Mae pobl yn codi eu dwylo mewn digwyddiad gan y Llywodraeth i ofyn cwestiynau dybryd am y newidiadau i Gyfraniadau Yswiriant Gwladol

Brwydro yn erbyn effaith cyllideb y DU ar fudiadau gwirfoddol

Cyhoeddwyd : 29/11/24 | Categorïau: Dylanwadu | Newyddion |

Rydym yn cydweithio â phartneriaid a mudiadau gwirfoddol i fynd i’r afael ag effaith y newidiadau i Yswiriant Gwladol Cyflogwyr yng Nghymru a’r DU.

Gwnaeth Llywodraeth newydd y DU ddal sylw pobl gyda Chyllideb yr Hydref tra wahanol i’r rhai rydym wedi’u gweld yn y blynyddoedd diwethaf.

Er ein bod yn croesawu’r setliad ariannol mwyaf erioed i Gymru a’r addewidion o gydweithio’n agosach â Llywodraeth Cymru, gwnaeth y gyllideb hefyd gyflwyno heriau sylweddol i’r sector gwirfoddol. Mae CGGC yn gweithio gyda phartneriaid i ddylanwadu ar benderfynwyr a lleihau’r effaith.

YR EFFAITH A DDISGWYLIR

Fel yw’r achos bob amser, bydd cyllideb y DU yn cael effeithiau amrywiol iawn, rhai na fydd yn dod i’r amlwg tan ar ôl i Lywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol lunio eu cyllidebau. Rydym wedi nodi dau faes o bryder yn syth i’r sector gwirfoddol – y cynnydd yng Nghyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyflogwyr, a’r Cyflog Byw Cenedlaethol newydd.

Mae’r ddau gynnydd hyn yn rhoi mwy o straen ariannol ar fudiadau sydd eisoes yn llywio costau rhedeg aruthrol o uchel, galw cynyddol am wasanaethau a chyfleoedd cyfyngedig am gyllid. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y bydd gan fudiadau gwirfoddol lai o allu i ddarparu gwasanaethau hanfodol a chadw staff, yn enwedig mewn marchnad lafur sydd eisoes yn dynn.

Mae’r Charity Finance Group wedi cyhoeddi *crynodeb fanwl o beth fydd y gyllideb yn ei olygu i elusennau. Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi cyhoeddi *blog sy’n egluro’r effaith eang yng Nghymru.

YMATEB CGGC AR LEFEL Y DU

Gwnaethom ymuno â phrif fudiadau’r sector ledled y DU *i alw ar Ganghellor y Trysorlys i ad-dalu mudiadau gwirfoddol am y cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn unol â’r ad-daliad a addawyd i gyflogwyr y sector cyhoeddus. Yn anffodus, *ysgrifennodd y Canghellor yn ôl atom yn ddiweddar yn gwrthod y cais. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i gynllunio ein camau nesaf.

Wrth edrych ymlaen, rydym eisiau sicrhau bod Adolygiad o Wariant Llywodraeth y DU yn cyflwyno cyllid teg, amlflwyddyn i lywodraethau datganoledig ac yn ennyn polisi cyllidol y DU i gael ei drin mewn modd sy’n ystyried datganoli. Gyda’n gilydd, rydym yn cyflwyno’r gofynion hyn mewn *llythyr at y Canghellor gan y Grŵp Cymdeithas Sifil.

SIARAD AR RAN Y SECTOR YNG NGHYMRU

Diolch i’r ymatebion ac astudiaethau achos amserol y gwnaethoch eu cyflwyno, bu modd i ni weithredu’n gyflym ac ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg yn gofyn iddo chwyddo contractau a chyflwyno mesurau lliniaru yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru.

Cafodd ein llythyr agored sylw ar deledu, radio a gweisg cenedlaethol a *sylw ar gyfryngau ar-lein. Ers hyn, mae ffigyrau gwleidyddol allweddol o wrthbleidiau wedi ymuno â’r sgwrs, gan ddangos ymwybyddiaeth a chefnogaeth i’r sector gwirfoddol ar draws y pleidiau.

Cafodd effaith y cynnydd yng Nghyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyflogwyr ar elusennau yng Nghymru ei chodi droeon yn y cyfarfod llawn drwy gwestiynau i’r Prif Weinidog, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol.

Arweiniodd Plaid Cymru drafodaeth Senedd ar effaith y cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr a chyflwyno cynnig yn adleisio ein gofyniad i Drysorlys y DU ad-dalu mudiadau gwirfoddol, gan wneud dadl gref drwy astudiaethau achos y sector gwirfoddol.

Roedd yn siomedig gweld y cynnig yn colli’r bleidlais yn y Senedd ac yn cael ei ddisodli gan gynnig a gefnogir gan Lafur Cymru nad oedd yn cyfeirio o gwbl at y sector gwirfoddol. Gwnaeth y drafodaeth hon ddenu *mwy o sylw yn y cyfryngau.

CAMAU NESAF

Ein blaenoriaeth yw cynnal momentwm yr ymgyrch hon tan i ni sicrhau ymrwymiadau gweladwy i roi cymorth priodol i’r sector gan bob lefel o’r llywodraeth. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda mudiadau gwirfoddol a phartneriaid i sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed, yng Nghymru a ledled y DU.

Wrth i ni edrych ymlaen at Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru (sy’n bwriadu cael ei chyhoeddi ar 10 Rhagfyr 2024), mae arnom angen eich help i gyflwyno dadl gref dros y sector gwirfoddol.

Cwblhewch a rhannwch ein harolwg deg munud o ‘gyflwr y sector’. Y dyddiad cau yw 6 Rhagfyr 2024.

*Saesneg yn unig

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 13/01/25
Categorïau: Dylanwadu, Gwybodaeth a chymorth

Rheoliadau newydd ar gyfer caffael gwasanaethau iechyd

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 08/11/24
Categorïau: Cyllid, Dylanwadu, Newyddion

CGGC yn rhannu pryderon y sector ar gynnydd Yswiriant Gwladol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 04/10/24
Categorïau: Dylanwadu, Newyddion

Llythyr agored i’r cabinet newydd

Darllen mwy