Mae ‘Social Investment Scotland’ yn cynnal bŵt-camp manwerthu tridiau o hyd i fentrau cymdeithasol a mudiadau gwirfoddol â chynhyrchion, gwasanaethau neu brofiadau i’w gwerthu.
Mae Bŵt-camp Manwerthu 2023, a elwid yn ‘Academi Manwerthu’ o’r blaen, yn rhaglen drochi tri diwrnod sydd wedi’i dylunio i uwchsgilio mentrau cymdeithasol sy’n masnachu, neu unrhyw fath o fudiad gwirfoddol sy’n gwerthu cynhyrchion neu wasanaethau.
Wedi’i drefnu gan ‘Social Investment Scotland’ (SIS), mae’r bŵt-camp yn rhan o’i raglen ‘Retail for Change’ (Manwerthu i Newid) ac yn cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau meistr ar-lein gyda siaradwyr arbenigol o fusnesau blaenllaw.
Y MANYLION
Mae’r Bŵt-camp Manwerthu yn cael ei gynnal dros dri diwrnod, 15 – 17 Mawrth 2023, gyda sesiynau dyddiol rhwng 9am – 2pm.
Er bod y rhaglen wedi’i thargedu at fudiadau yn yr Alban, gall grwpiau yng Nghymru ymuno am ffi fechan o £100+TAW (ac mae mudiadau o Gymru sydd wedi mynychu academïau blaenorol wedi dweud wrthym ni ei fod, heb os, yn werth y pris mynediad).
BETH I’W DDISGWYL GAN FŴT-CAMP 2023
- Amrywiaeth o ddosbarthiadau meistr – Thema’r bŵt-camp yw ‘aliniad brand’ a bydd y mynychwyr yn cael y cyfle i glywed y tueddiadau a’r mewnwelediadau diweddaraf
- Siaradwyr arbenigol – Cyfle i glywed gan siaradwyr arbenigol ac entrepreneuriaid cymdeithasol ‘gwych’ a fydd yn rhannu eu profiadau a’u gwybodaeth
- ‘eBay for Change’ – Bydd cynrychiolwyr yn cael eu gwahodd i wneud cais i ymuno â rhaglen ‘eBay for Change’, sy’n helpu mentrau cymdeithasol i sefydlu a datblygu eu cynnyrch, gwasanaeth neu brofiad ar eBay
- Cwrdd â darpar brynwyr – Bydd y rhaglen yn eich cyflwyno i brynwyr masnachol allweddol ac yn rhoi’r cyfle i chi gael profiad gwerthfawr o frolio eich cynnyrch neu wasanaeth
SESIWN HOLI AC ATEB I FUDIADAU O GYMRU
Mae ein tîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru yn gobeithio trefnu sesiwn holi ac ateb ar gyfer grwpiau o Gymru cyn y bŵt-camp. Os hoffech ddod i’r digwyddiad hwn, gallwch chi gofrestru eich diddordeb drwy anfon e-bost at sic@wcva.cymru.