Grantiau yn cael parti!? Fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru yn 20 oed rydyn ni’n helpu’r mudiadau rydyn ni wedi’u cefnogi i ddathlu eu llwyddiannau.
Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru wedi helpu mudiadau gwirfoddol o bob math a maint i fuddsoddi yn y newid y maen nhw am ei weld. Rydyn ni’n falch iawn o’r effaith rydyn ni wedi’i chael drwy ein tîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru, ond nid ni yw ffocws ein dathliadau pen-blwydd yn 20 oed! Rydyn ni’n defnyddio’r achlysur i dynnu sylw at gyflawniadau anhygoel y mudiadau gwirfoddol rydyn ni wedi bod yn ddigon ffodus i weithio gyda nhw yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf.
DEWCH I DDATHLU!
I nodi 20 mlynedd o Fuddsoddiad Cymdeithasol Cymru, rydyn ni’n chwilio am 20 o’n derbynyddion benthyciadau blaenorol i’n helpu ni i ddathlu’r achlysur!
Yn hytrach na chynnal ein parti pen-blwydd ein hunain, rydyn ni’n cynnig grantiau o £1,000 i fudiadau daflu eu partïon eu hunain. Rydyn ni’n chwilio am fudiadau sydd eisiau dathlu eu llwyddiannau, gan amlygu a hyrwyddo’r effaith y maen nhw wedi’i chael ac yn parhau i’w chael mewn cymunedau ledled Cymru.
GADEWCH I NI SIARAD AM EICH EFFAITH
Dechreuodd Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru ei fywyd fel prosiect a gyllidwyd gan yr UE ac mae rhai o’r benthyciadau cynnar hynny a wnaethom wedi hen gael eu had-dalu, a’r arian wedi’i ail-fenthyg ddwy neu dair gwaith drosodd. Rydyn ni’n deall yn iawn bod effaith benthyciad yn hirdymor ac yn para ymhell ar ôl i’r arian gwreiddiol gael ei wario.
Mae ein dathliadau pen-blwydd wedi bod yn esgus gwych i ni rannu straeon ysbrydoledig am yr hyn y mae mudiadau gwirfoddol yng Nghymru wedi’i gyflawni gyda chyllid ad-daladwy. Mae’r cynllun grant parti pen-blwydd yn estyniad o hynny mewn gwirionedd, gadewch i ni gymryd ennyd i ddathlu a dangos i bobl beth sy’n bosibl!
PWY ALL YMGEISIO?
Os ydych chi wedi benthyg arian gennym yn y gorffennol, rydych chi’n gymwys i ymgeisio. P’un ai rydych eisoes wedi ad-dalu eich benthyciad neu’n parhau i fod ag un. Mae’r cynlluniau rydym wedi’u rhedeg yn cynnwys:
- Benthyciadau Pontio ac Adeiladu
- Cronfa Datblygu Asedau Cymunedol
- Cronfa Benthyciadau Asedau Cymunedol
- Cronfa Buddsoddi Cymunedol
- Cronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol
- Cronfa Gwydnwch y Trydydd Sector
- Cronfa Micro Fenthyciadau Cymru
Os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi’n gymwys, e-bostiwch ni ar sic@wcva.cymru ac fe wnawn ni wirio hynny i chi.
SUT I YMGEISIO
Bydd ceisiadau ar agor tan 2 Gorffennaf 2026 a’r dyfarniadau’n cael eu gwneud ym mis Gorffennaf.
Er mwyn ymgeisio bydd angen i chi gofrestru ar Borth Ymgeisio Amlbwrpas CGGC (MAP). Gall mudiadau gofrestru trwy fynd i’r wefan: map.wcva.cymru. Os ydych chi eisoes wedi cofrestru ar MAP, gallwch fewngofnodi drwy roi eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair ar y sgrin hafan.
Gallwch ddod o hyd i ‘Cynllun Grantiau Pen-blwydd Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru’ o dan y tab Ceisiadau.
BETH YDYM NI’N CHWILIO AMDANO?
Mae chwe chwestiwn byr, wedi’u sgorio sy’n canolbwyntio ar yr hyn rydych chi’n bwriadu ei wneud, sut byddwch chi’n cynnwys y gymuned gyfan a sut byddwch chi’n mesur llwyddiant. Gan ein bod wedi cefnogi dros 300 o fudiadau yn ystod ein hugain mlynedd, rydym ni’n disgwyl iddo fod yn eithaf cystadleuol. Yn ogystal â bod yn seiliedig ar sgoriau, bydd y dyfarniadau terfynol hefyd yn ceisio cwmpasu ardal ddaearyddol eang.
Nid ydym yn disgwyl unrhyw fformat penodol ar gyfer y parti. Mae’n wirioneddol i fyny i chi a’ch dychymyg ynghylch beth fydd yn gweithio orau yn eich cymuned. Y cwbl rydyn ni’n ei ofyn yw eich bod chi’n cael amser da ac yn rhannu lluniau neu fideos o’ch dathliadau. Mae ein panel dyfarnu yn edrych ymlaen yn fawr at weld eich cynlluniau!
Pob lwc gyda’ch ceisiadau ac os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost atom ar sic@wcva.cymru.
RHAGOR AM FUDDSODDIAD CYMDEITHASOL CYMRU
Gallwch ddysgu mwy am ein gwaith trwy fynd i dudalen Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru.