An older man and a young man smile at each other with sitting in front of a laptop | Dyn hŷn a dyn ifanc yn gwenu ar ei gilydd gydag eistedd o flaen gliniadur

Blas ar wirfoddoli i bobl ifanc yng Nghaerdydd

Cyhoeddwyd : 04/11/22 | Categorïau: Gwirfoddoli |

Gall chwilio’r amser i wirfoddoli, astudio a gwneud gweithgareddau allgyrsiol fod yn heriol. Gwnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro roi’r cyfle i bobl ifanc roi cynnig ar wirfoddoli yn ystod eu gwyliau haf.

Gwnaeth y Prosiect Haf i Bobl Ifanc gynnig cyfle tymor byr i wirfoddoli dros gyfnod o chwe wythnos. Cafodd 20 o bobl ifanc, rhwng 16 a 25 oed, eu dewis ar gyfer y rhaglen.

Rhoddwyd hyfforddiant i ddod yn ffrind dementia (gwefan Saesneg yn unig), yn ogystal â’r swît lawn o hyfforddiant cynefino craidd sydd ei angen ar y bwrdd iechyd. Gwnaeth gwirfoddolwyr gymryd rhan mewn sesiynau dwy awr bob wythnos a symud ymlaen drwy’r rolau gwirfoddoli gwahanol: Tîm Croeso, Arolwg Cleifion a Chyfeillion Cleifion.

Roedd y bobl ifanc yn awyddus i gael y mwyaf o’r profiad, gan gynnwys gwella eu sgiliau mewn gwrando gweithredol, datrys problemau, cyfathrebu â phobl o bob oed a gweithio o’u pen a’u pastwn eu hunain. Gwnaeth y profiad wella eu hyder a chynyddu eu gwydnwch personol, ynghyd â’u gallu i ddangos empathi at gleifion.

Dywedodd un gwirfoddolwr ‘mae wedi bod yn fewnweledol ac yn werthfawr am resymau amrywiol. Er enghraifft, rwyf wedi gwella sgiliau sylweddol yn sgil y profiad ffantastig hwn. Hefyd, roedd hi’n hynod ddiddorol cael profiad o leoliad gofal iechyd a chael gwybodaeth ddefnyddiol gan aelodau staff.’

Disgrifiodd un arall yr hyn yr oedd wedi’i ennill o’r cyfle: ‘Rwy’n credu cyfathrebu, gwaith tîm a dim ond sgwrsio â llawer o’r cleifion. Fe wnaethon ni roi tawelwch meddwl iddyn nhw ac roedd hi’n wych siarad am gymaint o wahanol storïau – roedden ni’n gallu uniaethu â chymaint o gleifion.’

Gwerthfawrogodd y staff bresenoldeb ac ymgysylltiad gwirfoddolwyr ifanc, gan gydnabod y buddion i gleifion a phwysigrwydd annog diddordeb pobl ifanc mewn gyrfa o fewn y gwasanaeth iechyd yn y dyfodol:

‘Gwnaeth y ddau wirfoddolwr hyn yn ffantastig. Roedd ganddyn nhw bedwar claf yn yr ystafell ddydd yn gwneud cwisiau, gemau a sesiynau canu.’

‘D’oes gen i ddim byd ond canmoliaeth iddyn nhw; roedden nhw’n gwrtais, yn gallu addasu i anghenion y cleifion, yn parchu galluoedd cleifion ac yn amyneddgar. Os mai’r rhain yw dyfodol y GIG, rwy’n credu ein bod ni’n mynd i fod yn iawn!’

Mae llawer o’r bobl ifanc wedi aros y tu hwnt i leoliad yr haf, gan barhau i wirfoddoli gyda’r bwrdd iechyd, naill ai fel Cyfeillion Cleifion neu fel aelodau o Bwrdd Iechyd Ieuenctid Caerdydd a’r Fro.

Eisiau’r newyddion diweddaraf, barna a chyhoeddiadau yn ogystal ag erthyglau defnyddiol ar bynciau sydd o bwys? Ymunwch gyda’n rhestr bostio. Bob wythnos rydym yn cynnig crynodeb o newyddion y sector wirfoddol a diweddariadau yn syth i’ch mewnflwch.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 02/08/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Adroddiad yn dangos bod gwirfoddoli yn cynyddu sgiliau a hyder

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 12/07/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Rôl gwirfoddoli mewn cartrefi gofal yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 21/06/24 | Categorïau: Dylanwadu | Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Perthnasau rhwng y sectorau gwirfoddol a statudol

Darllen mwy