Mae Caffi Trwsio Cymru wedi tyfu i fod yn fudiad llawr gwlad llwyddiannus tu hwnt, yn wir, mae mor llwyddiannus fel ei fod bellach yn rhan greiddiol o raglen Llywodraeth Cymru.
Mae Caffi Trwsio Cymru wedi mynd o dderbyn grant bychan drwy Gynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi (LDTCS) i gael ei gynnwys yn Rhaglen newydd Llywodraeth Cymru.
Yn sgil teimlo’n rhwystredig gyda thwf anghynaladwy safleoedd tirlenwi a gwastraff, sefydlwyd Caffi Trwsio Cymru gan Joe O’Mahoney a Cerys Jones ym mis Ebrill 2017.
Cawsant eu hysbrydoli gan y Caffi Trwsio rhyngwladol, mudiad sydd wedi’i arwain gan Martine Postma ers 2007 drwy’r ‘Repair Café Foundation’, sy’n cynorthwyo pobl i ddechrau eu Caffis Trwsio eu hunain.
Yn 2018, cafodd Caffi Trwsio Cymru gyllid o dan gylch un Cynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi (LDTCS) i sefydlu wyth caffi trwsio newydd a hyfforddi gwirfoddolwyr i drwsio eitemau oedd ar eu ffordd i safleoedd tirlenwi, addysgu sgiliau trwsio ac i annog uwchgylchu, yn rhad ac am ddim.
‘Ar ôl i ni gael y grant cychwynnol gan CGGC, aeth pethau o nerth i nerth!’ meddai Phoebe Brown, Cyfarwyddwr Caffi Trwsio Cymru. ‘Dim ond pump oed fyddwn ni nesa’ ac rydyn ni wedi tyfu mor gyflym.’
Yn ystod y cyfnod cyllido, sefydlodd Caffi Trwsio Cymru 26 o gaffis trwsio, gan nodi eu bod wedi cynnig mwy na 900 o sesiynau hyfforddi neu brofiad gwaith.
ARWYDDOCÂD CENEDLAETHOL
Bu’r model mor llwyddiannus, fel y llwyddodd Caffi Trwsio Cymru gyda’u cais i gael grant Arwyddocâd Cenedlaethol yr LDTCS yn 2021.
Dyfernir y cynllun grant o Arwyddocâd Cenedlaethol i un prosiect y flwyddyn ac mae’n gyfle i fudiadau ddatblygu prosiect a fydd yn mynd i’r afael â materion cenedlaethol sy’n effeithio ar Gymru.
Cafodd brosiect ‘Re:Make’ £249,987 i ddatblygu a pheilota technoleg sy’n hwyluso ac yn monitro’r gwerth economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol o drwsio ac ailddefnyddio yng Nghymru.
Mae’r prosiect, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Benthyg Cymru, mewn cysylltiad â ‘Newport City Homes’ a TPAS Cymru, yn lleihau maint y gwastraff sy’n cael ei gludo i safleoedd tirlenwi ac yn arddangos potensial yr economi gylchol yng Nghasnewydd.
Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy sefydlu cyfleuster trwsio ac ailddefnyddio integredig ar gyfer cymunedau Casnewydd a’r cylch – ‘llyfrgell o bethau’ i’w benthyca’n barhaol a bydd Caffi Trwsio yn cael ei sefydlu dros gyfnod o ddwy flynedd.
Mae caffis trwsio wythnosol a gweithdai rhannu sgiliau rheolaidd yn arallgyfeirio eitemau o safleoedd tirlenwi ac yn arbed oddeutu £920 y mis i’r gymuned.
O fis Ebrill 2022, bydd Caffi Trwsio Cymru yn defnyddio cyllid o grant Arwyddocâd Cenedlaethol yr LDTCS i fynd â’r hyn a ddysgwyd o’r prosiect yng Nghasnewydd i bedair cymuned arall yng Nghymru.
CYDNABYDDIAETH GAN LYWODRAETH CYMRU
Ym mis Mehefin 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu rhaglen lywodraethu newydd, a oedd yn nodi ymrwymiadau’r llywodraeth am y bum mlynedd nesaf. Roedd yn cynnwys yr addewid i gefnogi 80 o ganolfannau ailddefnyddio a thrwsio mewn canol trefi ar hyd a lled Cymru.
‘Mae’n fendigedig gweld eu bod yn bwriadu parhau i gefnogi Caffis Trwsio ac eisiau gweld mwy ohonyn nhw, oherwydd ein nod ni fel mudiad yw gweld un ym mhob cymuned yng Nghymru,’ meddai Phoebe.
