Mae’r Ymddiriedolaeth Argyfyngau Cenedlaethol wedi partneru â ‘Crowdfunder’ i ddosbarthu’r arian sydd ar ôl o’r £1.2 miliwn o Gronfeydd Apêl y Coronafeirws. Mae cyllid cyfatebol ar gael i fudiadau sy’n rhedeg ymgyrchoedd ‘Crowdfunder’.
Mae’r £1.2 miliwn sydd ar ôl a godwyd gan yr Ymddiriedolaeth Argyfyngau Cenedlaethol (NET) mewn ymateb i bandemig y coronafeirws yn cael ei ddosbarthu drwy brosiect cyllid cyfatebol.
Bydd mudiadau gwirfoddol, gan gynnwys elusennau cofrestredig, grwpiau a gyfansoddwyd a chwmnïau buddiannau cymunedol sy’n derbyn rhoddion ar ‘Crowdfunder’ yn gallu cael cyllid cyfatebol yn erbyn 25 o roddion a dderbynnir ar y platfform.
Y ‘LOCAL ACTION FUND’
Mae’r ‘Local Action Fund’ (Saesneg yn unig) yn cynnig mwy nag £1.2 miliwn mewn cyllid cyfatebol i brosiectau sy’n gwneud gwahaniaeth positif yn eu cymunedau. Gall pob mudiad dderbyn hyd at £10,000 mewn cyllid cyfatebol i wella’u hymdrechion, a gellir ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw beth, o gefnogi costau craidd i helpu’r mudiad i lansio prosiect newydd.
Bydd pob mudiad sy’n cofrestru yn cael cyfle i gael cyllid cyfatebol o hyd at £250 ar 25 o roddion, hyd at gyfanswm o £10,000.
BETH YW’R AMODAU?
- Rhaid i’ch prosiect godi arian o leiafswm o 25 o gefnogwyr unigryw o fewn pedair wythnos.
- Am bob rhodd a roddir i’ch prosiect, bydd NET yn rhoi cyllid cyfatebol o hyd at £250 i chi. Felly os bydd eich prosiect yn derbyn rhodd o £20, bydd NET yn ychwanegu £20 arall. Os bydd eich prosiect yn derbyn rhodd o £500, yna byddwch chi’n derbyn £250 ychwanegol.
- Dim ond un rhodd y cefnogwr fydd yn cael cyllid cyfatebol (Ni fydd NET yn rhoi cyllid cyfatebol pan dybir bod cefnogwr wedi rhoi mwy nag un rhodd).
SUT I WNEUD CAIS
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y prosiect hwn, bydd angen i chi wneud cais erbyn 22 Hydref 2021. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn lansio eu hymgyrchoedd cyllido torfol wedyn rhwng 17 Tachwedd a 31 Mawrth 2022.
Gellir cael rhagor o wybodaeth a dolenni i’r ffurflen gais a’r meini prawf cymhwysedd ar wefan ‘Crowdfunder’ (Saesneg yn unig).
MWY AM GODI ARIAN AR-LEIN
Os hoffech chi ddysgu mwy am godi arian ar-lein, gan gynnwys cyllido torfol, edrychwch ar y Canllawiau Codi Arian Ar-lein gan ‘Local Giving’ ar Hwb Gwybodaeth Cefnogi Trydydd Sector Cymru.
Mae’r canllawiau yn cynnwys syniadau, awgrymiadau a thasgau ymarferol y gallwch chi eu gwneud i helpu i gynyddu’r tebygolrwydd o redeg ymgyrch ar-lein lwyddiannus (a chyllid torfol yn benodol) a all, yn achos y ‘Local Action Fund’, ddatgloi cyfleoedd cyllido ychwanegol ar gyfer eich mudiad.