group of people discussing

Canllaw ymarferol newydd i amrywio eich bwrdd ymddiriedolwyr

Cyhoeddwyd : 10/01/23 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth |

Rydyn ni’n gwybod nad oes digon o amrywiaeth ar fyrddau ymddiriedolwyr. Mae buddion di-ri i gael bwrdd amrywiol ac mae hwn yn faes y mae llawer o elusennau eisiau ei wella, ond yn aml, nid ydynt yn gwybod ble i ddechrau.

Mae’r elusen Getting on Board wedi cyhoeddi How to Diversity your Board, A Practical Guide (Saesneg yn unig) (Sut i Amrywio eich Bwrdd: Canllaw Ymarferol), sydd wedi’i ysgrifennu gan Sophia Moreau, Arbenigwr mewn Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant, Ymgyrchydd, Hyfforddwr ac Ymddiriedolwr Elusen sydd wedi ennill lliaws o wobrau.

Mae’r canllaw cynhwysfawr a defnyddiol hwn yn mynd ati gam wrth gam i ddangos sut i amrywio eich bwrdd ymddiriedolwyr, ac yn ymdrin â’r canlynol:

  1. Cyflwyniad i Amrywiaeth a Chynhwysiant Ymddiriedolwyr
  2. Syniadau Ymarferol ar Amrywio eich Bwrdd Elusen
  3. Beth i’w wneud unwaith y byddwch chi wedi cael eich ymddiriedolwyr newydd

Gellir lawrlwytho’r canllaw am ddim drwy gofrestru gydag e-bost ar wefan Getting on Board.

Mae Egwyddor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Cod Llywodraethu i Elusennau’r DU yn nodi:

‘Mae amrywiaeth, yn yr ystyr mwyaf eang, ar y bwrdd yn bwysig gan ei fod yn arwain at benderfyniadau mwy cytbwys. Lle bo’n briodol, mae hyn yn cynnwys y cymunedau a’r bobl y mae’r elusen yn eu gwasanaethu, ac yn eu rhoi nhw’n ganolog iddi. Mae hyn yn cynyddu dilysrwydd a dylanwad yr elusen. Nid yw cydraddoldeb ac amrywiaeth yn effeithiol nac yn gynaliadwy oni bai bod y bwrdd yn gweithio i fod yn gynhwysol, gan sicrhau bod pob ymddiriedolwr yn cael eu croesawu, eu gwerthfawrogi, a bod modd iddynt gyfrannu’.

Felly pam aros? Lawrlwythwch y canllaw am ddim heddiw a dechrau ar eich taith i ddatblygu bwrdd ymddiriedolwyr gyda chefndiroedd, sgiliau a phrofiadau mwy amrywiol sy’n gallu bod yn fuddiol i’ch elusen.

DARLLEN PELLACH

Eisiau’r newyddion diweddaraf, barna a chyhoeddiadau yn ogystal ag erthyglau defnyddiol ar bynciau sydd o bwys? Ymunwch gyda’n rhestr bostio. Bob wythnos rydym yn cynnig crynodeb o newyddion y sector wirfoddol a diweddariadau yn syth i’ch mewnflwch.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 13/01/25
Categorïau: Dylanwadu, Gwybodaeth a chymorth

Rheoliadau newydd ar gyfer caffael gwasanaethau iechyd

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 13/12/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

CLlLC yn amlygu pwysau ariannu ‘anghynaladwy’

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 06/12/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Cyhoeddi enillydd bwrsariaeth arweinyddiaeth 2024

Darllen mwy