Gyda mwy o bwyslais nag erioed ar bwysigrwydd amrywiaeth, mae nifer o elusennau yn ceisio recriwtio ymddiriedolwyr iau.
Mae cyfartaledd oedran ymddiriedolwyr yn y DU rhwng 55 a 64 oed ac mae ymddiriedolwyr yn debygol o fod yn hŷn mewn elusennau bychain.
Mae llawer o fyrddau’n ymwybodol o’r mater hwn ac yn awyddus i recriwtio ymddiriedolwyr iau, ond mae llawer yn dweud wrthym hefyd eu bod yn ei chael yn anodd denu pobl ifanc.
Os mai recriwtio ymddiriedolwyr iau yw un o ‘Addunedau Blwyddyn Newydd’ eich elusen, beth am dreulio rhywfaint o amser yn darllen yr astudiaethau achos diweddar hyn gan bobl ifanc yng Nghymru sy’n rhoi gwybodaeth am eu cymhellion a’u profiadau?
Taith y Gwirfoddolwr i Ymddiriedolwr
4 Peth i’w Dysgu gan Ymddiriedolwr Ifanc
Dengys yr astudiaethau achos nad yw pobl ifanc yn amharod i’r syniad o ddod yn ymddiriedolwyr, ond rhaid tynnu eu sylw at y cyfleoedd sydd ar gael ac at y manteision o dderbyn hyfforddiant, mentora a chefnogaeth yn eu rolau.
Felly, meddyliwch sut gallwch wneud eich mudiadau’n fwy croesawgar a hygyrch i bobl ifanc. Defnyddiwch y llwyfannau cywir i gyfathrebu am gyfleoedd gan ddweud yn glir pa gefnogaeth a hyfforddiant a fydd yn cael eu darparu.
Adnoddau defnyddiol
Llawlyfr cynnwys ymddiriedolwyr ifanc
Ymgyrch #iwill