Ar Ddydd Mercher, Ebrill 14, daeth ystod eang o gynrychiolwyr sector gwirfoddol Cymru ynghyd i drafod beth allai bywyd tu hwnt i’r UE olygu ar gyfer y sector yng Nghymru.
Fe gynigodd y sesiwn gyfle i glywed gan bobl academaidd, cynrychiolwyr o’r undebau llafur a Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r hyn yr ydym wedi dysgu yn y 100 dydd ers i’r Cytundeb Masnach a Chydweithrediad ddod yn weithredol.
DOD Â LLEISIAU I’R TABL
Caniataodd trafodaeth ford gron i gynrychiolwyr ystyried oblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd mewn meysydd fel hawliau, cyfleoedd ar gyfer ein pobl ifanc, ariannu a pherthnasau.
Cafodd angen clir ei adnabod i’r sector ddefnyddio rhai o’r cyfleoedd a geir drwy’r Cytundeb Masnach a Chydweithrediad i leoli ei hun mewn modd fydd yn sicrhau y clywir ei lais er mwyn dylanwadu ar y gwir newidiadau y disgwyliwn ei weld wrth symud i dirwedd wahanol.
Bydd y cyfleoedd hyn yn caniatáu i’r sector ffurfio perthnasau newydd a chryfhau’r rhai sy’n bodoli eisoes gyda phartneriaid ar draws y Deyrnas Gyfunol, Ewrop ac ar lefel fyd-eang. I uchafu’r cyfleoedd hyn, bydd yn hanfodol i’r sector gael llais unedig, cyd-ddyheu a phartneriaethau gyda rhanddeiliaid o sectorau eraill, er mwyn symud ymlaen mewn modd cadarnhaol.
Er mwyn adeiladu ar y trafodaethau hyn, mae’r cynghorau gwirfoddol ar draws y pedwar cenedl yn cynnal digwyddiad pellach ar Ebrill 23. Y bwriad yw galluogi sefydliadau gwirfoddol o bobman ar draws y DG i sefydlu lle rhennir y pryderon, blaenoriaethau a chyfleoedd cyffredin. Bydd hyn yn cynnig cyfle i drafod cynrychiolaeth gydlynol wrth ystyried darpariaethau’r Cytundeb Masnach a Chydweithrediad ar gyfer cynrychiolaeth cymdeithas sifil a dialog. Er mwyn sicrhau eich lle yn y digwyddiad hwn, byddwch cystal â chofrestru yma.
BETH NESAF?
Yn yr wythnosau’n dilyn y digwyddiadau hyn, byddwn yn cymryd peth amser i sefydlu pa gefnogaeth y gallwn ei gynnig drwy CGGC, Canolfan Llywodraethiant Cymru, ein chwaer gynghorau a phartneriaid eraill, i sicrhau bod llais y sector yn glir ac yn cael ei glywed.
I sicrhau eich bod yn parhau i dderbyn diweddariadau, byddwch cystal â sicrhau eich bod wedi tanysgrifio i’n rhestr bost yma.