i fethu pennod o’u hoff sioe deledu i roi help llaw trwy wirfoddoli yn eu cymuned
- Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio arolwg cymunedol i effaith y cyfyngiadau a osodwyd gan Covid-19 ar wirfoddoli trwy gyfrwng y Gymraeg a defnyddio’r Gymraeg
- Yn ystod y misoedd nesaf, wrth i’r cyfyngiadau lacio’n raddol ar ôl cyfnod clo y pandemig Coronafeirws, rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda gwirfoddolwyr unwaith eto. Fiona Liddell, Rheolwr Helplu CGGC, sy’n trafod y ffordd ymlaen ac yn nodi rhai adnoddau defnyddiol
- Mae Prosiect Cymorth Coronafeirws Caerdydd wedi cofio Ramadan gydag ymateb anhygoel gan y gymuned. Mae wedi danfon 500 o barseli bwyd allan, wedi casglu dros £5,000 mewn rhoddion hael, ac mae mwy na 100 o wirfoddolwyr wedi cofrestru i helpu. Darllenwch eu story
- Yma, mae Rheolwr Gwirfoddoli CGGC, Felicitie Walls, yn ymdrin â’r prif bwyntiau i’w hystyried wrth baratoi neu ailgydio mewn gwaith gwirfoddol ar ôl y cyfyngiadau symud
- Mae’r podlediad gwirfoddoli cyntaf gan Gwirfoddoli Cymru a Helplu Cymru yn egluro rôl gwirfoddolwyr mewn ymateb i’r bandemig Covid-19
- Yma, mae Felicitie Walls, Rheolwr Gwirfoddoli CGGC, yn edrych ar sut allai newidiadau i wirfoddoli alluogi pobl ifanc i wrthbwyso’r effeithiau negyddol y mae’r cyfyngiadau symud wedi’u cael ar eu bywydau, yn y tymor byr a chanolig
- Mae Emma Morgan, sy’n wirfoddolwr i CGGC, yn esbonio pam y dylech ystyried creu rolau codi arian rhithwir gwirfoddol i’ch mudiad
- E-cardiau rhodd i wirfoddolwyr – canllawiau wedi’u diweddaru gan Lywodraeth Cymru ar gynlluniau archfarchnadoedd i helpu gwirfoddolwyr i siopa i’r rhai sy’n agored i niwed (Saesneg yn unig)
- Bydd y rhestr hon o adnoddau am ddim yn eich helpu i baratoi gwirfoddolwyr ar gyfer rolau newydd neu ar gyfer rolau y byddant yn eu cyflawni o dan amgylchiadau gwahanol yn ystod y cyfnod hwn
- Gallwch nawr ddod o hyd i neu cofrestru cyfleoedd gwirfoddoli ar gyfer cefnogaeth i ddelio gyda coronafeirws ar Gwirfoddoli Cymru
- Os and ydych yn gallu cael cymorth o’ch teulu neu ffrindiau ac angen cymorth o gwirfoddolwyr, cysylltwch a’ch cyngor lleol
- Mae gan CLlLC ganolbwynt o adnoddau a gwybodaeth ddefnyddiol ar wirfoddoli ar gael ar eu gwefan
- Dyma canllaw ar gyfer gwirfoddoli mewn lleoliadau gofal cymdeithasol ar gyfer staff sydd yn neu’n debygol o reoli gwirfoddolwyr o fewn gofal cymdeithasol
- Rydym ni wedi cynhyrchu set newydd o ganllawiau ar gyfer staff sy’n rheoli gwirfoddolwyr yn y GIG yng Nghymru, mewn gofal sylfaenol neu eilaidd – Gwirfoddolwyr y GIG ac ymateb i COVID-19 (Saes yn unig)
Diogelu
ADNODDAU CGGC
- Mae tîm diogelu CGGC, Suzanne Mollison a Mair Rigby, yn rhannu eu myfyrdodau ynglŷn â’r hyn rydym ni wedi’i ddysgu am ddiogelu yn sgil COVID-19.
