Mae criw o bobl yn hapus i weld ei gilydd, maen nhw'n ymgasglu gyda staff eraill a gwirfoddolwyr o'r sector gwirfoddol yng Nghymru

Cadwch y dyddiad – mae gofod3 yn ôl yn 2024!

Cyhoeddwyd : 07/02/24 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Bydd gofod3, y gofod i’r sector gwirfoddol yng Nghymru, yn dychwelyd fel digwyddiad wyneb yn wyneb am y tro cyntaf ers 2019 ac rydyn ni’n methu aros i’ch gweld chi yno.

Rydyn ni’n dod â gofod3 yn ôl fel digwyddiad wyneb yn wyneb eleni am y tro cyntaf ers cyn y pandemig. Gobeithio y gwnewch chi ymuno â ni am amserlen gyffrous a phrysur o siaradwyr, dosbarthiadau meistr, trafodaethau panel a gweithdai. Gallwn ni eich sicrhau chi y bydd rhywbeth at ddant pawb.

Ac wrth gwrs, bydd dychwelyd i ddigwyddiad wyneb yn wyneb yn rhoi cyfleoedd di-ri i chi rwydweithio â’ch cymheiriaid o bob rhan o’r sector gwirfoddol, yn ogystal â sgwrsio â chydweithwyr o’r sectorau cyhoeddus a phreifat yn ein marchnad brysur.

CADWCH Y DYDDIAD

Bydd gofod3 yn cael ei gynnal yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr arbennig iawn sy’n dathlu 40 blynedd5 Mehefin 2024 yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Fel yn y blynyddoedd cynt, bydd y digwyddiad hwn am ddim i fynychu, ond rhaid cadw lle ymlaen llaw.

Rhowch y dyddiad yn eich dyddiadur, a gallwch chi ymuno â’n rhestr bostio gofod3 i gael y diweddaraf ar y rhaglen o ddigwyddiadau a bod y cyntaf i wybod pan fydd modd cadw lle ar y sesiynau.

ARCHEBU GOFOD AR GYFER DIGWYDDIAD AC ARDDANGOSFA

Oes gennych chi rywbeth i’w rannu gyda mudiadau gwirfoddol yng Nghymru? Beth am wneud cais i gynnal digwyddiad neu gael stondin arddangos yn gofod3?

Byddwn ni’n derbyn archebion am ddigwyddiadau ac arddangosfeydd yn fuan iawn, cofrestrwch eich diddordeb.

YNGLŶN Â GOFOD3

Digwyddiad a drefnir gan CGGC yw gofod3, mewn cydweithrediad â’r sector gwirfoddol yng Nghymru. Waeth a ydych chi’n ymddiriedolwr, yn aelod staff, yn wirfoddolwr neu’n bob un o’r rhain, mae gofod3 wedi’i ddylunio’n benodol i bobl sy’n gysylltiedig â mudiadau gwirfoddol yng Nghymru.

Cafodd gofod3 ei sefydlu’n gyntaf yn ystod gwanwyn 2017 fel digwyddiad undydd, blynyddol yng Nghaerdydd. Ar ôl gorfod canslo’r digwyddiad yn 2020 oherwydd y pandemig, gwnaethon ni gynnal gofod3 fel gŵyl wythnos o hyd ar-lein yn 2021 a 2022 ac rydyn ni wedi bod yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau bach  gofod3 yn ystod hydref a gaeaf 2023/2024.

Nod gofod3 o’r cychwyn cyntaf oedd dod â’r sector gwirfoddol ynghyd i ddysgu o’i gilydd ac ysgogi ei gilydd, felly rydyn ni wrth ein boddau ein bod yn dychwelyd i ddigwyddiad wyneb yn wyneb yn 2024.

WYTHNOS GWIRFODDOLWYR 2024

Eleni, mae’r Wythnos Gwirfoddolwyr yn 40 mlwydd oed! Bydd gofod3 yn cael ei gynnal ar 5 Mehefin 2024, yn agos at ddechrau’r Wythnos Gwirfoddolwyr, a bydd y rhaglen yn adlewyrchu hyn gyda digonedd o ddathlu gwirfoddoli yng Nghymru a thrafod arferion da.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 02/12/24
Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau, Newyddion

Cadwch y dyddiad – gofod3 2025

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/12/24
Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau, Newyddion

Integreiddio cynaliadwyedd yn eich cynllun busnes chi!

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 01/11/24
Categorïau: Cyllid, Hyfforddiant a digwyddiadau

Ble i ganolbwyntio eich egni codi arian

Darllen mwy