Ar ôl dychwelyd yn llwyddiannus i’n fformat wyneb yn wyneb gwreiddiol, rydym yn falch o gyhoeddi y bydd gofod3, gofod Cymru ar gyfer y sector gwirfoddol, yn ôl yn 2025.
Ym mis Mehefin, daethom â gofod3 yn ôl fel digwyddiad wyneb yn wyneb am y tro cyntaf ers cyn y pandemig. Diolch i bawb a ymunodd â ni am amserlen gyffrous a phrysur o siaradwyr, dosbarthiadau meistr, trafodaethau panel a gweithdai.
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd gofod3 yn dychwelyd ar 2 Gorffennaf 2025 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Mae’r digwyddiad yn parhau i fod yn rhad ac am ddim i fynd iddo, ond mae’n rhaid cadw lle ymlaen llaw. Nodwch y dyddiad yn eich dyddiadur a chofrestrwch ar ein rhestr bostio gofod3 i gael y diweddaraf am y rhaglen a chael gwybod pan fydd y system bwcio ar agor.
BETH YW GOFOD3?
gofod3 yw’r digwyddiad mwyaf o’i fath i’r sector gwirfoddol yng Nghymru. Mae gofod yn golygu lle a gofod3 yw ein lle ni ar gyfer y sector gwirfoddol yng Nghymru.
Mae gofod3 yn ddigwyddiad a drefnir gan CGGC, mewn cydweithrediad â’r sector gwirfoddol yng Nghymru. Waeth a ydych chi’n ymddiriedolwr, yn aelod staff, yn wirfoddolwr neu’n bob un o’r uchod, mae gofod3 wedi’i ddylunio’n arbennig i bobl sy’n ymwneud â mudiadau gwirfoddol yng Nghymru.
BETH I’W DDISGWYL
Gobeithio y gwnewch chi ymuno â ni am amserlen gyffrous a phrysur o siaradwyr, dosbarthiadau meistr, trafodaethau panel a gweithdai. Gallwn ni eich sicrhau chi y bydd rhywbeth at ddant pawb.
Nod gofod3 o’r dechrau oedd dod â’r sector gwirfoddol ynghyd i ddysgu o’i gilydd ac ysbrydoli ei gilydd. Bydd digonedd o gyfleoedd i rwydweithio â’ch cymheiriaid o bob rhan o’r sector gwirfoddol yn ogystal â chwrdd â chydweithwyr o’r sector cyhoeddus a phreifat a sgwrsio â nhw yn ein marchnad brysur.
ARCHEBU GOFOD AR GYFER DIGWYDDIAD AC ARDDANGOSFA
Oes gennych chi rywbeth i’w rannu gyda mudiadau gwirfoddol yng Nghymru? Beth am wneud cais i gynnal digwyddiad neu gael stondin arddangos yn gofod3?
Byddwn yn derbyn archebion am ddigwyddiadau ac arddangosfeydd yn fuan iawn, cofrestrwch eich diddordeb yma.