- WEDI’I DIWEDDARU: Ymateb cymunedol i COVID-19 – galluogi ymarfer diogel ac effeithiol
- Adnabyddiaeth o faterion diogelu a gweithdrefnau ymateb
- Gwiriadau DBS a COVID-19
- Canllawiau ar faterion diogelu sy’n ymwneud â thrafodion ariannol
- Rhestr wirio – Derbyn cynigion sylweddol o gymorth
- Covid-19 Diogelu a symud gwasanaethau ar-lein
- Sampl asesiad risg ar gyfer staff neu wirfoddolwyr sy’n gweithio gartref
- Gwirfoddoli a COVID-19 – Rheoli ymgeiswyr anaddas
- Rhestr wirio – Adolygu eich Polisi Diogelu yn sgil COVID-19
ADNODDAU ERAILL
- Mae’r daflen ffeithiau a’r Cwestiynau Cyffredin hyn yn darparu cyngor ar wiriadau DBS i’r rhai sy’n trefnu grŵp gwirfoddolwyr cymunedol, ac unigolion sydd am gynorthwyo’r rheini yn eu cymuned leol [Saes yn unig]
- Gyda’n gilydd gallwn gadw pobl yn ddiogel – Canllaw o Lywodraeth Cymru ar beth i’w wneud a phwy i gysylltu â nhw os ydych yn amau bod cyfaill, aelod o’r teulu neu gymydog mewn perygl o gael niwed, camdriniaeth neu esgeulustod
- Dyma flog gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) ar ddefnyddio meddalwedd fideogynadledda yn ddiogel
- Amddiffyn a Diogelu Pobl Hŷn – pecyn gwybodaeth gan y Comisiynydd Pobl Hŷn
- Mae Get Safe Online wedi lansio ymgyrch i frwydro yn erbyn sgamiau cyfryngau cymdeithasol
- Canllawiau NSPCC ar coronafirws a diogelu plant
- Pecyn Cymorth i Ferched Cymru wedi i helpu i gefnogi goroeswyr trais a cham-drin domestig yn ystod pandemig COVID-19
Llywodraethu, arweinyddiaeth a rheoli
LLYWODRAETHU DA
- Mae Llywodraeth y DU wedi diweddaru eu canllawiau ar CCBau rhithwir a threfniadau ansolfedd (Saes yn unig)
- Mae New Philanthropy Capital wedi cynhyrchu Pecyn Cymorth Ymateb Coronafeirws gydag adnoddau i helpu elusennau i wynebu ystod o heriau (Saes yn unig).
- Mae’r Sefydliad Llywodraethu (ICSA) wedi cyhoeddi canllawiau newydd ar ailagor i ymddiriedolwyr elusennol
- Canllawiau’r Comisiwn Elusennau i ymddiriedolwyr ar ba faterion y gallai fod angen eu nodi fel digwyddiad difrifol yn ystod y pandemig coronafirws
- Mae’r blog hwn gan Gymdeithas y Cadeiryddion yn canolbwyntio ar iechyd a diogelwch i ymddiriedolwyr
- Nod yr awgrymiadau hyn yw rhoi rhai syniadau i Gadeiryddion ar gyfer gwneud i gyfarfodydd ar-lein weithio’n dda i’w byrddau
- Canllawiau gan y Comisiwn Elusennau ar gyfer ymddiriedolwyr ar sut i reoli anawsterau ariannol a achosir gan coronafeirws
- Mae’r blog hwn gan yr ICO yn egluro rhai o hanfodion diogelu data ar gyfer grwpiau cymunedol
- Mae Ennyn Effaith wedi creu tudalen we i gynorthwyo mudiadau i fesur eu heffaith yn ystod yr argyfwng
- Mae cefnogaeth fusnes am ddim ar gael i elusennau gan Ymddiriedolaeth Cranfield yn ystod yr argyfwng
- Mae’r Comisiwn Elusennau wedi cyhoeddi rhybudd i elusennau am dwyll a seiberdroseddu
- Mae’r ICO wedi rhannu canllaw ar gweithio o gartref i fudiadau
- Ffeilio ffurflen dreth flynyddol eich elusen yn ystod y pandemic coronafeirws (Saesneg yn unig)
- Mae pandemig y coronafeirws wedi cyflwyno problemau difrifol i ymddiriedolwyr pob elusen, sy’n golygu bod rheoli risg a gwneud penderfyniadau effeithiol yn bwysicach nag erioed. Darllen ein canllaw i ymddiriedolwyr
