Dynes yn cymryd nodiadau mewn cyfarfod mewn caffi prysur

Diweddariad: Beth sy’n digwydd gyda’r Elusen Ddibynadwy yng Nghymru?

Cyhoeddwyd : 04/06/21 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Dyma ddiweddariad i elusennau yng Nghymru sydd â’r Marc Elusen Ddibynadwy (PQASSO cyn hyn) neu sy’n mynd drwy’r broses asesu ar hyn o bryd.

Fel y gwyddoch o bosibl, mae chwaer-gyngor CGGC yn Lloegr, NCVO, wedi gwneud y penderfyniad anodd i symud y safon Elusen Ddibynadwy i ddarparwr newydd. Maen nhw mewn trafodaethau uwch â’u darparwr dymunol, The Growth Company ac yn gobeithio llofnodi cytundeb llawn â nhw erbyn Mehefin 2021.

Nid yw ‘The Growth Company’ yn bwriadu newid y safon, y strwythur prisio na’r gostyngiad a gynigir i aelodau NCVO a CGGC yn sylweddol. Bydd NCVO yn gweithio gyda ‘The Growth Company’ i wneud yn siŵr bod y safon yn parhau i ddiwallu anghenion y sector.

Mae NCVO wedi cyflwyno Cwestiynau Cyffredin i’r elusennau sy’n ymwneud â’r Elusen Ddibynadwy sy’n ateb cwestiynau ynghylch yr hyn y mae’r newidiadau yn eu golygu, yn dibynnu ar ble rydych chi yn y broses. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu bryderon, gallwch edrych ar y dudalen a fydd yn cael ei diweddaru’n gyson yma Diweddariad ar yr Elusen Ddibynadwy (Saesneg yn unig)

ELUSEN DDIBYNADWY YNG NGHYMRU

Mae CGGC wedi ymwneud â’r Elusen Ddibynadwy, a chyda PQASSO cyn hynny, ers blynyddoedd. Ers 2019, rydyn ni wedi cynnal y Prosiect Elusen Ddibynadwy yng Nghymru, sydd wedi’i gyllido gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru, mewn partneriaeth ag NCVO. Bydd y prosiect hwn, sy’n ceisio hyrwyddo’r Elusen Ddibynadwy yng Nghymru, yn dod i ben ym mis Mehefin 2021.

Yn ôl gwaith ymchwil diweddar a wnaed gan CGGC, mae elusennau a chyllidwyr yn cytuno ar bwysigrwydd sicrhau ansawdd o fewn y sector gwirfoddol.

Byddwn yn parhau i gefnogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru gyda llywodraethu da, ac rydyn ni’n credu bod sicrhau ansawdd yn rhan bwysig o hyn. Mewn ymateb i ddiwedd y prosiect a’r newid cyflenwr, mae CGGC yn adolygu’r Elusen Ddibynadwy yng Nghymru. Byddwn ni’n gweithio gyda Richard Newton Consultancy i gael barn y sector ar sut i fwrw ymlaen â hyn. Gallwch gael gwybod mwy am y gwaith a sut i gymryd rhan yma.

Byddwn ni’n parhau i weithio gydag NCVO a ‘The Growth Company’ i sicrhau bod gwybodaeth am y cyfnod pontio yn cael ei rhannu â’r sector.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 04/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Sut i gymryd rhan yn Wythnos Elusennau Cymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 03/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Swyddi Wag – Ymunwch â thîm cyllid CGGC

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 23/09/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Adroddiad newydd yn canfod bod gwirfoddolwyr yn lleihau’r pwysau ar staff rheng flaen y GIG

Darllen mwy