I ddathlu eu blwyddyn gyntaf fel prosiect, mae ein tîm Partneriaeth Natur Lleol yn rhannu eu cynnydd a rhai enghreifftiau o brosiectau gwych y maen nhw wedi helpu i’w hwyluso yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Mae prosiect Partneriaeth Natur Lleol (LNP) Cymru yn brosiect a gyllidir gan Lywodraeth Cymru, sy’n ceisio adeiladu rhwydwaith adfer byd natur ledled Cymru.
Mae’r bartneriaeth yn cynnwys pob awdurdod lleol ac awdurdod parc cenedlaethol ledled Cymru, Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru, CGGC a Chanolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol Cymru (LERC).
Mae Cydlynydd LNP ym mhob Awdurdod Lleol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol ledled Cymru, sydd mewn sefyllfa unigryw i gyflwyno camau gweithredu effeithiol ar lefel leol a chyfrannu at yr agenda genedlaethol ar gyfer adfer byd natur.
Mae ein cenhadaeth yn syml: ailgysylltu pobl â byd natur er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei ddiogelu a’i ofalu amdano, nawr ac yn y dyfodol.
Bydd y prosiect yn adeiladu rhwydwaith adfer byd natur, gan ymhél pobl a chymunedau, busnesau a phenderfynwyr â chamau gweithredu ymarferol a chynlluniau strategol ar gyfer Cymru iach a gwydn sy’n gyfoeth o fyd natur.
Lle rydyn ni arni
Mae LNP Cymru yn brosiect tair blynedd, ac rydyn ni dim ond ar ddechrau ein hail flwyddyn!
Cafodd llawer o gynnydd ei wneud yn y flwyddyn gyntaf, gan gynnwys sicrhau bod gennym Gydlynydd LNP ym mhob rhanbarth a dechrau datblygu a thyfu rhwydweithiau lleol.
Er bod COVID-19 wedi oedi cynnydd rhai prosiectau ar y tir, mae ein cydlynwyr wedi bod yn brysur yn cynllunio a rhwydweithio ac maen nhw’n barod i fynd allan eto cyn gynted ag y bydd hi’n ddiogel i wneud hynny.
I roi blas i chi ar waith LNP Cymru, dyma rai enghreifftiau o brosiectau a hwyluswyd gan ein LNPs yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Conwy
Bu LNP Conwy yn gweithio mewn partneriaeth â rheolwyr claddfeydd i ysgrifennu darnau ar reoli cadwraeth byd natur i’w cynnwys yng Nghynlluniau Rheoli Mynwentydd a Chladdfeydd Awdurdod Lleol Conwy.
Drwy wneud hyn, bydd yn sicrhau bod claddfeydd ledled yr ardal yn cael eu rheoli mewn ffordd sydd nid yn unig yn brydferth, ond sydd hefyd yn fuddiol i fioamrywiaeth.
Caerffili
Yn LNP Caerffili, bu’r Parcmyn Cefn Gwlad yn gweithio gyda nifer o ysgolion ac eco-glybiau i adeiladu a gosod bocsys gwenoliaid.
Dysgodd y plant lawer am wenoliaid, sut i’w diogelu a sut i’w hannog i greu cynefinoedd ar adeiladau eu hysgolion.
Sir Benfro
Bu LNP Sir Benfro yn gweithio gyda nifer o bartneriaid i greu coetir newydd yng Nghas-blaidd.
Daeth y prosiect i fod pan gafodd bydwraig leol ei hysbrydoli gan y Cynllun Plant!, lle y caiff coeden ei phlannu ar gyfer pob plentyn sy’n cael ei eni yng Nghymru. Aeth y tîm ymlaen i blannu 1,300 o goed, sy’n cynrychioli nifer y plant sy’n cael eu geni yn Sir Benfro bob blwyddyn.
Bydd y coed newydd hefyd yn helpu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd drwy atal llifogydd a chysylltu cynefinoedd.
Bro Morgannwg
Gwnaeth LNP Bro Morgannwg weithio gyda nifer o grwpiau partneriaeth i gyflawni prosiect dad-ddofi tir ar gwrs golff naw twll.
Roedd hyn hyd yn oed yn cynnwys plannu ardal enghreifftiol a oedd yn dangos tair techneg wahanol o hau blodau gwyllt (glaswellt blodau gwyllt, cymysgedd o bridd a hadau a hau hadau) er mwyn dangos i unrhyw un sy’n ystyried datblygu dolydd blodau gwyllt sut mae pob dull yn perfformio a sut i reoli ardaloedd o’r fath.
Sut gallwch chi gymryd rhan
Fel y gwelwch chi, mae LNP Cymru yn gweithio gydag amrywiaeth eang o bobl a mudiadau, gan ganolbwyntio ar yr hyn sydd ei angen yn eu hardal leol a defnyddio’u cysylltiadau i roi camau gweithredu wedi’u targedu ar waith yn effeithiol.
Gall ein Cydlynwyr LNP fod y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer unrhyw un sydd eisiau helpu byd natur yn ei ardal leol.
Os hoffech chi gymryd rhan yn y prosiect am ba bynnag reswm, gallwch ddod o hyd i’ch cydlynydd ar wefan Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru drwy glicio ar eich awdurdod lleol a dod o hyd i’w manylion cyswllt.
Os hoffech chi wybod rhagor am LNP Cymru, gallwch chi fynd i’w gwefan yn LNP.cymru a chysylltu’n uniongyrchol â’r tîm LNP.