Bwrsariaeth arweinyddiaeth wedi dychwelyd

Bwrsariaeth arweinyddiaeth wedi dychwelyd

Cyhoeddwyd : 06/12/21 | Categorïau: Cyllid |

Am y tro cyntaf ers 2019, mae Bwrsariaeth Arweinyddiaeth Walter Dickie ar agor am geisiadau.

Nod Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie yw helpu arweinwyr yn y trydydd sector i ddatblygu eu sgiliau arwain entrepreneuraidd. Mae’r dyfarniad blynyddol yn rhoi £2,500 i gefnogi unigolyn yng Nghymru i ddod yn arweinydd gwell.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 14 Chwefror 2022.

ETIFEDDIAETH WALTER DICKIE

Fel aelod o fwrdd WCVA cafodd arbenigedd a phrofiad Walter Dickie, a’i ymroddiad i’r sector gwirfoddol, effaith ddofn ar waith WCVA ac ar y rheini a gafodd y pleser o weithio gydag ef.

Diolch i ymroddiad Walter, mae WCVA wedi gallu rhoi benthyg dros ddeg miliwn o bunnoedd i fudiadau cymunedol, llawer ohonynt ar waith yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

Yn drist iawn, bu farw Walter yn 2017 felly er cof amdano, ac i barhau i ddatblygu’r arweinyddiaeth entrepreneuraidd yn y sector gwirfoddol y rhoddodd ef gymaint o amser i’w chefnogi, mae CGGC wedi sefydlu Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie.

YNGLŶN Â’R BWRSARI

Bydd bwrsari gwerth £2,500 yn cael ei ddyfarnu bob blwyddyn i rywun mewn rôl arwain o fewn mudiad gwirfoddol yng Nghymru i’w helpu i ddod yn arweinydd mwy entrepreneuraidd. Gallai hyn fod yn rhywun sy’n gweithio mewn menter gymdeithasol sydd â syniad i ddatblygu eu gweithgaredd masnachu, neu arweinydd yn y sector sydd am gynhyrchu incwm drwy fasnachu am y tro cyntaf.

Mae’r terfynau ar sut y gellir gwario’r bwrsari yn agored ac anogir ymgeiswyr i feddwl am syniadau diddorol i gefnogi eu datblygiad eu hunain fel arweinydd entrepreneuraidd. Roedd Walter wrth ei fodd yn teithio ac yn dysgu, ac roedd WCVA am i’r bwrsari hwn adlewyrchu hynny. Gellid, er enghraifft, ddefnyddio’r arian:

  • ar gwrs astudio penodol
  • i ariannu ymweliad, dramor o bosib, i weld y ffordd y mae eraill yn gwneud pethau, neu
  • unrhyw beth y mae’r buddiolwr yn teimlo a fydd yn ei symud ymlaen ac yn symud ei fudiad ymlaen

Eich dychymyg yw’r unig gyfyngiad!

CYFYNGIADAU’R PANDEMIC

Datblygwyd cwmpas y fwrsariaeth cyn y pandemig ac rydyn ni’n sylweddol na allai teithio fod yn bosibl nac yn ddoeth y flwyddyn hon oherwydd COVID-19. Dilynwch ganllawiau’r llywodraeth ac ystyriwch a allai’r gweithgareddau yr ydych yn eu hamlinellu yn eich cais gael eu heffeithio gan newid i’r cyfyngiadau.

Oherwydd y coronafeirws, rydyn ni’n annog ymgeiswyr i feddwl yn wahanol am sut gallent ddefnyddio’r fwrsariaeth. Eleni, byddwn ni’n barod i wneud mwy nag un dyfarniad o fewn y £2,500 sydd ar gael os bydd ymgeiswyr yn gwneud cais am lai na’r holl swm oherwydd cyfyngiadau teithio neu derfynau COVID-19 eraill.

I wneud cais, e-bostiwch sic@wcva.cymru am ffurflen gais, neu i gael rhagor o wybodaeth ac enghreifftiau o sut y defnyddiwyd y fwrsariaeth yn y gorffennol, ewch i’n tudalen Bwrsariaeth Arweinyddiaeth Walter Dickie.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 18/11/24
Categorïau: Cyllid, Newyddion

‘Grymuso pobl i weithredu er mwyn gwella eu hamgylchedd lleol’

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 18/11/24
Categorïau: Cyllid

Cyllid ar agor i brosiectau sy’n fuddiol i gymunedau a’r amgylchedd

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 13/11/24
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Y diwrnod rhoi byd-eang

Darllen mwy