Dynes yn cael cymorth a chysur gan teulu a ffrindiau

Cael y diweddaraf yr Wythnos Ddiogelu hon

Cyhoeddwyd : 29/10/26 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Dyma grynodeb o’r digwyddiadau a chyfleoedd hyfforddi a fydd yn cael eu cynnig gan CGGC ac eraill rhwng 9 – 13 Tachwedd 2026 fel rhan o’r Wythnos Ddiogelu yng Nghymru.

DIGWYDDIADAU CGGC

AI a Diogelu: Adnabod ac Ymateb i Fygythiadau sy’n dod i’r golwg, ar y cyd ag Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol (ROCU) Tarian 

Dydd Mercher 11 Tachwedd 2026, 10 – 11.30am

Mae’r sesiwn hon yn edrych ar sut mae AI yn cael ei droi yn erbyn unigolion. Gan ddefnyddio’r ymchwil ar fygythiadau cyfredol gan blismyn y DU, mae’n egluro sut mae’r tactegau hyn yn gweithio, yr arwyddion i wylio amdanynt a’r camau ymarferol y gall pobl eu cymryd i amddiffyn eu hunain a’r rheini o’u hamgylch.

 

Sesiwn Ddiweddaru ar Ddiogelu 

Dydd Iau 12 Tachwedd 2026, 2.30 – 3.30pm

Dylai diogelu fod yn flaenoriaeth i bob mudiad gwirfoddol, yn enwedig y rheini sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion sy’n wynebu risg. Ymunwch â ni am gyflwyniad i ddiogelu wrth i ni ddathlu’r Wythnos Ddiogelu ac Ymddiriedolwyr a rhoi diweddariad i chi ar y newidiadau diweddaraf mewn diogelu, eich cyfrifoldebau a sut gallwn ni helpu.

DIGWYDDIADAU ERAILL

DBS

Hanfodion Datgelu a Gwahardd DBS

Dydd Llun 9 Tachwedd 2026, 10 – 11am

 

Sesiwn Ymwybyddiaeth y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Dydd Mercher 11 Tachwedd 2026, 2 – 3pm

Mae’r ddwy sesiwn hon yn rhoi trosolwg o’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), gan edrych ar feini prawf cymhwysedd gwiriad DBS a chyfrifoldebau mudiadau dros wneud atgyfeiriadau gwahardd.

 

Plant yng Nghymru

Newidiadau DBS Hydref 2026: Beth sy’n Newydd, Pwy sy’n cael ei Effeithio a Beth i’w Wneud

Dydd Mercher 11 Tachwedd 2026, 12.30 – 1.30pm

Mae’r weminar am ddim hon yn edrych ar y prif newidiadau DBS sydd wedi’u cyflwyno ers 1 Medi 2026 a beth maen nhw’n ei olygu i fudiadau sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion sy’n wynebu risg.

 

Bwrdd Diogelu Caerdydd a’r Fro

Mae nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal dros yr Wythnos Ddiogelu ar bynciau fel:

  • Atal hunanladdiad
  • Grŵmio neu gam-fanteisio
  • Rhwydweithiau ‘Com’
  • Diogelu a chamddefnyddio sylweddau
  • Trawma dirprwyol
  • Cam-drin plant yn rhywiol

A mwy…

Rhagor o wybodaeth, gan gynnwys dyddiadau, amserau a sut i gadw lle

 

Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru

Mae nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn ystod yr Wythnos Ddiogelu ar bynciau fel:

  • Dysgu o adolygiadau ymarfer yr Adolygiad Diogelu Unedig Sengl (SUSR)
  • Cam-drin wedi’i drefnu
  • Caethwasiaeth fodern a masnachu pobl
  • Misogynedd ar-lein
  • Chwilfrydedd proffesiynol

A mwy…

Rhagor o wybodaeth, gan gynnwys dyddiadau, amserau a sut i gadw lle 

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 16/10/26
Categorïau: Gwirfoddoli, Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Datgelu Enillwyr Gwobrau Elusennau Cymru 2026! 

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 01/10/26
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Hyfforddiant a digwyddiadau, Newyddion

Mae Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth yn ôl ar gyfer 2026!

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 24/09/26
Categorïau: Gwirfoddoli, Gwybodaeth a chymorth

Gwerthusiad manwl am ddim ar gyfer rhaglenni gwirfoddoli

Darllen mwy