Mae’r Wythnos Ymddiriedolwyr yn ddigwyddiad blynyddol i ddangos y gwaith arbennig y mae ymddiriedolwyr yn ei wneud ac amlygu’r cyfleoedd i bobl o bob lliw a llun gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth.
Eleni, bydd yr Wythnos Ymddiriedolwyr (Saesneg yn unig) yn cael ei chynnal rhwng 7 ac 11 Tachwedd.
Mae bod yn ymddiriedolwr yn cynnwys ysgwyddo cyfrifoldebau sylweddol ac ymrwymo cryn dipyn o amser ac mae’r rôl bron bob amser yn ddi-dâl. Mae’r Wythnos Ymddiriedolwyr yn gyfle ffantastig i ddiolch i’ch ymddiriedolwyr am y gwaith y maen nhw’n ei wneud.
Y thema ar gyfer 2022 yw ‘Gwneud Gwahaniaeth mewn Oes Newidiol’.
Bydd CGGC a’n partneriaid, y cynghorau gwirfoddol sirol (CVCs) yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau yn ystod yr Wythnos Ymddiriedolwyr, felly cadwch lygad ar gylchlythyr a gwefan CGGC am ragor o fanylion a fydd yn dod yn fuan.
BETH YDYCH CHI’N MYND I’W WNEUD AR GYFER YR WYTHNOS YMDDIRIEDOLWYR?
Dyma rai syniadau ar gyfer cymryd rhan:
- Cymerwch yr amser i ddiolch i’ch ymddiriedolwyr am eu cyfraniad
- Defnyddiwch yr hashnod #WythnosYmddiriedolwyr i ymuno â’r drafodaeth ar gyfryngau cymdeithasol
- Ewch i un o’r digwyddiadau lleol neu genedlaethol a fydd yn digwydd yn ystod yr wythnos
- Achubwch ar y cyfle hwn i hysbysebu unrhyw leoedd gwag sydd gennych chi am ymddiriedolwyr
Dyma rai ystadegau diddorol am ymddiriedolwyr gan ymchwil ‘Taken on Trust’ y Comisiwn Elusennau:
- Mae oddeutu 700,000 o ymddiriedolwyr yng Nghymru a Lloegr
- Mae 93% o ymddiriedolwyr yn dweud bod y rôl yn bwysig neu’n bwysig iawn iddynt
- Mae 70% o ymddiriedolwyr yn gwirfoddoli ar gyfer elusennau llai
- Amcangyfrifir bod amser ymddiriedolwyr yn werth £3.5 biliwn y flwyddyn
Fodd bynnag, mae’r mwyafrif (92%) o ymddiriedolwyr yn bobl gwyn, hŷn gydag incwm ac addysg uwch na’r cyffredin, felly mae angen cynyddu’r amrywiaeth o ymddiriedolwyr a recriwtio pobl ag amrediad eang o gefndiroedd, profiadau a sgiliau.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddathlu’r Wythnos Ymddiriedolwyr gyda chi!
Cysylltwch â’ch CVC i gael gwybod beth sy’n digwydd yn lleol: Cefnogi Trydydd Sector Cymru
Eisiau’r newyddion diweddaraf, barna a chyhoeddiadau yn ogystal ag erthyglau defnyddiol ar bynciau sydd o bwys? Ymunwch gyda’n rhestr bostio. Bob wythnos rydym yn cynnig crynodeb o newyddion y sector wirfoddol a diweddariadau yn syth i’ch mewnflwch.