- NCVO – Coronafirws a llywodraethu: Yr hyn y mae angen i ymddiriedolwyr elusennau feddwl am (Saesneg yn unig)
- Mae Cyfreithwyr Russell Cooke wedi rhyddhau taenlen friffio i elusennau ar nifer o bwyntiau cyfreithiol yn ymwneud â COVID-19 – gyda dolenni i ffynonellau gwybodaeth eraill
ARWEINYDDIAETH
- Rydyn ni wedi rhyddhau sampl o Delerau ac Amodau i reolwyr canolfannau cymunedol yng Nghymru eu defnyddio wrth gynnig canolfannau cymunedol i’w llogi
- Dyma flog gan Menai Owen-Jones am rôl arweinyddiaeth yn y broses o greu dyfodol gwahanol a gwell i Gymru a bod gennym ddewisiadau a phenderfyniadau i’w gwneud a fydd yn cael dylanwad aruthrol ar yr hyn sydd i ddod
- Dyma Adam Fletcher, Pennaeth Sefydliad Prydeinig y Galon yng Nghymru yn sôn am fanteision cydweithio â mudiadau eraill ar draws y sector gwirfoddol
- Cododd Judi Rhys, Prif Swyddog Gweithredol Gofal Canser Tenovus mewn digwyddiad diweddar #DyfodolgGwahanolCymru y dylai mudiadau gwirfoddol ystyried uno fel ffordd i addasu ôl-bandemig. Yn y blog hwn mae’n rhannu ei barn a’i phrofiadau personol o uno fel Prif Swyddog Gweithredol Gofal Arthritis
- Sut gall elusennau ddal ati i wneud daioni cymdeithasol wrth gadw pellter cymdeithasol? Daw Judith Stone, ein Cyfarwyddwr Cynorthwyol Datblygu Sector, yn ôl o’i secondiad i siarad am yr hyn y gall elusennau ei wneud i barhau â’u gwaith hanfodol
- Beth mae’r pandemig wedi’i olygu i’r gwaith o ddarparu gwasanaethau, a’r goblygiadau ar gyfer sut byddwn ni’n darparu gwasanaethau yn y dyfodol. Blog o Jess Blair
RHEOLI
- Rydym wedi diweddaru ein canllawiau ar gyfer canolfannau cymunedol yng Nghymru i roi trosolwg byr i chi o sut i ailgychwyn a darparu gwasanaethau’n ddiogel
- Mae’r pandemig wedi gwneud i ni i gyd archwilio ein harferion gwaith. Rydym yn cynnal dau gwrs i’ch helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol – Dyfodol y Gweithle: Rheoli Llesiant Cyflogeion a Dyfodol y Gweithle: Ystyriaethau Ymarferol a Chyfreithiol
- Mae Cefnogi Trydydd Sector Cymru wedi creu arolwg i edrych ar effeithiau codi cyfyngiadau COVID-19 ar fudiadau gwirfoddol yng Nghymru. Dilynir hyn gan ddigwyddiad i sôn am themâu allweddol canlyniadau’r arolwg, trafod yr heriau sy’n wynebu sefydliadau, rhannu profiadau a syniadau, a nodi pa gymorth pellach sydd ei angen
- Yn wyneb Covid-19, daeth pobl a chymunedau i’r adwy gyda syniadau a dulliau newydd er mwyn cyflawni pethau. Mae rhaglen weithredu ymarferol newydd bellach wedi’i lansio i archwilio sut y gall gweithredu dan arweiniad y gymuned helpu i adeiladu dyfodol tecach, gwyrddach ac iachach
- Mae ein taflenni gwybodaeth ar gyfer ailagor canolfannau cymunedol yng Nghymru wedi’u diweddaru gyda’r wybodaeth ddiweddaraf
- Rydyn ni wedi rhyddhau sampl o Delerau ac Amodau i reolwyr canolfannau cymunedol yng Nghymru eu defnyddio wrth gynnig canolfannau cymunedol i’w llogi
- Mae Korina Tsioni o CGGC yn blogio amdano pum ffordd syml o ddod i ben â’ch gwaith sicrhau ansawdd yn ystod y pandemig
- Mae Mike Corcoran, Arbenigwr Gwerthuso gyda Rhwydwaith Cydgynhyrchu ar gyfer Cymru, yn amlinellu saith cwestiwn ar gyfer gwerthuso’ch gwasanaethau yn ystyrlon mewn cyfnod o argyfwng
