Mae cynulleidfa fawr o bobl yn eistedd yn yr ystafell wrth i rywun wneud cyflwyniad

Ble i ganolbwyntio eich egni codi arian

Cyhoeddwyd : 01/11/24 | Categorïau: Cyllid | Hyfforddiant a digwyddiadau |

Rydym yn falch o groesawu Open am ddigwyddiad ar-lein i rannu mewnwelediadau codi arian o’u hastudiaeth Charity Benchmarks diweddaraf gyda’r sector yma yng Nghymru.

BETH YW CHARITY BENCHMARKS?

Mae Charity Benchmarks yn casglu data gan elusennau canolig a mawr ledled y DU ynghylch eu hymdrechion codi arian. Mae’r adroddiad dilynol yn edrych ar y costau, y refeniw a’r dangosyddion perfformiad allweddol (KPIs) sydd y tu ôl i fwy na biliwn o bunnoedd o incwm a godir yn y DU bob blwyddyn. Y nod yw cyflwyno’r wybodaeth sydd ei hangen ar godwyr arian y DU i wneud penderfyniadau gwell, helpu i godi mwy o arian a sicrhau bod eu hachosion yn cael cymaint â phosibl o effaith.

Cafodd adroddiad Charity Benchmarks 2023 ei ryddhau yn gynharach yr haf hwn, ac er mai  mudiadau gwirfoddol canolig a mawr yw’r elusennau y cesglir data ganddynt, gall gweddill y sector ddysgu llawer o’r data.

NOD Y DIGWYDDIAD

Serch y cynnydd mewn incwm codi arian, gwnaeth chwyddiant ddifetha gwaith caled y sector. Yn ôl y data hirdymor yng ngwaith ymchwil Charity Benchmarks eleni, y gwir amdani yw bod cyfartaledd yr incwm a godwyd wedi lleihau i gyfranogwyr mewn termau real dros y bum mlynedd ddiwethaf. Ond mae gobaith a chyfle, os ydych chi’n edrych yn y lle cywir.

Nod y sesiwn hon yw eich cynorthwyo i weld ble i ganolbwyntio eich egni a’ch adnoddau pan ddaw hi i godi arian. Byddwch chi’n canfod pa ffrydiau incwm sydd wedi gweld y twf mwyaf, pa sianel sy’n denu’r mwyaf o roddwyr, pa effaith mae’r argyfyngau parhaus wedi’i chael ar berfformiad codi arian a llawer mwy.

BLE A PHRYD

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar-lein ddydd Mawrth 26 Tachwedd 2024 rhwng 2 a 3pm.

Byddem wrth ein boddau pe baech chi’n gallu ymuno â ni yn y digwyddiad a, gobeithio, dysgu rhywbeth i gefnogi ymdrechion codi arian eich mudiad.

Rhagor o fanylion a chofrestru ar gyfer y digwyddiad.

Am ragor o wybodaeth am Open, ewch i: opencreates.com (Saesneg yn unig)

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 18/11/24
Categorïau: Cyllid, Newyddion

‘Grymuso pobl i weithredu er mwyn gwella eu hamgylchedd lleol’

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 18/11/24
Categorïau: Cyllid

Cyllid ar agor i brosiectau sy’n fuddiol i gymunedau a’r amgylchedd

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 13/11/24
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Y diwrnod rhoi byd-eang

Darllen mwy