Gofalwr sy'n helpu person oedrannus drwy ddarparu cymorth wrth gerdded

Bydd ymchwil yn edrych ar gyfraniad gwirfoddolwyr at ofal cymdeithasol

Cyhoeddwyd : 12/03/24 | Categorïau: Gwirfoddoli |

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn cynnal astudiaeth i ddeall tirwedd wirfoddoli’r maes gofal cymdeithasol yn well yng Nghymru.

YR ASTUDIAETH

Mae’r astudiaeth yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru o dan y Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal i ddeall cyfraniad gwirfoddolwyr a gofalwyr di-dâl at y gweithlu, ac i edrych ar ddatblygu model i gefnogi gwirfoddoli o fewn y maes gofal cymdeithasol. Mae’r astudiaeth yn cael ei chynnal gan Gofal Cymdeithasol Cymru mewn partneriaeth â Gwasanaethau Masnachol Prifysgol De Cymru, Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru a’r ‘Bayes Centre for Charity Effectiveness’.

Bydd yr astudiaeth yn edrych ar y canlynol:

  • Cwmpas a natur y dystiolaeth sy’n bodoli ar wirfoddoli yn y maes gofal cymdeithasol ledled y DU, a beth all Cymru ei ddysgu o hyn.
  • Sut mae gwirfoddoli yn cael ei ddeall, adnoddu, trefnu, rheoli a’i brofi mewn lleoliadau gofal cymdeithasol preswyl
  • Demograffeg y rheini sy’n gwirfoddoli mewn lleoliadau gofal cymdeithasol preswyl
  • Y prif heriau a chyfleoedd sy’n wynebu gwirfoddoli yn y maes gofal cymdeithasol yng Nghymru

Y GRŴP LLYWIO’R ASTUDIAETH

Mae Grŵp Llywio’r Astudiaeth, a gadeirir gan Gofal Cymdeithasol Cymru, eisoes wedi cwrdd, a byddant yn cwrdd tair gwaith arall dros oes yr astudiaeth. Byddant yn clywed gan groestoriad o ‘hysbyswyr allweddol’, yn enwedig y rheini sy’n gweithio yn y maes gofal cymdeithasol, er mwyn sicrhau cefnogaeth uwch-arweinwyr yn y sector a’r rheini sy’n agos at linell flaen darparu gwasanaethau. Bydd gan yr hysbyswyr allweddol hyn safbwyntiau sy’n ganolog i nodau’r astudiaeth a byddant yn helpu i fireinio cynnwys a geiriad arolwg.

Mae Grŵp Llywio’r Astudiaeth yn cynnwys cynrychiolwyr o fudiadau gofal cymdeithasol a gwirfoddoli allweddol.

CYFARFODYDD I DDOD

Bydd y tri chyfarfod i ddod yn canolbwyntio ar:

  •  Adolygu’r canfyddiadau o adolygiad llenyddiaeth
  • Cynllunio ar gyfer astudiaethau achos
  • Adolygu canfyddiadau’r astudiaethau achos
  • Cynllunio arolwg
  • Adolygu canfyddiadau’r arolwg
  • Cynllunio adroddiad terfynol
  • Argymhellion
  • Dosbarthu

Bwriedir cwblhau’r gwaith hwn erbyn diwedd y flwyddyn.

MWY AR HYN

I gael rhagor o wybodaeth am iechyd a gofal, ewch draw i dudalen Prosiect Iechyd a Gofal CGGC.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 02/08/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Adroddiad yn dangos bod gwirfoddoli yn cynyddu sgiliau a hyder

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 12/07/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Rôl gwirfoddoli mewn cartrefi gofal yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 21/06/24 | Categorïau: Dylanwadu | Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Perthnasau rhwng y sectorau gwirfoddol a statudol

Darllen mwy