Bil newydd arfaethedig yn trin y sector fel ‘partner iau’

Bil newydd arfaethedig yn trin y sector fel ‘partner iau’

Cyhoeddwyd : 30/04/21 | Categorïau: Dylanwadu |

Mae CGGC wedi ymateb i ymgynghoriad diweddar Llywodraeth Cymru ar y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru).

Mae’r Bil newydd hwn yn gofyn am farnau ar sut i ddefnyddio deddfwriaeth i roi’r argymhellion ar waith; mae’n nodi darpariaethau ar gyfer sefydlu system o amcanion gwaith teg er mwyn sicrhau dull cyflogi cyson, da a diogel; mae’n gosod mesurau i sicrhau bod caffael cyhoeddus yn cael ei wneud gan ystyried llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol; ac yn nodi amcanion caffael cymdeithasol gyfrifol. Mae gan y sector, fel darparwyr gwasanaethau cyhoeddus ledled y wlad, ran fawr mewn sut y caiff y gwasanaethau hyn eu caffael – yn enwedig wrth i ni weithio tuag at adfer o’r pandemig.

Yn ein hymateb, rydyn ni’n nodi’r canlynol:

  • Rydyn ni’n cefnogi nod y Bil o sicrhau y gall ‘gweithwyr sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i allu gweithio mewn amgylchedd teg, diogel, iach a chynhwysol, eu bod yn cael eu gwobrwyo’n deg, bod eu hawliau’n cael eu parchu’, ond mae angen gwneud llawer o waith i gyflawni hyn.
  • Dylai egwyddorion partneriaeth gymdeithasol y Bil gynnwys ymrwymiad at gyd-gynhyrchu, cynaliadwyedd gwasanaethau a’r adferiad gwyrdd.
  • Rhaid i’r Bil roi blaenoriaeth i ddarparu cyfleoedd gwaith teg ar gyfer y rheini sydd wedi’u heffeithio’n fwyaf anghymesur gan y pandemig.
  • Mae cyllid un mlynedd ar gyfer mudiadau’r sector yn arwain yn aml at waith ansicr i staff, sy’n sylfaenol annheg. Rhaid rhoi sylw i hyn.
  • Rhaid i strategaethau caffael cyrff cyhoeddus ddangos y byddant o fudd i gymunedau.
  • Nid yw cael un cynrychiolydd o’r sector gwirfoddol ar y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol – o’i gymharu â thri yr un o’r sectorau cyhoeddus a phreifat a naw o undebau llafur – yn ddigon. Mae’r sector yn haeddu llais cryfach. Yn ôl y strwythur cyfredol, ymddengys mai partner iau yw’r sector. Mae’r cydbwysedd o bŵer yn anghywir yma.
  • Trwy roi llais mor gryf i Undebau Llafur ar y Cyngor, gallai lleisiau’r holl rai hynny nad ydynt yn aelodau o Undebau Llafur, gan gynnwys llawer o Gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol gael eu colli.
  • Un o’r prif wersi sydd wedi’i ddysgu yn sgil yr ymateb i COVID-19 yw bod angen lleihau biwrocratiaeth, ond mae perygl y bydd y Bil hwn yn ychwanegu ati.

Gallwch chi ddarllen ein hymateb llawn yma.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 21/06/24 | Categorïau: Dylanwadu | Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Perthnasau rhwng y sectorau gwirfoddol a statudol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 25/03/24 | Categorïau: Dylanwadu |

Awgrymiadau Mark Drakeford ar gyfer dylanwadu ar bolisïau’r llywodraeth

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 16/02/24 | Categorïau: Dylanwadu | Gwybodaeth a chymorth |

Cynllun gweithlu yn chwilio am fewnwelediad i rôl gwirfoddolwyr mewn lleoliadau iechyd meddwl

Darllen mwy