Mae cynnwys Caffis Trwsio o fewn y Rhaglen Lywodraethu yn dangos sut mae llwyddiant Caffi Trwsio Cymru wedi helpu i ddylanwadu ar welededd y mudiad trwsio ac ailddefnyddio o fewn polisi.
‘Er mai ni sydd wedi mwy neu lai agor yr un gyntaf yng Nghymru, rydyn ni’n gwybod bod mwy o lawer i ddod, a pha un a bydd y rheini’n cael eu cyflwyno gennym ni neu gan fudiadau eraill, rwy’n credu ei fod yn gam mawr i’r cyfeiriad cywir.’
CYMORTH CYMUNEDOL
Yn ystod pandemig COVID-19 a’r cyfnodau clo cenedlaethol, bu’n rhaid i Gaffi Trwsio Cymru wneud y penderfyniad anodd i gau pob caffi trwsio a gohirio digwyddiadau.
Serch hyn, gwnaeth Caffi Trwsio Cymru barhau i roi cyngor rheolaidd ar drwsio drwy sianeli rhithwir fel tudalen gwirfoddolwyr ar Facebook, a oedd yn caniatáu i wirfoddolwyr ac aelodau o’r cyhoedd drwsio eu pethau eu hunain yn llwyddiannus yn eu cartrefi.
Pan ddechreuodd y cyfyngiadau lacio, adroddodd Caffi Trwsio Cymru eu twf cyflymaf, gyda mwy o bobl nag erioed eisiau bod yn rhan o’r gwaith a rhoi rhywbeth yn ôl i’w cymunedau.
‘Rwy’n credu mai’r rheswm am hyn oedd bod pobl gartref yn eu cymuned leol, doedden nhw ddim yn mynd allan o’u tref neu ddinas neu bentref’, eglurodd Phoebe. ‘Rwy’n credu gwnaethant bwyso a mesur pethau a meddwl am y pethau oedd ganddyn nhw’n lleol ac roedden nhw eisiau gwella’u hardal leol – felly aeth y galw am gaffis trwsio drwy’r to.
‘Pan oedden ni’n siarad â’n gwirfoddolwyr drwy grŵp ffocws ar-lein, y prif beth yr oedd pobl yn ei golli oedd y ffrindiau roedden nhw wedi’u gwneud mewn Caffis Trwsio a’r ochr gymdeithasol.
‘Gwnaeth Caffis Trwsio wneud i ni deimlo’n fwy cysylltiedig, felly ar ôl y cyfnodau clo, aethant yn fwyfwy poblogaidd, a oedd yn falm i’r galon ar ôl cyfnod anodd dros ben!’
DYFODOL CAFFIS TRWSIO
Gyda chymorth polisi Llywodraeth Cymru a llwyddiant y prosiectau sydd wedi’u cyllido o dan yr LDTCS hyd yn hyn, gallech weld Caffi Trwsio ar eich stryd fawr chi’n fuan!
‘Rydyn ni’n gwybod y bydd Caffis Trwsio yn dod yn fwyfwy bwysig wrth i’r argyfwng costau byw waethygu,’ meddai Phoebe.
‘Rwy’n gobeithio y gallwn ni helpu cymunedau i liniaru rhywfaint o’r pwysau hynny, drwy fod yno i’w cefnogi ac ymuno â mudiadau eraill sydd hefyd yn gwneud hynny.
‘Mae’r ffaith bod mwy o siarad am Drwsio yn y cyfryngau, fel ‘The Repair Shop’ ar BBC One wedi helpu i’w normaleiddio a chael pobl i ddechrau meddwl yn wahanol am eu hymddygiadau.’
Felly beth yw dyfodol Caffis Trwsio Cymru?
‘Rydyn ni eisiau edrych ar rai o’r problemau mwy o faint sy’n wynebu Cymru,’ meddai Phoebe, ‘gan gynnwys nifer y siopau gwag ar strydoedd mawr a chael pobl i fod yn fwy cyfarwydd â thrwsio ac ailddefnyddio yn eu bywydau bob dydd.’
SUT I GYMRYD RHAN
Os ydych chi eisiau dod o hyd i ddigwyddiad ar eich pwys chi neu sefydlu eich Caffi Trwsio eich hun yn eich cymuned, ewch i Gaffi Trwsio Cymru am ragor o wybodaeth.
Mae’r LDTCS yn derbyn ceisiadau nawr ar gyfer prosiectau i helpu cymunedau sy’n byw o fewn pum milltir i orsafoedd trosglwyddo gwastraff neu safleoedd tirlenwi penodol i weithredu dros eu hamgylchedd lleol. Ewch i dudalen we’r LDTCS i weld a yw eich cymuned yn gymwys.