Cydweithwyr ifanc yn rasio ar cadeiriau swyddfa

‘Caiff gwirfoddoli ei dalu trwy chwerthin, gwenu a newid nid trwy arian’

Cyhoeddwyd : 10/09/21 | Categorïau: Gwirfoddoli | Newyddion |

Effaith Grantiau a Arweinir gan Ieuenctid: Prosiect Gofalwyr Ifanc SVC. Mae Gwirfoddolwr Arweiniol SVC ar gyfer eu Prosiect Gofalwyr Ifanc, a dderbyniodd gyllid gan Banel Grantiau a Arweinir gan Ieuenctid Caerdydd, yn siarad am ei phrofiad ar y prosiect.

Daeth Kelly yn rhan o’r prosiect yn 2018 pan ddarganfuodd y prosiect wrth chwilio am leoliad gwaith fel rhan o’i chwrs yn y brifysgol. Cyn mynd i’r brifysgol, roedd hi wedi bod yn ofalwr ifanc ei hun ac roedd hi hefyd wedi ennill cymhwyster gofal plant ac addysg felly teimlodd y prosiect fel cyfle perffaith ar unwaith.

Fel y Gwirfoddolwr Arweiniol, rôl Kelly yw arwain y prosiect, cefnogi gwirfoddolwyr a buddiolwyr a chysylltu ag aelodau staff a phartneriaid sy’n rhan o’r prosiect. Mae hi’n cynllunio ac yn paratoi gweithgareddau ar gyfer eu buddiolwyr, er enghraifft, ar gyfer sesiwn bobi mae hi’n cysylltu â’r teuluoedd i drefnu cludo’r cynhwysion i’w cartrefi. Mae Kelly wedi trefnu sesiynau Zoom yn ystod y pandemig gan sicrhau y gall pawb gael mynediad ar-lein a chymryd rhan yn ddiogel.

‘Pe bai’n rhaid i mi ddisgrifio gwirfoddoli mewn ychydig o frawddegau, byddwn i’n dweud y caiff gwirfoddoli ei dalu trwy wenu, chwerthin, a newid, nid trwy arian. Mae’r effaith y gallwch chi ei chael ar fywyd rhywun yn llawer mwy nag enillion ariannol.’

Ar ôl cwblhau oriau ei lleoliad gwaith, parhaodd i wirfoddoli am ei fod mor werth chweil ac nid yw hi wedi edrych yn ôl ers hynny. Pan ddechreuodd y pandemig, gwelodd hi lefel yr angen a phenderfynodd barhau yn ei rôl yn cefnogi gofalwyr ifanc yr oedd eu cyfrifoldebau gofal, yn aml, wedi cynyddu o ganlyniad i’r cyfyngiadau.

Budd dwbl gwirfoddoli

Wrth siarad am y budd y mae hi wedi’i brofi fel gwirfoddolwr, meddai Kelly: ‘Mae gwirfoddoli wedi rhoi’r hyder i mi siarad â phobl newydd ac mae wedi bod o fudd enfawr o ran fy helpu i ennill lle ar fy nghwrs gradd Meistr a fy interniaeth dros yr haf yn America. Mae gwirfoddoli yn fy herio i wrth weithio fel rhan o dîm, wrth weithio ar fy menter fy hun, ac wrth reoli sefyllfaoedd anodd.’ Mae ei phrofiad fel gwirfoddolwr arweiniol hefyd wedi arwain at gyfle i fod yn rhan o fwrdd ymddiriedolwyr yr elusen gan ddysgu am weithrediadau, cyllid, buddion, a heriau’r elusen.

‘Rwyf hefyd yn credu bod fy rôl wirfoddoli wedi cael effaith gadarnhaol ar bobl eraill. Rwyf, yn aml, yn derbyn adborth gan y teuluoedd ynghylch yr effaith gadarnhaol y mae’r prosiect hwn wedi’i chael ar eu bywydau ac nid oes modd iddynt ddychmygu byw hebddo. Mae’r gofalwyr ifanc yn aml yn sôn am faint y maen nhw’n dwlu ar y prosiect a pha mor dda yw meddu ar ffrindiau sydd â bywyd gartref sy’n debyg i’w sefyllfa nhw’.

GRANTIAU A ARWEINIR GAN IEUENCTID

Wedi’u dosbarthu gan Gynghorau Gwirfoddol Sirol ar draws Cymru, mae’r Grantiau a Arweinir gan Ieuenctid yn cefnogi ystod o brosiectau a gweithgareddau bach a arweinir gan bobl ifanc ac a drefnir gan bobl ifanc. Yn 2020/21, ariannwyd y prosiectau i fynd i’r afael â’r chwe maes o flaenoriaeth a adnabuwyd gan Lywodraeth Cymru sydd â’r potensial i wneud y cyfraniad mwyaf i ffyniant a llesiant hirdymor.

Darllenwch fwy am Grantiau a Arweinir gan Ieuenctid yma

I ddod o hyd i gyfleoedd Gwirfoddoli yn eich ardal lleol, ewch i volunteering-wales.net

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 04/10/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Hyfforddiant a digwyddiadau |

Wythnos yr Ymddiriedolwyr 2024

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 23/09/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Adroddiad newydd yn canfod bod gwirfoddolwyr yn lleihau’r pwysau ar staff rheng flaen y GIG

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/08/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Adroddiad yn dangos bod gwirfoddoli yn cynyddu sgiliau a hyder

Darllen mwy