Mae Prosiect Iechyd a Gofal CGGC wedi derbyn cyllid newydd ar gyfer y ddwy flynedd nesaf.
Nod y Prosiect Iechyd a Gofal, sydd wedi’i gyllido gan Lywodraeth Cymru ers 2022, yw integreiddio mudiadau’r sector gwirfoddol a gwirfoddolwyr yn well yn y system iechyd a gofal cymdeithasol, a chysylltu’r sector â phenderfynwyr. Ers ei lansiad, mae’r Prosiect wedi gwneud cynnydd sylweddol, gan geisio gwella cydberthnasau, gwirfoddoli a chymorth ar draws y system iechyd a gofal.
Mae David Cook, Swyddog Prosiect Iechyd a Gofal Cymdeithasol CGGC, yn dathlu cyflawniadau’r Prosiect ers 2022 ac yn edrych ar yr hyn sydd i ddod fel rhan o Gyfnod 2 y Prosiect.
ADEILADU’R SYLFEINI
Gosodwyd y sylfeini ar gyfer y Prosiect ym misoedd cynnar 2022, ac roedd y tîm yn ei le’n swyddogol erbyn Mehefin y flwyddyn honno. Aethpwyd ati’n strategol i ddechrau i nodi heriau allweddol ac alinio ymdrechion ar draws sectorau, gan ddatblygu dadansoddiad ‘coeden broblemau’ a Theori Newid. Gwnaeth yr ymdrechion hyn helpu i lunio gweledigaeth glir ar gyfer ein gwaith.
CRYFHAU CYDWEITHREDIAD
Un o nodau mawr y Prosiect yw datblygu a chryfhau rhwydweithiau’n barhaus. Ers ei ddechreuad, mae’r Prosiect wedi cynnal nifer o gyfarfodydd â Grŵp Cynllunio Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Sector Gwirfoddol. Mae’r cyfarfodydd hyn wedi bod yn allweddol i feithrin cydweithrediad ar draws y sector a, diolch i gyfarfodydd ychwanegol rheolaidd gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’i Weinidogion, gyda Llywodraeth Cymru. Mae gennym hefyd rwydwaith Helplu Cymru yn rhan o’n Prosiect, sy’n dwyn ynghyd pobl â diddordeb mewn datblygu gwirfoddoli er budd iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Dyma rai o’r uchafbwyntiau o gyfnod cyntaf Helplu Cymru:
- Cydgynhyrchu Siarter newydd, Siarter cydberthnasau gwirfoddoli a’r gweithle.
- Gweithio gyda thri Bwrdd Iechyd i ddatblygu gwasanaethau newydd i werthuso a sefydlu rôl gwirfoddoli o fewn gofal diwedd oes. Mae’r canlyniadau cyhoeddedig ar y wefan ac yn cynnwys *adroddiad prosiect o’r DU.
- Cydgynhyrchu Fframwaith ar gyfer gwirfoddoli ym maes iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn ymwreiddio gwirfoddoli o fewn ‘ecosystemau’ lleol cynllunio, darparu a chefnogi.
- Cydgynhyrchu taflen wybodaeth, ‘Gwirfoddoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol: safonau ac adnoddau dysgu’, er mwyn darparu cyfeiriad cyffredin i gynefino a hyfforddi gwirfoddolwyr.
- Lansio rhaglen beilot ‘Gwirfoddoli i Yrfa’, er mwyn datblygu cysylltiadau rhwng gwirfoddoli o fewn y GIG a datblygu gyrfa.
- Cafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan gyllid grant i ddatblygu llwybrau ‘gwirfoddoli i yrfa’ ar sail cyfeillio ar wardiau.
Mae cydweithrediad y Prosiect â mudiadau dylanwadol fel Comisiwn Bevan wedi arwain at adroddiadau gwerthfawr ar gyfraniad gwirfoddolwyr a’r trydydd sector i iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Dyma’r papurau, Gwerthoedd a gwerth gwirfoddoli: ein hased cudd a Gwerthoedd a gwerth y trydydd sector mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
Un o gyfraniadau arbennig o unigryw’r Prosiect Iechyd a Gofal yw ei gydweithrediad â Gofal Cymdeithasol Cymru i ddatblygu rhaglen Arweinyddiaeth Dosturiol. Mae’r fenter hon, sy’n dod ag arweinwyr ynghyd o’r sector gwirfoddol a’r sector cyhoeddus, yn meithrin diwylliant o ofal tosturiol sy’n hanfodol mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.
DYLANWADU AR BOLISI
Un o amcanion allweddol y Prosiect yw dylanwadu ar y blaenoriaethau polisi yng Nghymru, ac mae’r tîm wedi mynd ati’n weithredol i gymryd rhan mewn cyfarfodydd allweddol sy’n ymwneud â pholisïau. Mae’r rhain wedi cynnwys trafodaethau ynghylch datblygu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol, Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Ail-gydbwyso Gofal a’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol. Mae’r Prosiect hefyd wedi gweithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a Gofal Cymdeithasol Cymru (GCG) i gynnwys llwybr ‘gwirfoddoli i yrfa’ yng nghynllun datblygu gweithlu GCG.
