Mae Wythnos yr Ymddiriedolwyr yn cael ei chynnal rhwng 6 a 10 Tachwedd.
Mae Wythnos yr Ymddiriedolwyr (Saesneg yn unig) yn ddigwyddiad blynyddol i ddangos y gwaith arbennig y mae ymddiriedolwyr yn ei wneud ac amlygu’r cyfleoedd i bobl o bob cefndir gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth.
‘Mae Wythnos yr Ymddiriedolwyr yn amser i ni ddod ynghyd i ddathlu cyflawniadau bron un filiwn o ymddiriedolwyr ledled y DU. Diolch am yr amser, yr ymrwymiad a’r ymdrech rydych chi’n eu rhoi i’ch elusennau i’w helpu i ffynnu.’
Mae bod yn ymddiriedolwr yn cynnwys ysgwyddo cyfrifoldebau sylweddol ac ymrwymo cryn dipyn o amser ac mae’r rôl bron bob amser yn ddi-dâl, felly mae’r Wythnos yr Ymddiriedolwyr yn gyfle ffantastig i ddiolch i’ch ymddiriedolwyr am y gwaith y maen nhw’n ei wneud.
Y thema ar gyfer 2023 yw Llawer o leisiau. Yn gweithio gyda’i gilydd. Gyda diben.
MAE CGGC YN CYNNAL RHAGLEN GYFFROUS O DDIGWYDDIADAU AM DDIM AR GYFER YMDDIRIEDOLWYR:
Dydd Llun 8 Tachwedd, 11am: Rheoli anghytundebau rhwng ymddiriedolwyr mewnol mewn modd positif: Gwersi gan yr ‘Actor’s Benevolent Fund’
https://www.eventbrite.co.uk/e/739958986247?aff=oddtdtcreator
Dydd Mawrth 9 Tachwedd, 2pm: Gweithdy Hyrwyddwr y Mudiad Ymddiriedolwyr Ifanc
https://www.eventbrite.co.uk/e/young-trustees-movement-champion-workshop-tickets-748537153777?aff=oddtdtcreator
Dydd Iau 9 Tachwedd, 2pm: Gweminar Wythnos yr Ymddiriedolwyr: Crynodeb o lywodraethu elusennau!
https://wcva.cymru/cy/training-events/gweminar-wythnos-ymddiriedolwyr-crynodeb-o-lywodraethu-elusennau/
Mae llawer mwy o ddigwyddiadau ar brif wefan Wythnos yr Ymddiriedolwyr (Saesneg yn unig).
BETH YDYCH CHI’N MYND I’W WNEUD AR GYFER WYTHNOS YR YMDDIRIEDOLWYR?
Dyma rai syniadau ar gyfer cymryd rhan:
- Cymerwch yr amser i ddiolch i’ch ymddiriedolwyr am eu cyfraniad
- Defnyddiwch yr hashnod #WythnosYmddiriedolwyr i ymuno â’r drafodaeth ar gyfryngau cymdeithasol
- Ewch i un o’r digwyddiadau lleol neu genedlaethol a fydd yn digwydd yn ystod yr wythnos
- Achubwch ar y cyfle hwn i hysbysebu unrhyw leoedd gwag sydd gennych chi am ymddiriedolwyr
Dyma rai ystadegau diddorol am ymddiriedolwyr gan y Comisiwn Elusennau (gwefan Saesneg yn unig):
- Mae bron un filiwn o ymddiriedolwyr yng Nghymru a Lloegr
- Mae 93% o ymddiriedolwyr yn dweud bod y rôl yn bwysig neu’n bwysig iawn iddynt
- Mae 70% o ymddiriedolwyr yn gwirfoddoli ar gyfer elusennau llai
- Amcangyfrifir bod amser ymddiriedolwyr yn werth £3.5 biliwn y flwyddyn
Fodd bynnag, mae’r mwyafrif (92%) o ymddiriedolwyr yn bobl wyn, hŷn gydag incwm ac addysg uwch na’r cyffredin, felly mae angen cynyddu’r amrywiaeth o ymddiriedolwyr a recriwtio pobl ag amrediad eang o gefndiroedd, profiadau a sgiliau.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddathlu Wythnos yr Ymddiriedolwyr gyda chi yng Nghymru!
Cysylltwch â’ch Cyngor Gwirfoddol Sirol (CVC) i gael gwybod beth sy’n digwydd yn lleol: Cefnogi Trydydd Sector Cymru https://knowledgehub.cymru/cy/