- Gallai datrysiadau gweithio gartref dros dro gostio mwy i elusennau. Mae Jonathan Levy, Rheolwr Gyfarwyddwr Class Networks, yn esbonio pam ei bod hi’n bryd sefydlu datrysiadau hirdymor a chynlluniau parhad busnes
- Mae Cyngor y Deillion Cymru a Chyngor Pobl Fyddar Cymru wedi rhyddhau canllaw ar wneud cyfarfodydd yn hygyrch i bobl â cholled synhwyraidd
Iechyd a lles
RHEOLI CORONAFEIRWS GAN GYNNWYS PROFI, OLRHAIN, DIOGELU
- Cyhoeddodd Eluned Morgan AS, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ddatganiad am newidiadau i’r system brofi PCR
- Yn dilyn y symudiad i rybuddio lefel sero mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau newydd ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau cleifion sy’n wynebu gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn dilyn cyswllt posibl â COVID 19 (Saesneg yn unig ar hyn o bryd)
- Mae’r Prif Swyddog Meddygol wedi rhoi ei gyngor i’r Prif Weinidog ar adolygiad 21 diwrnod o gyfyngiadau COVID-19
- Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru yn anfon llythyr at bawb sydd ar y Rhestr Cleifion Gwarchod (SPL) a ddylai gyrraedd yn fuan. Nid yw’r llythyr yn cynghori i ddilyn unrhyw fesurau gwarchod penodol ond mae’n cynnwys cyngor ar sut i gadw’n ddiogel gan y bydd cyfyngiadau’n gostwng dros yr wythnosau nesaf
- Gall gofalwyr a gofalwyr di-dâl bellach gael profion llif unffordd COVID-19 cyflym am ddim i’w cartref
- Yng Nghymru, mae pobl sy’n gwneud gwaith gwirfoddol na ellir eu gwneud gartref yn cael eu hannog i brofi eu hunain yn rheolaidd gyda hunan-brofion cyflym. Casglwch brofion o’ch Safle Prawf Lleol agosaf (LTS)
- Mae’r Prif Weinidog wedi cadarnhau bod yr amodau presennol yn golygu bod Cymru wedi cwrdd â’r meini prawf yn y Cynllun Rheoli Coronafeirws goleuadau traffig newydd i symud i lefel pedwar
- Mae llywodraethau ledled y DU wedi cyhoeddi datganiad ar gadw’n ddiogel dros y Nadolig
- Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi diweddariad i’w Cynllun Rheoli Coronafeirws, sy’n adeiladu ar y fframwaith goleuadau traffig a roddwyd ar waith ym mis Mai
- Mae’r brechlyn COVID-19 cyntaf yn cael ei gyflwyno ledled Cymru o heddiw ymlaen
- Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi Cwestiynau Cyffredin am y brechlyn COVID-19
- Mae map ymateb COVID ar-lein wedi cael ei ddatblygu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i helpu asiantaethau, sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector i nodi’n well lle y gallai fod angen am fwy o gymorth
- Mae Vaughan Gething MS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi Cynllun Rheoli’r Coronafeirws ar gyfer Cymru (18 Awst 2020)
- Mae’r cyfnod hunan-ynysu wedi symud o saith diwrnod i ddeg diwrnod o ddechrau’r symptomau ledled y DU (diweddariad 4 Awst)
- Y symbol ‘Distance Aware’ y GIG yw bathodyn i aelodau’r cyhoedd sy’n atgoffa eraill i bellhau’n gymdeithasol. Mwy o wybodaeth yma
- Mae strategaeth profi coronafeirws Cymru wedi’i chyhoeddi gan y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething
- Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth wedi cynhyrchu pum cam syml ar gyfer casglu manylion personol ymwelwyr ar gyfer olrhain cyswllt
- Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu trosolwg hawdd ei ddeall ar ‘Beth sy’n digwydd pan gewch chi brawf am y coronafeirws’
- Profi, olrhain, amddiffyn: crynodeb o’r broses – Canllawiau Llywodraeth Cymru ar gael mewn amrywiaeth o ieithoedd ar yr hyn sydd angen i chi ei wneud i helpu i gysylltu ag olrhain rheoli lledaeniad coronafeirws
- Mae Llywodraeth Cymru yn dilyn cyngor wedi’i ddiweddaru gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ac yn argymell bod pobl yng Nghymru yn gwisgo gorchuddion wyneb tair haen mewn sefyllfaoedd lle nad yw pellter cymdeithasol yn bosibl
- Canllawiau coronafeirws gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y rhai sy’n darparu gofal di-dâl i deulu a ffrindiau
- Dyluniwyd Map Ymateb COVID Cymru i helpu i nodi ardaloedd lle mae mwy o bobl a allai fod yn fwy agored i COVID-19
- Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi Prawf Datganiad Ysgrifenedig, Profi, Olrhain, Diogelu
- Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig am coronafeirws a hawliau pobl hŷn
- Os ydych chi’n teimlo symptomau coronafeirws, gallwch nawr wneud cais am brawf cartref. Darganfyddwch fwy yma
- Lleoliadau tai, iechyd, gofal cymdeithasol a chymorth: Enghreifftiau i lywio’r broses o weithredu’r canllawiau diweddar ar Atal a Rheoli Heintiau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Mae oedolion sy’n byw ar eu pennau eu hunain, gan gynnwys rhieni sengl, mewn ardaloedd sydd dan gyfyngiadau lleol bellach yn gallu ffurfio swigen dros dro gydag aelwyd arall yn eu hardal leol o dan y rheolau Newydd
RHAGLEN FRECHU
- Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu rhestr o wybodaeth a chysylltiadau i unrhyw un a allai fod wedi colli eu hapwyntiad atgyfnerthu neu sydd angen aildrefnu
- Gyda Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei Strategaeth Hydref a Gaeaf mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi llunio Cwestiynau Cyffredin am frechlynnau atgyfnerthu
- Gan fod pobl ifanc 12-15 oed bellach yn gymwys i gael brechiad, mae GIG Cymru wedi cynhyrchu taflen i ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gan bobl ifanc
- Mae’r Cydbwyllgor Brechu ac Imiwneiddio wedi argymell ehangu’r rhestr o gyflyrau iechyd sylfaenol penodol ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 12 a 15 oed sy’n gymwys i gael dau ddos o frechlyn COVID-19
- Yn dilyn cyngor diweddar gan y JCVI, mae pob bwrdd iechyd bellach yn gwahodd pawb 16 oed a throsodd i gael eu brechu
- Mae Llywodraeth Cymru yn annog cyflogwyr i wneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi eu gweithlu i gael eu brechu. Mae pecyn cymorth newydd yn cael ei lansio heddiw i gefnogi busnesau a sefydliadau i helpu eu staff i gael brechlyn COVID-19
- Gall pobl dros 18 oed nad ydynt eto wedi cael eu dos cyntaf o’r brechlyn ymweld â chanolfannau brechu galw heibio heb apwyntiad. Mae fwy o wybodaeth ar gael gan fyrddau iechyd lleol
- Mae’r ymgyrch #ValuingVaccines wedi llunio adnoddau newydd i helpu i rannu’r ffeithiau am frechu
