Teulu o bedwar yn dal dwylo ac yn cerdded ar lwybr trwy'r goedwig

Buddsoddi mewn atal yn ‘cadw pobl yn iach ac yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau’

Cyhoeddwyd : 29/01/25 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi adroddiad newydd, ‘Buddsoddi mewn Cymru Iachach: blaenoriaethu atal’ a dyma rhai pwyntiau allweddol.

YR ADRODDIAD

Mae’r adroddiad hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amlygu pwysigrwydd buddsoddi mewn mesurau atal i nid yn unig gadw pobl yn iach ond hefyd i drechu anghydraddoldebau iechyd a chynnig gwerth am arian hirdymor.

Mae’r adroddiad yn edrych ar raglenni llwyddiannus o dri chyfnod bywyd, y blynyddoedd cynnar a phlant, oedolion iach a heneiddio’n iach, ac yn dangos ymyriadau llwyddiannus a all fod yn fuddiol i gymunedau yn ystod pob cyfnod.

BLYNYDDOEDD CYNNAR A PHLANT

Un canfyddiad allweddol yn yr adroddiad yw bod cyfradd marwolaeth plant yng Nghymru 70% yn uwch i blant yn y cymunedau mwyaf difreintiedig o’i chymharu â’r rheini mewn ardaloedd mwy cefnog.

Wrth fynd i’r afael â hyn, mae’r adroddiad yn nodi nifer o ymyriadau effeithiol:

  • Gwasanaethau integredig ar gyfer iechyd meddwl mamau a rhieni
  • Rhaglenni addysg blynyddoedd cynnar yn arbennig ar gyfer teuluoedd incwm isel
  • Rhaglenni sy’n cefnogi menywod i roi’r gorau i ysmygu yn ystod beichiogrwydd

OEDOLION IACH

I oedolion, mae’r adroddiad yn amlygu bod gan y rheini yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig risg llawer uwch o farw o achosion y gellid eu hatal. Ymhlith y prif ymyriadau a all helpu i leihau’r risg hon mae:

  • Dulliau amlgydrannol o leihau hunan-niweidio a hunanladdiad
  • Rhaglenni gweithgarwch corfforol i liniaru gordewdra a chlefydau cysylltiedig fel diabetes
  • Rhannu data rhwng mudiadau, gan leihau’r gost sy’n gysylltiedig â thrais

HENEIDDIO’N IACH

Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu gwahaniaeth mawr mewn disgwyliad oes pobl, gyda bwlch o 17 mlynedd rhwng menywod a bwlch o 13 mlynedd rhwng dynion sy’n byw yn ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig Cymru. Mae’r ymyriadau sy’n ceisio gwella ansawdd bywyd oedolion hŷn yn cynnwys:

  • Rhaglenni ac ymyriadau i hyrwyddo byw’n annibynnol i bobl hŷn
  • Rhaglenni i fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd
  • Rhaglenni rheoli cyn-diabetes

Mae’r adroddiad yn tanlinellu buddion ariannol ymyriadau iechyd cyhoeddus, gan nodi eu bod yn cynnig elw o £14 am bob £1 a fuddsoddir.

AM FWY O WYBODAETH

I ddarllen yr adroddiad llawn.

I wybod mwy am waith CGGC yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 13/01/25
Categorïau: Dylanwadu, Gwybodaeth a chymorth

Rheoliadau newydd ar gyfer caffael gwasanaethau iechyd

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 13/12/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

CLlLC yn amlygu pwysau ariannu ‘anghynaladwy’

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 06/12/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Cyhoeddi enillydd bwrsariaeth arweinyddiaeth 2024

Darllen mwy