Mae ‘Our Bright Future’, partneriaeth a arweinir gan yr Ymddiriedolaethau Natur, wedi cyhoeddi canllaw am ddim i helpu elusennau i recriwtio ymddiriedolwyr ifanc i’w byrddau.
Mae ei Becyn Cyngor ar Ymddiriedolwyr Ifanc (Saesneg yn unig) yn cynnwys amrediad o adnoddau, gan gynnwys astudiaethau achos a thempledi, i arwain elusennau sy’n dymuno recriwtio a chynefino pobl ifanc fel ymddiriedolwyr.
Amcangyfrifir mai dim ond 0.5% o ymddiriedolwyr elusennau sydd rhwng 18 a 24 oed. O dan y gyfraith ymddiriedaethau, rhaid i ymddiriedolwyr a benodir fod dros 18 oed.
Noda’r canllaw fod llawer o fudiadau yn ‘awyddus i gael bwrdd amrywiol, yn enwedig trwy lygaid pobl iau’.
Meddai: ‘Mae byrddau ag ymddiriedolwyr o wahanol gefndiroedd a phrofiadau yn fwy tebygol o hybu trafodaethau a gwneud penderfyniadau gwell.’
Mae’r canllaw yn nodi chwe cham i’w gwneud hi’n haws i elusennau gael ymddiriedolwyr ifanc ar eu byrddau.
- Nodi bylchau mewn sgiliau a phrofiadau a chytuno ar yr hyn rydych chi’n chwilio amdano.
- Llunio ffurflen gais a disgrifiad rôl cynhwysol.
- Trefnu proses gyfweld hygyrch.
- Trefnu proses gynefino groesawgar.
- Cefnogi’r ymddiriedolwyr newydd cyn, yn ystod ac ar ôl cyfarfodydd bwrdd.
- Sicrhau profiad gwobrwyol yn ystod tymor y rôl a nodi’r hyn a ddysgwyd yn ystod y broses diwedd tymor.
Yn ôl Ellie Brown, ymddiriedolwr ifanc gyda’r ‘Yorkshire Dales Millennium Trust’: ‘Gall cynnwys pobl ifanc ym mhrosesau penderfynu mudiad gael effaith bositif, gan fod gan bobl ifanc syniadau newydd, blaenoriaethau gwahanol a safbwyntiau gwahanol. Gallant hefyd herio’r ffordd y mae mudiad yn ymhél â phobl ifanc, fel ei fod yn haws i bobl ifanc ymhél â’r mudiad.’
Menter £33 miliwn a gyllidir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yw ‘Our Bright Future’. Rhwng 2016 a 2021, datblygodd 31 o brosiectau ledled y DU i rymuso pobl ifanc rhwng 11 a 24 oed a’u helpu i ennill sgiliau a phrofiadau, ynghyd â gwella eu llesiant.
Eisiau’r newyddion diweddaraf, barna a chyhoeddiadau yn ogystal ag erthyglau defnyddiol ar bynciau sydd o bwys? Ymunwch gyda’n rhestr bostio. Bob wythnos rydym yn cynnig crynodeb o newyddion y sector wirfoddol a diweddariadau yn syth i’ch mewnflwch.