Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr (IiV) yw safon ansawdd y DU sy’n eich helpu i asesu a gwella ansawdd eich gwaith wrth reoli a chynnwys gwirfoddolwyr.

 

Beth yw Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr?

Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr (IiV) yw safon ansawdd y DU sy’n eich helpu i asesu a gwella ansawdd eich gwaith wrth reoli a chynnwys gwirfoddolwyr, profi a gwella effeithiolrwydd eich gwaith gyda gwirfoddolwyr a gwella enw da eich mudiad.

Mae ennill y safon yn dangos i’ch gwirfoddolwyr, a’ch darpar wirfoddolwyr, pa mor werthfawr ydyn nhw ac mae’n rhoi hyder iddyn nhw yn eich gallu i ddarparu profiad gwirfoddoli rhagorol. Mae hefyd yn sicrhau cyllidwyr ynghylch ansawdd eich arferion.

Beth ydy’r ansawdd IiV yn cynnwys?

Mae’r safon Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr (IiV) wedi bod ar waith ers 1995, a chafodd ei diwygio ym mis Mawrth 2021.

Er mwyn ennill y dyfarniad, mae angen i fudiadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr weithio ar chwe maes ansawdd.

  • Y weledigaeth ar gyfer gwirfoddoli
  • Cynllunio ar gyfer gwirfoddolwyr
  • Cynnwys gwirfoddolwyr
  • Recriwtio a chroesawu gwirfoddolwyr
  • Cefnogi gwirfoddolwyr
  • Gwerthfawrogi a datblygu gwirfoddolwyr

Gellir lawrlwytho’r safon lawn yn www.investinginvolunteers.co.uk

Drwy gydol y broses, bydd eich rheolwyr gwirfoddolwyr yn derbyn mentora, cefnogaeth a chyngor proffesiynol i’w helpu i reoli a recriwtio gwirfoddolwyr, trefnu eich polisïau a’ch gweithdrefnau a rhoi mwy o hyder iddynt ddarparu profiad gwirfoddoli o safon.

Beth yw’r broses IiV?

Ar ôl i chi gofrestru ar gyfer IiV, mae’n dilyn proses syml gyda chwe cham:

Cam 1 – Dechrau

Bydd gweithdy rhagarweiniol yn cael ei gynnig i’ch mudiad a bydd Asesydd IiV yn cael ei ddyrannu i chi a fydd yno i’ch cefnogi drwy gydol eich taith IiV. Mae deunyddiau ac adnoddau ar gael i’ch llywio a’ch tywys drwy’r broses.

Cam 2 – Hunanasesu

Byddwch chi’n cwblhau rhestr wirio hunanasesu er mwyn gweld lle mae eich mudiad ar hyn o bryd o ran y safon, a fydd eich asesydd IiV yn rhoi adborth ar hyn.

Cam 3 – Gwella arferion

Gyda’ch asesydd, byddwch yn datblygu cynllun ymarfer gwella, gan dynnu sylw at yr hyn y mae angen i chi ei wneud i fodloni’r safon. Gallwch drafod sut rydych am ddefnyddio’r cyfle i wella profiad eich gwirfoddolwyr.

Cam 4 – Asesu

Bydd yr asesydd/aseswyr yn cwrdd â’ch mudiad, ar-lein, dros y ffôn neu yn berson ac yn siarad â gwirfoddolwyr, staff, aelodau bwrdd ac ymddiriedolwyr. Byddent hefyd yn edrych ar ddogfennaeth ysgrifenedig. Byddant yn rhoi adroddiad ysgrifenedig i chi i esbonio sut rydych yn bodloni’r safon.

Cam 5 – Ennill a dathlu’r dyfarniad

Unwaith y byddwch chi wedi ennill y dyfarniad, bydd rhywun yn cysylltu â chi gyda gwybodaeth am y dystysgrif, y plac a’r logo a’u hannog i ddathlu a rhoi cyhoeddusrwydd i’ch dyfarniad. Mae eich dyfarniad yn ddilys am dair blynedd.

Cam 6 – Gwelliant parhaus ac adnewyddu eich dyfarniad

Nawr eich bod wedi ennill y dyfarniad, dyma’ch cyfle i barhau i gadw at yr arferion da rydych chi wedi’u cyflawni ac i barhau i wella, gan gynnwys rhoi sylw i unrhyw bwyntiau datblygu a nodwyd yn eich adroddiad.

Budsoddi mewn Gwirfoddolwyr yng Nghymru

Ar draws Cymru, bydd gennych fynediad at gefnogaeth TSSW, (Cefnogi Trydydd Sector Cymru), a all:

  • eich helpu i hyrwyddo eich cyfleoedd gwirfoddoli
  • rhannu syniadau ac arfer da ar ddatblygu eich rhaglen wirfoddoli neu reolaeth
  • cysylltu â rhwydweithiau lleol, rhanbarthol neu genedlaethol ar gyfer cefnogaeth cymheiriaid a/neu gydweithredu.

Beth yw Hanfodion IiV?

Offeryn ar-lein am ddim yw Hanfodion IiV gallwch ei ddefnyddio fel fframwaith i lywio eich arferion a gwirio lle rydych chi yn erbyn y safon ar hyn o bryd. Nid oes ymrwymiad i barhau â’r dyfarniad ar ôl cwblhau Hanfodion IiV.

Darganfod mwy an Hanfodion IiV

Cyflawnwyr IiV ac astudiaethau achos

Cael eich dyfynbris heddiw

Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr

Am fwy o wybodaeth am Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr, i lawrlwytho’r safon a chael dyfynbris, ewch i’r wefan.

Darganfod mwy

Y cyflawnwyr IiV presennol yng Nghymru

I weld y cyflawnwyr IiV presennol yng Nghymru ewch i dudalen *Cyflawnwyr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr.

*Saesneg yn unig