Gwefan comisiwn elusennau

Bydd y Ddeddf Elusennau yn arwain at newidiadau i elusennau yng Nghymru

Cyhoeddwyd : 02/03/22 | Categorïau: Dylanwadu |

Mae Deddf Elusennau Llywodraeth y DU wedi cael Cydsyniad Brenhinol. Mae’r Ddeddf, a gyhoeddwyd cyn hyn yn Araith y Frenhines y flwyddyn ddiwethaf, yn gwneud nifer o newidiadau allweddol i Ddeddf Elusennau 2011.

Bydd y newidiadau yn berthnasol i fudiadau elusennol yng Nghymru a Lloegr. Mae’r newidiadau hyn yn cynnwys:

  • Ei gwneud hi’n haws i elusennau ac ymddiriedolwyr ddiwygio’u dogfennau llywodraethu neu Siartrau Brenhinol (gyda chymeradwyaeth y Comisiwn mewn amgylchiadau penodol).
  • Bydd ymddiriedolwyr yn gallu cael eu talu am nwyddau a roddir i elusen o dan amgylchiadau penodol, hyd yn oed os na nodir hyn yn y dogfennau llywodraethu. Bydd hyn yn rhoi’r hyblygrwydd i elusennau gael gafael ar nwyddau gan ymddiriedolwyr heb ganiatâd y Comisiwn.
  • Bydd gan elusennau mwy o hyblygrwydd i ddefnyddio ‘taliad gwaddol’- arian neu eiddo y rhagwelwyd y byddai gan fudiad am byth yn wreiddiol. Mae hyn yn cynnwys diwygiad sy’n caniatáu i ymddiriedolwyr fenthyg hyd at 25% o werth eu cyllid gwaddol heb gymeradwyaeth y Comisiwn.
  • Bydd elusennau yn gallu manteisio ar reolau symlach ar apeliadau aflwyddiannus. Er enghraifft, os na fydd apêl yn codi digon o arian, gall elusen wario rhoddion o dan £120 ar ddibenion elusennol tebyg heb orfod cysylltu â rhoddwyr unigol i gael caniatâd.
  • Bydd elusennau’n cael mynediad at gronfa llawer ehangach o gynghorwyr proffesiynol ar waredu tir, ac at reolau symlach ar ba gyngor y dylent eu cael.

Er bod y Ddeddf wedi cael Cydsyniad Brenhinol ac wedi dod yn rhan o’r gyfraith, mae’r Comisiwn Elusennau wedi nodi na fydd yr holl newidiadau hyn yn digwydd ar unwaith – bydd angen is-ddeddfwriaeth ar rai, a bydd eraill yn gofyn i’r Comisiwn addasu ei systemau a’i brosesau. Nod y Comisiwn yw rhoi’r holl newidiadau ar waith erbyn hydref 2023.

Mae CGGC yn croesawu’r newidiadau hyn a ddylai liniaru rhywfaint o’r pwysau rheoleiddiol ar ymddiriedolwyr a lleihau biwrocratiaeth ddiangen.

Gallwch chi ddarllen testun llawn y Ddeddf yma (Saesneg yn unig).

Os hoffech ddysgu mwy am faterion llywodraethu, mae gennym lawer o wybodaeth a dolenni defnyddiol ar ein tudalen Llywodraethu ac arweinyddiaeth.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 21/06/24 | Categorïau: Dylanwadu | Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Perthnasau rhwng y sectorau gwirfoddol a statudol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 25/03/24 | Categorïau: Dylanwadu |

Awgrymiadau Mark Drakeford ar gyfer dylanwadu ar bolisïau’r llywodraeth

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 16/02/24 | Categorïau: Dylanwadu | Gwybodaeth a chymorth |

Cynllun gweithlu yn chwilio am fewnwelediad i rôl gwirfoddolwyr mewn lleoliadau iechyd meddwl

Darllen mwy