Mae llwyddiant y prosiect peilot ar wirfoddoli mewn cartrefi gofal, a arweinir gan Age Cymru, wedi ennyn trafodaethau ar ledaenu’r fenter ledled y wlad. Yn yr un modd, gwnaeth partneriaeth strategol â Chymorth Canser MacMillan – sydd bellach wedi dod i ben – wella’r mynediad i wybodaeth a chymorth canser ar lefel gymunedol.
CODI YMWYBYDDIAETH
Mae ymgysylltu â’r cyhoedd ehangach wedi bod yn flaenoriaeth. Cyflwynodd y Prosiect ddigwyddiadau ar bynciau a oedd yn amrywio o wirfoddoli yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol i ddatrysiadau gofal iechyd digidol. Mewn cydweithrediad ag Iechyd a Gofal Digidol Cymru a Cwmpas, gwnaeth y Prosiect gyd-noddi Uwchgynhadledd Gofal Iechyd Digidol Trydydd Sector, gan atgyfnerthu safle’r trydydd sector fel cyfrannwr allweddol i ddatrysiadau gofal iechyd arloesol.
Mae’r Prosiect hefyd wedi cynhyrchu adnoddau gwerthfawr, gan gynnwys ffeithlun sy’n dangos maint, graddfa a gwerth mudiadau trydydd sector a gofalwyr di-dâl yn y system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Yn ogystal â hyn, mae wedi cyhoeddi papurau briffio ac ymatebion i ymgynghoriadau, gan sicrhau bod llais y sector gwirfoddol yn cael ei glywed mewn cylchoedd creu polisïau.
BETH NESAF?
Wrth i’r Prosiect symud yn ei flaen, mae’r ffocws yn parhau ar ddyfnhau ei effaith ar draws y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol. Byddwn yn parhau â’n gwaith rheolaidd, cynnal cyfarfodydd, hyrwyddo cydweithrediad ar draws sectorau, codi ymwybyddiaeth o faterion sy’n effeithio ar fudiadau’r sector gwirfoddol yn y maes iechyd a gofal, ymhlith lliaws o bethau eraill. Rydym yn dechrau Cyfnod 2 y Prosiect drwy adnewyddu ein Theori Newid, ond rydym hefyd wedi dechrau gweithio ar nifer o fentrau newydd eraill.
Byddwn yn:
- Gweithio gyda Phrifysgol De Cymru ar brosiect i nodi gwerth economaidd y gwaith y mae mudiadau’r sector gwirfoddol yn ei wneud yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.
- Cynnal digwyddiad yn gofod3 a fydd yn dwyn ynghyd cynrychiolwyr yr sector gwirfoddol ar Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol, gyda’r nod o sefydlu rhwydwaith parhaol a fydd yn wirioneddol wella llais y sector ar Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol.
- Cydweithio â’r Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol ar brosiect i gefnogi’r broses o sefydlu cynghreiriau ar gyfer comisiynu gwasanaethau yng Nghymru.
Mae gan Helplu Cymru ei gynlluniau newydd ei hun, fel:
- Cefnogi ymdrechion i ‘fabwysiadu a lledaenu’ rolau gwirfoddoli sydd wedi’u peilota’n llwyddiannus.
- Edrych ar sut gall gwirfoddoli gysylltu ag agenda’r gweithlu a chyda cyfleoedd mewn iechyd a gofal.
- Cydgynhyrchu adnoddau e-ddysgu a rennir mewn cydweithrediad â phartneriaid cenedlaethol.
- Datblygu’r seilwaith gwirfoddoli ar gyfer gofal cymdeithasol mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol, gan ddylanwadu ar ddatblygiadau byrddau iechyd yn y maes gwirfoddoli.
- Creu ffynonellau data cenedlaethol ar gyfer gwirfoddoli mewn cydweithrediad â mudiadau partner.
- Cynnal gwaith ymchwil ar atal, gan ganolbwyntio’n benodol ar gydrannau sy’n ymwneud â gwirfoddoli.
A dim ond y dechrau yw hynny. Rydyn ni ar dân i ddechrau o ddifrif ar Gyfnod 2 y gwaith Prosiect. Gyda mwy o ddatblygiadau ar y gorwel, gobeithir y bydd ein cyflawniadau yn y dyfodol yn helpu i wella gwydnwch rôl y sector gwirfoddol yn y system iechyd a gofal yng Nghymru ymhellach.
DARGANFOD MWY
Os hoffech wybod mwy neu gymryd rhan yn ein gwaith, gallwch fynd i dudalen we’r Prosiect, neu cysylltu â ni yn iechydagofal@wcva.cymru.
*Saesneg yn unig