grŵp o enillwyr gwobrau

Cais am enwebiadau ar gyfer Gwobrau Addysg Oedolion Ysbrydoli! 2022

Cyhoeddwyd : 25/01/22 | Categorïau: Newyddion |

Dyma’ch cyfle i enwebu dysgwr gydol oes ysbrydoledig ar gyfer Gwobrau Addysg Oedolion Ysbrydoli! blynyddol 2022.

Ydych chi’n adnabod dysgwr sydd yn ysbrydoli? Efallai eich bod yn ysgogi newid yn y gweithle ac yn datblygu cyfleoedd hyfforddi ar gyfer gwneud cynnydd. Ydych chi’n cael effaith yn eich cymunedau lleol ac yn ehangu mynediad at addysg, sgiliau a gwirfoddoli? Ydych chi’n gweithio ar brosiectau amgylcheddol neu’n arloeswr sy’n datblygu llwybrau dysgu ar gyfer sgiliau gwyrdd? A yw eich angerdd tuag at chwaraeon wedi eich arwain i ddychwelyd i addysg ac ysbrydoli eraill i fod yn weithredol? Os oes gennych rywun mewn golwg yn barod, anfonwch straeon sydd yn ysbrydoli i mewn ar gyfer y gwobrau.

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn croesawu enwebiadau ar gyfer pobl, prosiectau a sefydliadau ar draws Cymru sydd yn dangos yr effaith y gall dysgu gydol oes ei chael ar eu bywydau a bywydau pobl eraill. Bydd yr enwebiadau yn dangos angerdd, ymrwymiad ac ysgogiad eithriadol i newid eu stori ac yn ysbrydoli eraill i gymryd y cam nesaf.

CATEGORÏAU ELENI

Mae un ar ddeg categori sydd yn adlewyrchu ystod eang o addysg a sgiliau – yn cynnwys dau gategori newydd, cyffrous ar gyfer 2022.

  • Sgiliau ar gyfer Gwaith
  • Oedolyn Ifanc sy’n Dysgu
  • Newid Bywyd a Chynnydd
  • Heneiddio’n Dda
  • Dechrau Arni – Dysgwr Cymraeg
  • Gorffennol Gwahanol: Rhannu Dyfodol
    Sgiliau Hanfodol am Oes
  • Cymru Egnïol
  • Cymru ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol
  • Gwobr Hywel Francis am Effaith Gymunedol
  • Gwneuthurwyr Newid yn y Gweithle

BYW I DDYSGU

Mae Dysgu Gydol Oes yn newid bywydau, rhannwch eich straeon gyda’r Sefydliad Dysgu a Gwaith ar gyfer gwobrau eleni.

Os oes angen ysbrydoliaeth arnoch wrth enwebu – darllenwch neu gwyliwch straeon enillwyr gwobrau y llynedd – mae pob stori yn dangos buddion gweledol dysgu gydol oes.

Caiff y gwobrau eu dathlu fel rhan o Wythnos Addysg Oedolion mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill.

Mae gwybodaeth a dolenni i’r canllawiau a’r ffurflen enwebu ar gael ar wefan y Sefydliad Dysgu a Gwaith.

Mae’r ceisiadau ar gyfer enwebiadau yn cau ar ddydd Mawrth 1 Mawrth 2022.

Ebostiwch inspire@learningandwork.org.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses enwebu.

 

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 06/12/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Cyhoeddi enillydd bwrsariaeth arweinyddiaeth 2024

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 04/12/24
Categorïau: Newyddion

Prosiect gwrth-hiliol o fudd i ysgolion yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/12/24
Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau, Newyddion

Cadwch y dyddiad – gofod3 2025

Darllen mwy