Rydyn ni’n dathlu 20 mlynedd! Mae mudiadau gwirfoddol sydd wedi’u cyllido gan Fuddsoddiad Cymdeithasol Cymru wedi gwneud gwahaniaeth enfawr yng Nghymru, ymunwch â ni wrth i ni ddathlu 20 mlynedd o fenthyca cymdeithasol a’n rhan ni yn y storïau ysbrydoledig hyn.

Pen-blwydd Hapus Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru!

Rydyn ni’n dathlu 20 mlynedd o Fuddsoddiad Cymdeithasol Cymru, ac yn rhannu storïau ysbrydoledig o’r pethau gweddnewidiol y mae mudiadau gwirfoddol wedi’u gwneud gyda chyllid ad-daladwy.

‘Mi fysa’r gymuned wedi fwy neu lai chwalu’

Fel rhan o ddathliadau 20 mlynedd Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru, gwnaethom ni siarad â Thafarn yr Iorwerth a oedd wedi defnyddio cyllid ad-daladwy i achub y cyfleusterau cymunedol pwysig hyn sydd gymaint yn fwy na dim ond tafarn.

'Gallwch chi weld yr effaith yn y cymunedau lleol'

Dyma stori The CAE, mudiad sy’n cefnogi pobl o gymunedau ethnig lleiafrifol i sefydlu eu busnesau eu hunain, dod yn weithgar yn economaidd a bod yn rhan o’r gymuned leol.

‘Y wên a’r llawenydd sy’n dweud y stori go iawn’

Wrth i ni ddathlu 20 mlynedd o Fuddsoddiad Cymdeithasol Cymru, dyma Alun Jones i adrodd y stori o sut dechreuodd popeth a pham ei fod yn parhau i’n codi ni o’n gwlâu.

Ar y dudalen hon:

  • Ynglŷn â Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru
  • Cysylltu â ni
  • Benthyciadau Pontio ac Adeiladu
  • Cronfa Ynni Glân
  • Cronfa Benthyciadau Asedau Cymunedol
  • Ein cronfeydd presennol a chymhwysedd
  • Gwasanaeth newid cyflenwr ynni
  • Cynlluniau blaenorol
Centre for African Entrepreneurship (CAE) Salsa class for local community, two women are smiling and taking part
Alun Jones, Head of Social Investment Cymru receiving an award at the Social Enterprise Awards

Ynglŷn â Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru

Rhoi arian ar waith mewn cymunedau

Mae Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru (SIC) yn rhoi cymorth ariannol i fentrau cymdeithasol yng Nghymru trwy amrediad o grantiau a benthyciadau.

Rydyn ni’n buddsoddi mewn mudiadau sydd eisiau cynhyrchu mwy o incwm neu ehangu eu hamrediad o wasanaethau, a mudiadau sydd wedi cael trafferth cael cyllid grant ar gyfer prosiectau newydd yn y gorffennol.

(Llun: Casglu gwobr Social Enterprise UK am Fargen Mentrau Cymdeithasol y Flwyddyn. Ni oedd yr enillwyr yn 2017 a 2025)

Siaradwch â ni cyn gwneud cais

Oes gennych chi brosiect mewn golwg ac yn credu y gallem ni ei gyllido? Cysylltwch â thîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru yn CGGC i siarad am eich syniadau a gweld a allech fod yn gymwys i gael cyllid.

Two members of staff from WCVA are laughing as they sit at an information point for delegates at WCVA's flagship event, gofod3

Ein cronfeydd presennol

Ydych chi’n gymwys i gael cyllid?

  • Yng ngŵydd hinsawdd ariannol heriol, mae’r cynllun Benthyciad Pontio ac Adeiladu yn helpu mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i ailstrwythuro neu newid y ffordd y maen nhw’n gweithredu.
  • Mae’r Gronfa Ynni Glân yn cynorthwyo mudiadau gwirfoddol yng Ngogledd Cymru i leihau allyriadau carbon a chreu arloesedd mewn ynni glân.
  • Wedi’i chyllido gan Lywodraeth Cymru, mae’r Gronfa Benthyciadau Asedau Cymunedol yn cynnig benthyciadau ariannol i grwpiau sy’n ceisio dod ag eiddo o dan berchnogaeth gymunedol.
  • Mae’r Gronfa Fuddsoddi Cymunedol yn gronfa fenthyciadau i fusnesau cymdeithasol sydd eisiau ehangu, cynhyrchu mwy o incwm neu brynu ased.  Ein nod yw benthyca pan na fydd  benthycwyr traddodiadol yn fodlon gwneud hynny.
  • Mae Cronfa Micro Fenthyciadau Cymru wedi’i chyllido trwy Fanc Datblygu Cymru i gefnogi mentrau bach a chanolig drwy ’ficro’ fenthyciadau bach.
  • Mae Bwrsariaeth Arweinyddiaeth Walter Dickie yn wobr flynyddol o £2,500 i gefnogi unigolion yn y sector gwirfoddol i ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth.

Gwasanaeth Newid Cyflenwr Ynni

Mae ein cyflenwr dibynadwy, Utility Aid, wedi lansio gwasanaeth newid cyflenwr newydd i’ch helpu chi i gymharu prisiau ynni. Gall mudiadau gwirfoddol ddefnyddio’r gwasanaeth i gael mynediad di-oed at ddyfynbrisiau cyfleustodau masnachol o restr o gyflenwyr dibynadwy sydd wedi cael eu credyd wedi’u dilysu.

Mae’r gwasanaeth hefyd yn ddefnyddiol os ydych chi’n prynu eiddo newydd ar gyfer eich mudiad ac eisiau amcangyfrifo’r costau rhedeg; gall eich helpu i greu cynllun busnes neu lunio cyllideb ar gyfer eich cais am fenthyciad.

Am ragor o wybodaeth, ewch i switching.utility-aid.co.uk (Saesneg yn unig).

Cynlluniau blaenorol

Chwilio am rywbeth rydyn ni wedi’i rhedeg yn y gorffennol? Edrychwch ar ein rhestr o gynlluniau blaenorol.

Cysylltu â ni

Os oes diddordeb gennych chi, cysylltwch â ni am sgwrs gychwynnol drwy ffonio 0300 111 0124 neu e-bostio buddsoddiadcymdeithasolcymru@wcva.cymru.