- Darganfyddwch sut y gall y sector gwirfoddol gefnogi’r rhaglen frechlyn trwy gyfathrebu yn y weminar am ddim hon, dydd Iau 4 Chwefror, 3pm – 4pm
- Mae rhai troseddwyr yn defnyddio’r brechlyn COVID-19 fel ffordd i dargedu’r cyhoedd trwy eu twyllo i drosglwyddo arian parod neu fanylion ariannol. Mae Llywodraeth y DU wedi rhyddhau’r canllaw hwn a’r poster hwn i helpu i godi ymwybyddiaeth
- Bydd pob cartref yng Nghymru yn derbyn llythyr cyn hir ynglŷn â chynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer brechu rhag COVID-19
- Mae’r map hwn yn amlinellu lleoliadau canolfannau brechu yng Nghymru
- Mae gan Gymdeithas Imiwnoleg Prydain lawer o ganllawiau ac adnoddau defnyddiol i’ch helpu i fynd i’r afael â materion a phryderon cyffredin am y brechlyn COVID-19 (Saes yn unig)
- Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi diweddaru eu Cwestiynau Cyffredin brechlyn ar gyfer gweithwyr proffesiynol Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Yn dilyn cyhoeddiad brechlyn Llywodraeth Cymru heddiw, mae Elen Notley, Rheolwr Marchnata a Chyfathrebiadau CGGC, yn amlinellu sut gall mudiadau gwirfoddol gynorthwyo â’r gwaith o gyflwyno’r brechlyn COVID-19 yng Nghymru drwy rannu cyfathrebiadau
- Wrth i ni baratoi ar gyfer brechlyn COVID-19, gwnaethom gynnal gweminar i drafod sut y gall y sector helpu gyda chyfathrebu brechlyn. Dewch o hyd i wybodaeth ac adnoddau yma
- Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig am cyflenwiad y brechlyn COVID-19
- Mae Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain (ABPI) yn lansio ymgyrch newydd o’r enw #ValuingVaccines i helpu i fynd i’r afael â chamwybodaeth am frechlynnau a rhoi’r DU mewn lle gwell i guro coronafirws pan ddarganfyddir brechlyn ar ei gyfer. Mae ABPI yn gofyn am pobl i gymryd rhan yn yr ymgyrch – mae adnoddau y gellir eu rhannu ar gael ar eu gwefan [Saes yn unig]
- Wrth i ni baratoi ar gyfer lansio’r brechlyn Covid-19, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r datganiad hwn
- Mae’r Cynllun Amddiffyn Gaeaf newydd yn disgrifio blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol tan fis Mawrth 2021
GOFAL A CHYMORTH I OEDOLION, PLANT A PHOBL IFANC
- Mae’r mesurau cenedlaethol newydd sydd ar waith ar ôl y toriad tân yn caniatáu ymweld â chartrefi gofal – bydd pob awdurdod lleol yn cynghori darparwyr cartrefi gofal am y dull yn eu hardal yn seiliedig ar eu hamgylchiadau lleol
- Mae canllawiau newydd diwygiedig ynglyn ag ymweld ag ysbytai GIG Cymru yn ystod y pandemig wedi’u cyhoeddi
- Mae yna ganllawiau newydd i bobl sy’n cysgodi o gwmpas y Nadolig
- Wrth i’r cyfyngiadau Covid-19 gael eu llacio, mae Llywodraeth Cymru yn cynyddu’r cymorth sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau wyneb yn wyneb i’r rhai sy’n dioddef ac yn goroesi trais yn erbyn menywod, camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol (VAWDASV)
- Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £22.7m o gyllid arall i helpu i fodloni’r costau ychwanegol y mae darparwyr gofal cymdeithasol i oedolion yn eu hysgwyddo o ganlyniad i’r pandemig COVID-19
- Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru Dr Frank Atherton wedi cadarnhau na fydd angen i bobl yng Nghymru y gofynnwyd iddynt warchod eu hunain wneud hynny bellach ar ol 16 Awst a bod amddiffyn wedi’i oedi
- Mae Vaughan Gething wedi dweud bod y sector gwirfoddol yn ‘hynod bwysig’ yn yr argyfwng coronafirws fel darparwyr gwasanaeth
- Yn ystod yr amser hwn, mae angen i ni gadw llygad am arwyddion y gallai plant, pobl ifanc neu oedolion yn ein cymunedau gael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu eu niweidio. Ffoniwch 101 neu ewch i wefan Llywodraeth Cymru os ydych chi’n poeni bod rhywun mewn perygl
- Mae’r Gweinidog Iechyd Meddwl Eluned Morgan wedi gwneud datganiad ynghylch cryfhau ein hymateb i’r effaith y mae’r pandemig yn ei chael ar iechyd meddwl pobl
- Bydd gwasanaethau VAWDASV (trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol) yng Nghymru yn cael £1.5 m ychwanegol mewn refeniw i’w helpu i ymateb i alwadau cynyddol ar wasanaethau o ganlyniad i Covid-19
- Mae Cynghrair Gofalwyr Cymru wedi anfon llythyr at Lywodraeth Cymru ar yr effaith ar ofalwyr di-dâl
CYRCHU PPE AC ADNODDAU
- Mae 2buy2 yn cefnogi anghenion offer gwarchodol (PPE) mudiadau yn y DU trwy greu grŵp prynu PPE. Darganfod mwy ac ymunwch â’u cydgrynhoad yma
TECHNOLEG DIGIDOL
- Mae cartrefi gofal ledled Cymru yn elwa o gael dyfeisiau digidol a ddarperir fel rhan o gynllun gan Llywodraeth Cymru er mwyn helpu preswylwyr i gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau, ac i helpu gydag ymgyngoriadau meddygol drwy gyfleuster fideo
TECLYNNAU DEFNYDDIOL, GWEMINARAU A HYFFORDDIANT AR-LEIN
- Bydd y teclyn ar-lein newydd yma gan Lywodraeth Cymru yn helpu pobl yng Nghymru dod o hyd i gyngor a chymorth ar gyfer eu hamgylchiadau unigol yn ystod pandemig COVID-19
- Mae’r tîm Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol wedi gwneud ei hyfforddiant ar-lein ar gael i bawb am ddim yn ystod argyfwng y coronafeirws, i helpu pobl i adnabod arwyddion cam-drin a sut y gallant helpu i gweithio yn erbyn y risg uwch y bydd rhai pobl yn wynebu yn perthnasoedd camdriniol yn ystod y cyfyngiadau symud – gallwch gael mynediad iddo drwy fewngofnodi fel gwestai (guest log on) yn – learning2.wales.nhs.uk/course/view.php?id=71
PAPURAU BRIFFIO, ADRODDIADAU A CHANLLAWIAU ERAILL
- Dyma ganllaw newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer darparwyr cartrefi gofal i oedolion a phlant ar sut i alluogi ymweliadau diogel yn ystod y pandemig coronafeirws
- Mae’r canllaw llawn gwybodaeth hwn o Building Materials yn canolbwyntio ar fyw’n annibynnol yn ddiogel i bobl hŷn, gydag awgrymiadau a chyngor defnyddiol ar les, diogelwch ac ymdrin ag unigrwydd. [Saesneg yn unig]
- Mae Cydffederasiwn GIG Cymru wedi cyhoeddi papur briffio ar weithio mewn partneriaethau draws-sector i gefnogi’r ymateb i COVID-19 yng Nghymru. (Saesneg yn unig)
- Mae Cyngor y Deillion Cymru a Chyngor Pobl Fyddar Cymru wedi rhyddhau canllaw ar wneud cyfarfodydd yn hygyrch i bobl â cholled synhwyraidd. [Saesneg yn unig]
- Mae’r adroddiad swyddogol Llywodraeth Cymru o is-Grŵp Economaidd Gymdeithasol BAME COVID-19 sy’n nodi hiliaeth systemig fel ffactor risg bellach ar gael i ddarllen yn llawn
- Cyhoeddwyd diweddariad o’r canllawiau rhyddhau ar gyfer partneriaid iechyd, gofal cymdeithasol, y trydydd sector ac annibynnol yng Nghymru
- I nodi VE Day mae Gofalwyr Cymru, mewn partneriaeth â Prosiect 3600 Age Cymru, wedi cynhyrchu canllaw ar hawliau a chefnogaeth i ofalwyr cyn-filwyr a phobl sy’n gofalu am gyn-filwyr
- Cymdeithas Sylfeini Elusennol – Ymateb i coronafirws (Saesneg yn unig)
- Mae Mind wedi darparu canllawiau ar iechyd meddwl a llesiant wrth ymdrin â’r coronafeirws (Saesneg yn unig)
- Mae gan Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint ganllawiau i bobl â chyflyrau ysgyfaint sy’n bodoli eisoes (Saesneg yn unig)
- Diweddarwyd Cwestiynau Cyffredin COVID-19 Llywodraeth Cymru i adlewyrchu’r newidiadau newydd ledled Cymru. Mae Cwestiynau Cyffredin yn adran cyfyngiadau symud lleol hefyd wedi’u diwygio
LLINELLAU CYMORTH CYNGOR A CHYFEILLIO
- Mae partneriaeth o fudiadau BAME yng Nghymru wedi cydweithio i lansio llinell gymorth amlieithog newydd sy’n cynnig ystod o ganllawiau arbenigol i bobl BAME. [Saes yn unig]
- Mae llinell gymorth ehangach gan y Samariaid ar gael ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru
- Mae Family Lives, yr elusen rhianta a chyngor teulu, wedi derbyn cyllid i ymestyn ei gwasanaeth llinell gymorth i siaradwyr Cymraeg
- Mae Age Cymru yn lansio gwasanaeth Ffrind Mewn Angen i helpu i fynd i’r afael ag unigedd ac arwahanrwydd ymhlith y boblogaeth dros 70 oed o ganlyniad i bellhau cymdeithasol, hunan-ynysu neu warchod
- Mae Croes Goch Prydain wedi sefydlu llinell gymorth coronafeirws i roi clust i wrando a helpu pobl sydd wedi’u heffeithio gan y pandemig
- Cyngor hylendid y GIG
- Mae wyth sesiwn gwnsela wedi’u hariannu’n llawn ar gyfer pobl sy’n cael trafferth ag iechyd meddwl ar gael trwy Breathe [Saes yn unig]
YMGYRCHOEDD
- Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru’r asedau ar gyfer eu hymgyrch sicrwydd ar gyfer y rhai sy’n gweithio ym maes addysg
- Helpwch Cadw Cymru’n Ddiogel trwy’r pandemig trwy ddefnyddio’r pecyn ymgyrchu hwn gan Lywodraeth Cymru – sy’n cynnwys graffeg Twitter a deunyddiau eraill i’ch helpu chi i hyrwyddo’r canllawiau diweddaraf. [Saes yn unig]
- Mae Arwyr Gofal Cymdeithasol yn fenter ar y cyfryngau cymdeithasol a ddatblygwyd gan bartneriaeth o asiantaethau ac unigolion sy’n awyddus i godi ymwybyddiaeth o waith y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru
- ‘Nawr yn fwy nag erioed mae angen i bobl feddwl yn ofalus am ble i ofyn am gyngor i osgoi pwysau ychwanegol ar y GIG y gaeaf hwn’ – Dyma’r alwad gan y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wrth i’n gwasanaethau gofal iechyd a’n byrddau iechyd barhau i ddelio â’r pandemig coronafeirws
- Mae fferyllfeydd cymunedol yn dweud bod mwy yn manteisio ar y brechlyn ffliw wrth i Gymru gynnal ar ei rhaglen frechu fwyaf
- Mae pobl ledled Cymru a Lloegr yn cael eu hannog i lawrlwytho ap COVID-19 y GIG i helpu i atal lledaeniad y coronafeirws a gwarchod eu hunain a’u hanwyliaid wrth i nifer yr achosion gynyddu